Swydd Wag -- Penodi Is-gadeirydd (Cyfarwyddwr Anweithredol) Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion y swydd

Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cymru
£23,192 y flwyddyn. (£223 y dydd).
8
mis

Rôl y corff

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru. Ei weledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru ac, wrth gyflawni'r weledigaeth hon, mae'n chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu’r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda chymunedau, sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol, gweinidogion a swyddogion ac ystod eang o bartneriaid gan gynnwys y sector gwirfoddol, tai, addysg a'r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol. Mae ganddo rôl gynyddol hefyd o ran cefnogi iechyd cyhoeddus yn rhyngwladol fel Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy ei holl gysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.

Disgrifiad o'r swydd

  • Weithredu fel Cadeirydd yn absenoldeb Cadeirydd y Bwrdd;

  • Cefnogi'r Cadeirydd a'r Bwrdd yn ehangach yn eu cyfrifoldebau fel yr amlinellir uchod;

  • Cynrychioli'r Cadeirydd a'r sefydliad mewn digwyddiadau yn ôl disgresiwn y Cadeirydd;

  • Mynd i gyfarfodydd Grŵp Cyfoedion Is-gadeiryddion GIG Cymru, gan gymryd rhan weithredol wrth gynrychioli buddiannau'r sefydliad a rhoi gwybod i'r Cadeirydd a chynrychiolwyr eraill y sefydliad fel y bo'n briodol; sicrhau bod ystyriaethau iechyd y boblogaeth yn cael eu cynrychioli yn ystod trafodaethau; mynd i gyfarfodydd Gweinidogol rheolaidd gyda'r grŵp cyfoedion hwn;

  • Cynrychioli'r sefydliad mewn maes gwaith arwain system;

  • Parodrwydd i gadeirio a/neu fod yn aelod o un neu ragor o is-bwyllgorau Bwrdd ICC;

  • Cymryd rhan yn rhagweithiol a dylanwadu ar faterion strategol ar ran y Cadeirydd a'r Bwrdd;

  • Mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r bwrdd yn gyhoeddus ac ennyn hyder y cyhoedd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

  • Profiad o arwain a/neu ddatblygu sefydliad preifat, cyhoeddus neu drydydd sector llwyddiannus, neu elfen sylweddol o’r gwaith hwnnw, gyda'r gallu i edrych ymlaen a darparu arweinyddiaeth strategol;

  • Profiad o ddeall y berthynas rhwng dyrannu adnoddau a rheoli a chyflawni blaenoriaethau gwasanaeth o fewn fframwaith o lywodraethu cadarn;

  • Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn;

  • Y gallu i weithio gyda swyddogion gweithredol er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn arwain y sefydliad yn effeithiol. Pan fydd yn ofynnol, byddwch yn dangos sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddwyn swyddogion gweithredol i gyfrif am berfformiad, tra'n cynnal perthynas adeiladol â hwy;

  • Y gallu i gyfrannu at lywodraethiant y sefydliad, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith;

  • Profiad o weithio o fewn amgylcheddau rhanddeiliaid cymhleth a thimau amlddisgyblaethol.

Dyddiadau cyfweliadau

7 Rhagfyr 2022
7 Rhagfyr 2022

Dyddiad cau

14/11/22 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:

Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol, cysylltwch â:

Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd,

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ffôn: 07711 819665

E-bost: helen.bushell@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i wefan y sefydliad: https://icc.gig.cymru/

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.