Swydd Wag -- BWRDD CYNGHOROL DATBLYGU DIWYDIANNOL CYMRU (WIDAB) - Penodi 2 Aelod

Manylion y swydd

BWRDD CYNGHOROL DATBLYGU DIWYDIANNOL CYMRU (WIDAB)
Cynhelir cyfarfodydd yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghymru, mewn rhai amgylchiadau cynhelir y cyfarfodydd yn rhithwir.
£198 y dydd ynghyd â chostau teithio a threuliau rhesymol eraill.
1
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd WIDAB yn wreiddiol o dan Adran 13 Deddf Datblygu Diwydiannol Cymru 1975 ("Deddf 1975") i roi cyngor i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gymorth ariannol i'r Diwydiant ac roedd yr un adran yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol benodi aelodau gyda phrofiad a chapasiti penodol.

Er mai cynghori yw swyddogaeth y Bwrdd, os yw yn gwneud argymhellion i Weinidog yr Economi a bod y gweithredu yn groes i'r argymhelliad, gall y Bwrdd ofyn am i ddatganiad gael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad ynghylch y rheswm dros y newid yn y penderfyniad.

Disgrifiad o'r swydd

  • Dealltwriaeth gref o'r cyfleoedd economaidd rhanbarthol, bygythiadau a chryfderau yng ngwahanol ranbarthau Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru, tra'n gwerthfawrogi y materion sy'n berthnasol i Gymru yn genedlaethol megis effeithiau gadael yr UE ac adferiad economaidd yn dilyn y pandemig byd-eang.

  • Y gallu i ddadansoddi ac asesu gwybodaeth fasnachol, dechnegol ac ariannol (yn ysgrifenedig fel arfer) sy'n cael ei ddarparu i gefnogi ceisiadau grant a disgrifio prif gryfderau a gwendidau achosion a'r casgliadau a ddaw iddynt.

  • Sgiliau cyfathrebu cadarn a hyder wrth gyflwyno safbwyntiau yn seiliedig ar brofiad penodol.

  • Bod yn barod i wrando ac asesu'r cyfraniadau gan gydweithwyr ar y Bwrdd a swyddogion.

  • Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymrwymiad iddynt

  • Deall Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymo iddynt.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

  • Twristiaeth a Bwyd

  • Y Diwydiannau Creadigol

  • TGCh, Technoleg Ariannol a Gwasanaethau Digidol

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch ac Adeiladu cyfoes

  • Yr amgylchedd ac economi carbon isel

Dyddiadau cyfweliadau

27 Chwefror 2023
27 Chwefror 2023

Dyddiad cau

12/12/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus publicappointments@gov.wales

Am fwy o wybodaeth am rôl y WIDAB a rôl yr Aelodau cysylltwch â Leia Davies@llyw.cymru

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru ewch i Penodiadau cyhoeddus | LLYW.CYMRU


Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.