Swydd Wag -- Aelod - Chwaraeon Cymru (Y Gymraeg yn ddymunol)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a ffyrdd egnïol o fyw. Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad yw Cyngor Chwaraeon Cymru, ac fe'i ariennir yn bennaf trwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid o'r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru.
Sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru ym 1972 trwy Siarter Frenhinol. Y pedwar amcan a nodwyd pan sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru (a adwaenir bellach fel Chwaraeon Cymru) yw :
• Cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol;
• Codi safonau mewn perfformiad a rhagoriaeth;
• Gwella'r ddarpariaeth o ran cyfleusterau chwaraeon;
• Darparu gwybodaeth a chyngor technegol am chwaraeon, hamdden a ffyrdd egnïol o fyw.
I weld y Siarter Frenhinol, cliciwch yma: www.sport.wales/media/128780/royal charter.doc
Mae Cyngor Chwaraeon Cymru yn berchen ar ddwy ganolfan genedlaethol; Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chanolfan Genedlaethol Chwaraeon Dŵr Plas Menai yn y Gogledd.
Mae blaenoriaethau gweithredol a thargedau perfformiad Chwaraeon Cymru yn seiliedig ar lythyr cylch gwaith blynyddol Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn ymateb iddo. Mae'r llythyr hwnnw'n gosod allan ei blaenoriaethau strategol; unrhyw bolisïau a chynlluniau gweithredu penodol; a pholisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru.
Mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwlad sy'n gorfforol egnïol ac sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon, yn unol â'r strategaethau Dringo'n Uwch a Creu Cymru Egnïol.
Nod Chwaraeon Cymru yw gwella lefel y gyfranogaeth mewn chwaraeon ar lawr gwlad ond gan roi'r gefnogaeth sydd ei hangen hefyd ar athletwyr uchelgeisiol i gystadlu'n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae polisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru yn cynnwys yn benodol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i Chwaraeon Cymru integreiddio'i holl waith i gefnogi'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.
Dysgwch fwy am Chwaraeon Cymru trwy fynd i www.chwaraeoncymru.org.uk a gwylio'r ffilmiau corfforaethol isod:
➢ http://www.sportwales.org.uk/about-us/about-sport-wales/what-we-do.aspx
➢ http://www.youtube.com/watch?v=eNvHHKHt-x0
Disgrifiad o'r swydd
Bwrdd Chwaraeon Cymru sy'n arwain ac yn llywodraethu Chwaraeon Cymru ac yn gwneud y gwaith pwysig o graffu ar holl fuddsoddiadau a gweithgareddau Chwaraeon Cymru. Y Bwrdd hefyd sy'n pennu amcanion y dyfodol.
Mae gan y Bwrdd 10 o Aelodau ar hyn o bryd, sy'n cynnwys y Cadeirydd Dros Dro, Lawrence Conway.
Bydd Aelodau'r Bwrdd yn atebol fel unigolion ac ar y cyd i Lywodraeth Cymru drwy Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd disgwyl i Aelodau'r Bwrdd:
• Ddeall manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol ynghyd â'u manteision positif i gymdeithas, gan hywyddo'r manteision hynny;
• Meddu ar weledigaeth glir ynghylch sut y gall Chwaraeon Cymru barhau i gyfrannu fel prif ddarparwr polisi chwaraeon y Llywodraeth a thrwy hynny, ddeall Llywodraeth Cymru a sut y mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru'n gweithio.
• Meddu ar sgiliau craffu a dadansoddi ardderchog i gefnogi a herio'r Weithrediaeth yn effeithiol, gan sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn cyrraedd ei amcanion, ei nodau a'i dargedau perfformiad;
• Sicrhau bod Chwaraeon Cymru'n rhoi gwerth ei arian gan gadw at fframwaith arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb;
• Cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cymeradwyo cynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol ;
• Deall Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymo iddynt.
• Arfer safonau uchel o safbwynt priodoldeb ac wrth ymdrin ag arian cyhoeddus;
• Meddu ar ddealltwriaeth dda o gyfrifoldeb corfforaethol a rheoli risg i sicrhau bod gweithgareddau Chwaraeon Cymru yn cael eu cynnal yn effeithiol ac effeithlon;
• Meddu ar feddwl ymchwilgar, sgiliau gwrando da a'r gallu i ddeall sefyllfaoedd ac adroddiadau cymhleth.
• Meddu ar barodrwydd ac ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd a gweithgareddau pwysig rhwng cyfarfodydd a chymryd rhan amlwg ynddynt.
• Bod yn wleidyddol annibynnol.
• Penodi Prif Weithredwr, os oes angen, ar ôl cael sêl bendith Llywodraeth Cymru.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Hanfodol
• Deall bywyd cyhoeddus ac egwyddorion llywodraeth dda
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol a hanes o weithio gydag eraill i wireddu amcanion.
• Y gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn wrthrychol wrth ddadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn medru adnabod cnewyllyn y mater a gwneud penderfyniadau da.
• Ymrwymiad amlwg i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ledled Cymru;
• Deall cymunedau amrywiol Cymru ac ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth.
• Profiad fel uwch swyddog o o leiaf un o'r canlynol:
o Rheolaeth gorfforaethol, gyda ffocws ar werth am arian a chyflawni.
o Defnyddio technoleg ddigidol ac arloesedd mewn chwaraeon a hamdden egnïol.
o Cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu.
o Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb trwy ennyn diddordeb y rheini sydd wedi'u dadrithio.
Yr Iaith Gymraeg
Bydd sgiliau Cymraeg yn hanfool ar gyfer un o Aelodau'r Bwrdd, at y lefel a nodir isod:
Deall - yn gallu deall y rhan fwyaf o sgyrsiau sy'n ymwneud â'r gwaith.
Darllen - yn gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd syn ymwneud â'r gwaith.
Siarad - yn gallu cyfrannu at y rhan fwyaf o sgyrsiau sy'n ymwneud â'r gwaith.
Ysgrifennu - yn gallu paratoi deunydd pob dydd sy'n ymwneud â'r gwaith o gael rhywun i'w wirio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd ddangos tystiolaeth o'i sgiliau Cymraeg fel rhan o'r broses recriwtio.
Ystyrir bod Sgiliau Cymraeg yn 'ddymunol' ar gyfer tri Aelod arall y Bwrdd, at y lefel a nodir isod.
Deall - yn gallu deall rhannau o sgwrs elfennol.
Darllen : dim sgiliau
Siarad - yn gallu cynnal sgwrs elfennol yn y Gymraeg.
Ysgrifennu - dim sgiliau.
Mae hyn yn golygu y byddai'n fantais i ymgeisydd pe bai'n gallu deall a siarad rhannau o sgwrs elfennol yn y Gymraeg cyn belled â'i fod wedi bodloni'r holl feini prawf hanfodol eraill.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Am ragor o wybodaeth am rôl Chwaraeon Cymru a rôl ei Aelodau, cysylltwch â David Rosser, Pennaeth Chwaraeon Llywodraeth Cymru.
Ffôn: 0300 061 6051
E-bost: david.rosser@wales.gsi.gov.uk
Os oes angen rhagor o help arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu e-bostiwch SharedServiceHelpdesk@wales.gsi.gov.uk
For further information about Public Appointments in Wales, please visit www.gov.wales/publicappointments
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.