Swydd Wag -- Penodiadau - Cadeirydd - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Diben
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) i gefnogi cyngor annibynnol, mwy gwybodus ar strategaeth hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, sy’n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Llywodraethiant a chylch gwaith
Sefydlwyd CSCC fel corff cynghori anstatudol i ddarparu cyngor ac argymhellion i Weinidogion Cymru ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru dros 5 - 30 mlynedd.
Mae cylch gwaith y Comisiwn yn canolbwyntio ar anghenion economaidd ac amgylcheddol, ond dylai ystyried hefyd sut mae’r anghenion hyn yn rhyngweithio â ‘seilwaith cymdeithasol’, megis ysgolion, ysbytai a thai. Fodd bynnag, ni ddisgwylir y bydd CSCC yn ystyried a chynghori ar anghenion seilwaith cymdeithasol mewn manylder.
Bydd Llywodraeth Cymru’n amlinellu trwy lythyr cylch gwaith blynyddol y meysydd yr hoffai i CSCC ganolbwyntio arnynt, ynghyd â’r gyllideb sydd ar gael. Bydd y llythyr hwn yn cael ei anfon at Gadeirydd y Comisiwn cyn dechrau pob blwyddyn ariannol.
Bydd y cyngor a ddarperir gan CSCC o natur strategol ac yn edrych i’r dyfodol. Ni ddarperir cyngor ar gynlluniau seilwaith presennol neu gynlluniau sydd i ddod sydd wedi’u cytuno eisoes.
O fewn ei gyngor, rhaid i CSCC adlewyrchu nodau ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 20151. Mae hyn yn cynnwys:
Amcanion Llesiant
Llywodraeth Cymru
Y Pum Ffordd o Weithio
Egwyddor Datblygu Cynaliadwy
Rhaid i CSCC ystyried hefyd rwymedigaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a rhwymedigaethau deddfwriaethol eraill, wrth ddarparu cyngor.
Bydd trefniadau gwaith manwl CSCC yn cael eu cytuno rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiynwyr a benodwyd trwy ddogfen Cyfansoddiad. Disgwylir i CSCC gynhyrchu a chyhoeddi ‘Adroddiad Cyflwr y Genedl’ bob 3-5 mlynedd. Bydd yr adroddiad hwn yn ystyried cyflwr presennol y seilwaith economaidd ac amgylcheddol ledled Cymru mewn ffordd ddiduedd.
Yn ogystal, disgwylir i’r Comisiwn gynhyrchu adroddiad blynyddol ar ei weithgarwch y flwyddyn flaenorol ac unrhyw adroddiadau ad hoc y bydd Llywodraeth Cymru a/neu CSCC yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi annibyniaeth CSCC trwy: Ymateb yn ffurfiol i Adroddiad Cyflwr y Genedl a chyflwyno’r adroddiad, a’r ymateb, yn y Cynulliad Cenedlaethol. Cyflwyno adroddiadau CSCC yn y Cynulliad Cenedlaethol. Ymateb yn ffurfiol i argymhellion CSCC a chyflwyno’r ymateb hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y rheswm pam mae argymhellion wedi’u cymeradwyo neu heb eu derbyn.
Aelodaeth a’r Ysgrifenyddiaeth
Bydd yr aelodaeth yn cynnwys 12 o Gomisiynwyr, gan gynnwys y Cadeirydd.
Caiff penodiadau eu gwneud gan Weinidogion Cymru am uchafswm o 3 blynedd.
Penodir aelodau ar sail teilyngdod ac arbenigedd, a disgwylir iddynt ddangos gallu i ystyried natur amrywiol cymunedau yng Nghymru.
Bydd aelodau’n cael eu cefnogi gan ysgrifenyddiaeth sy’n cynnwys staff Llywodraeth Cymru.
Atebolrwydd
Bydd CSCC yn atebol i Weinidogion Cymru am ansawdd a phriodoldeb ei gyngor a’i argymhellion, a’i ddefnydd o arian cyhoeddus. Efallai y creffir ar waith CSCC ac y bydd yn cael ei ddwyn i gyfrif gan y Cynulliad, ac efallai y gofynnir i aelodau gymryd rhan yng ngwrandawiadau pwyllgorau’r Cynulliad.
