Swydd Wag -- Penodi Aelod - Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae'r Panel yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Fe'i sefydlwyd yn barhaol yn wreiddiol i bennu ystod a lefelau'r lwfansau sy'n daladwy gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i'w cynghorau a'u haelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio.
Estynnodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 y cylch gwaith a rhoddodd ei statws statudol presennol i'r Panel,. Mae ei gylch gwaith bellach hefyd yn cynnwys cynghorau tref a chymuned, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub. Yna cafodd cylch gwaith y Panel ei ymestyn ymhellach yn 2014, a gall y Panel hefyd wneud argymhellion mewn perthynas ag unrhyw gynnig i newid cyflog Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig (HoPS) yn ôl yr angen.
Disgrifiad o'r swydd
- Mynychu Cyfarfodydd y Panel i drafod a phennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol.
- Ymgysylltu'n effeithiol ag ystod eang o unigolion a sefydliadau ynghylch materion yn ymwneud â chydnabyddiaeth.
- Cyfrannu'n weithredol at drafodaethau panel, gan ddarparu her adeiladol lle y bo'n briodol.
- Dadansoddi gwybodaeth a defnydd effeithiol o dystiolaeth i gefnogi penderfyniadau a wneir gan y Panel.
- Cyfraniad at ddatblygu polisi drwy brofiad / gwybodaeth am lywodraeth leol neu ganghennau eraill o wasanaethau cyhoeddus – gan gynnwys paratoi papurau trafod/ysgrifennu adroddiadau.
- Dangos dealltwriaeth ac ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol wrth ymgymryd â rôl Yr Aelod.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Dylai pob Ymgeisydd ddangos tystiolaeth o:
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig ag unigolion sy'n amrywio o aelodau o'r cyhoedd i gynrychiolwyr etholedig ac uwch arweinwyr.
- Y gallu i ystyried a dadansoddi tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau a dod i benderfyniadau ar sail y dystiolaeth honno sy'n deg ac yn rhesymol.
- Y gallu i weithio'n hyderus fel aelod o'r tîm ac yn annibynnol yn ôl y gofyn.
- Dealltwriaeth ac ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol.
- Deall egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymo iddynt; (Egwyddorion Nolan).
- Y gallu i weithio mewn ffordd wleidyddol niwtral.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd democratiaeth leol a gwasanaethau cyhoeddus.
Meini prawf dymunol ar gyfer rôl yr Aelod
- Y gallu i ddeall a siarad Cymraeg
- Ymwybyddiaeth o rôl Cynghorwyr a / neu waith awdurdodau lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a rôl yr Aelod, cysylltwch â Leighton Jones, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol:
Ffôn: 0300 025 3038
E-bost: Leighton.jones@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.