Swydd Wag -- Penodi Aelod - Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Manylion y swydd

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Cynhelir cyfarfodydd yng Nghaerdydd a ledled Cymru - ar hyn o bryd mae'r rhain yn cael eu cynnal drwy fideo-gynadledda
£282 y dydd. Mae gan Aelodau hawl hefyd i gael costau teithio a threuliau eraill o fewn terfynau rhesymol.
1
mis

Rôl y corff

Mae'r Panel yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Fe'i sefydlwyd yn barhaol yn wreiddiol i bennu ystod a lefelau'r lwfansau sy'n daladwy gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i'w cynghorau a'u haelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio.

Estynnodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 y cylch gwaith a rhoddodd ei statws statudol presennol i'r Panel,. Mae ei gylch gwaith bellach hefyd yn cynnwys cynghorau tref a chymuned, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub. Yna cafodd cylch gwaith y Panel ei ymestyn ymhellach yn 2014, a gall y Panel hefyd wneud argymhellion mewn perthynas ag unrhyw gynnig i newid cyflog Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig (HoPS) yn ôl yr angen.

Disgrifiad o'r swydd

  • Mynychu Cyfarfodydd y Panel i drafod a phennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol.
  • Ymgysylltu'n effeithiol ag ystod eang o unigolion a sefydliadau ynghylch materion yn ymwneud â chydnabyddiaeth.        
  • Cyfrannu'n weithredol at drafodaethau panel, gan ddarparu her adeiladol lle y bo'n briodol.
  • Dadansoddi gwybodaeth a defnydd effeithiol o dystiolaeth i gefnogi penderfyniadau a wneir gan y Panel.
  • Cyfraniad at ddatblygu polisi drwy brofiad / gwybodaeth am lywodraeth leol neu ganghennau eraill o wasanaethau cyhoeddus – gan gynnwys paratoi papurau trafod/ysgrifennu adroddiadau.
  • Dangos dealltwriaeth ac ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol wrth ymgymryd â rôl Yr Aelod.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Dylai pob Ymgeisydd ddangos tystiolaeth o:

  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig ag unigolion sy'n amrywio o aelodau o'r cyhoedd i gynrychiolwyr etholedig ac uwch arweinwyr.
  • Y gallu i ystyried a dadansoddi tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau a dod i benderfyniadau ar sail y dystiolaeth honno sy'n deg ac yn rhesymol.
  • Y gallu i weithio'n hyderus fel aelod o'r tîm ac yn annibynnol yn ôl y gofyn.
  • Dealltwriaeth ac ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol.
  • Deall egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymo iddynt; (Egwyddorion Nolan).
  • Y gallu i weithio mewn ffordd wleidyddol niwtral.
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd democratiaeth leol a gwasanaethau cyhoeddus.

 

Meini prawf dymunol ar gyfer rôl yr Aelod

  • Y gallu i ddeall a siarad Cymraeg
  • Ymwybyddiaeth o rôl Cynghorwyr a / neu waith awdurdodau lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru.

Dyddiadau cyfweliadau

11 Ionawr 2021
18 Ionawr 2021

Dyddiad cau

25/11/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a rôl yr Aelod, cysylltwch â Leighton Jones, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol:

Ffôn: 0300 025 3038

E-bost: Leighton.jones@llyw.cymru

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.