Bydd Llywodraeth Cymru’n cael ei dwyn i gyfrif gan y Cynulliad am y cyfarwyddyd y mae’n ei darparu i CSCC. Creffir arno hefyd mewn perthynas â’r argymhellion y mae’n eu derbyn, neu’n eu gwrthod, a’r sail resymegol y tu ôl i’r penderfyniadau hyn.
Adolygiad
Bydd CSCC yn amodol ar adolygiad cynhwysfawr o’i statws, ei gylch gwaith a’i amcanion cyn diwedd pumed tymor y Cynulliad (2016-2021).
Bydd trefniadau dilynol ar gyfer adolygu CSCC yn cael eu sefydlu ar ôl yr adolygiad cychwynnol hwn.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd y Cadeirydd yn feddyliwr blaenllaw ac yn llais annibynnol ar seilwaith, ac yn gweithio gyda grŵp amrywiol o Gomisiynwyr. Bydd gan y Cadeirydd broffil cyhoeddus amlwg a bydd yn cyflwyno argymhellion CSCC i’r cyhoedd ac i’r Cynulliad Cenedlaethol ac yn profi’r gwaith o gyflawni argymhellion CSCC a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Cadeirydd yn ategu rôl CSCC ac yn creu consensws gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill.
Bydd y Cadeirydd yn gyfrifol am:
- arweinyddiaeth strategol CSCC; pennu blaenoriaethau a sicrhau annibyniaeth ei argymhellion; goruchwylio darpariaeth gwaith CSCC, gan gynnwys monitro’r ddarpariaeth gan Lywodraeth Cymru;
- cyfarwyddo mewnbwn Comisiynwyr a manteisio ar eu sgiliau, eu profiad a’u harbenigedd;
- darparu cyngor diduedd, arbenigol i Lywodraeth Cymru ar seilwaith, gan gynnwys cyngor ar flaenoriaethu a gwerth am arian ar fuddsoddiadau cyhoeddus a phreifat;
- creu consensws mewn perthynas ag argymhellion CSCC;
- ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd, grwpiau â buddiant a’r cyhoedd;
- creu perthynas waith â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU;
- cynrychioli CSCC yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
- arweinydd o safon uchel, gyda’r gallu i arwain byrddau a sefydliadau’n effeithiol;
- y gallu i ddarparu cyngor annibynnol, cadarn o dan lefel uchel o graffu a diddordeb cyhoeddus a defnyddio proffil cyhoeddus i greu consensws;
- hygrededd gyda llywodraeth, diwydiant a’r cyhoedd;
- y gallu i brosesu gwybodaeth gymhleth, ystyried pethau o safbwynt tymor hir a phwyso a mesur tebygolrwydd i ddod i gasgliadau clir;
- y gallu i gyfathrebu pynciau cymhleth yn glir;
- dealltwriaeth o amcanion seilwaith Llywodraeth Cymru, ei fframwaith polisi, cyflawni ac ariannu ehangach, gan gynnwys y dyletswyddau a’r ymrwymiadau (dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r setliad datganoli).
Sgiliau
- y gallu i arwain ar lefel strategol mewn llywodraeth neu yn y byd academaidd neu fusnes;
- profiad o gyfathrebu a dylanwadu ar y lefelau uchaf;
- y gallu i gynrychioli sefydliadau yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau a gyda gwahanol randdeiliaid;
- profiad mewn un sector neu fwy ym maes seilwaith economaidd a/neu amgylcheddol (dymunol);
- y gallu i ddangos profiad o ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac o weithredu yn unol â nhw;
- dealltwriaeth o egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymiad iddynt.
Y Gymraeg
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid oes rhaid eich bod yn meddu arnynt cyn cael eich penodi.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Cysylltiadau:
I gael mwy o wybodaeth am rôl CSCC a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:
Adrian Davies
Swyddfa Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
Ffôn: 03000 257691
E-bost: Adrian.Davies2@llyw.cymru
Os bydd angen unrhyw gymorth pellach arnoch i wneud cais am y swydd hon, anfonwch e-bost i penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.