Swydd Wag -- Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Manylion y Swydd
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Bydd yn helpu’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf i feddwl am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda'i gilydd, ceisio atal problemau a dilyn dull gweithredu cyson. Bydd hyn yn gymorth inni greu Cymru yr ydym i gyd eisiau byw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.
Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae'r Ddeddf yn pennu saith o nodau llesiant ar gyfer Cymru.
• Cymru lewyrchus: Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.
• Cymru gydnerth: Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).
• Cymru iachach: Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.
• Cymru sy'n fwy cyfartal: Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
• Cymru o gymunedau cydlynus: Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.
• Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu: Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
• Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang: Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang.
Mae Cymru yn wynebu sawl her nawr ac yn y dyfodol, fel newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghydrarddoldeb iechyd a swyddi a thwf. I fynd i'r afael â'r rhain ac i roi fywyd o ansawdd da i genedlaethau heddiw ac yfory, mae'n rhaid i ni feddwl am effeithiau tymor hir ein penderfyniadau a gweithio gyda'n gilydd. Bydd y ddeddf hon yn sicrhau bod ein sector cyhoeddus yn gwneud hyn.
Er mwyn i Gymru fod yn gynaliadwy mae'n bwysig ein bod yn gwella'r pedair agwedd ar ein llesiant. Mae pob un mor bwysig â'i gilydd. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd y bydd disgwyl i'r cyrff cyhoeddus ei chyflawni. Mae dyletswydd yn golygu bod yn rhaid iddynt wneud hyn dan y gyfraith.
Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob corff cyhoeddus sydd wedi'u rhestru yn y Ddeddf weithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Er mwyn gwneud hyn rhaid iddynt osod a chyhoeddi amcanion llesiant.
Bydd yr amcanion hyn yn dangos sut bydd pob corff cyhoeddus yn gweithio i wireddu'r weledigaeth ar gyfer Cymru sydd wedi'i datgan yn y nodau llesiant. Wedyn rhaid i gyrff cyhoeddus weithredu er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cyflawni'r amcanion maent yn eu gosod.
Mae'r saith o nodau llesiant yn dangos y math o Gymru rydym eisiau ei gweld. Gyda'i gilydd, maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cyrff cyhoeddus sydd wedi'u rhestru yn y Ddeddf, i weithio tuag ati.
Maent yn gyfres o nodau; mae'r Ddeddf yn datgan yn glir bod rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni'r holl nodau, nid dim ond un neu ddau.
Mae'r Ddeddf yn pennu 'egwyddor datblygu cynaliadwy' er mwyn dweud wrth sefydliadau sut i gyflawni eu dyletswydd dan y Ddeddf. Wrth wneud eu penderfyniadau, rhaid i gyrff cyhoeddus wneud yn siŵr eu bod yn ystyried yr effaith y gallent ei chael ar bobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae pum peth y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt i ddangos eu bod wedi dilyn yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd cadw at y dulliau gweithio hyn yn ein helpu ni i gydweithio'n well, osgoi ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol a mynd i'r afael â rhai o'r heriau hirdymor rydym yn eu hwynebu:
• Hirdymor: Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a'r angen i ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
• Atal: Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
• Integreiddio: Ystyried sut y gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau llesiant, ar bob un o'u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
• Cydweithio: Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu'r corff i fodloni ei amcanion llesiant.
• Cynnwys: Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.
Rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yw gweithredu fel gwarchodwr ar ran buddiannau cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru, a chefnogi'r cyrff cyhoeddus sydd wedi'u rhestru yn y Ddeddf i weithio tuag at gyflawni'r nodau llesiant.
I gefnogi'r Comisiynydd, bydd gan y swyddfa hyd at 18 aelod o staff, gan gynnwys hyd at bedwar Cyfarwyddwr. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu tua £1.4 miliwn o gyllideb.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd; ond os na fydd y sawl a benodir yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg bydd disgwyl iddynt ddysgu yn y swydd. Hefyd, bydd disgwyl i bob ymgeisydd ddangos ymwybyddiaeth o broffil ieithyddol Cymru a chefnogi cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg sydd yn yr arfaeth.
Prif gyfrifoldebau rôl y Comisiynydd
Fel y nodir yn Rhan 3 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, bydd dyletswydd gyfreithiol ar y Comisiynydd i wneud y canlynol:
(a) Hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn arbennig er mwyn:
i. Gweithredu fel gwarchodwr gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion; ac
ii. Annog cyrff cyhoeddus i roi rhagor o ystyriaeth i effaith hirdymor yr hyn a wnânt.
(b) At y diben hwnnw i fonitro ac asesu cyflawniad yr amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus.
Fel y nodir yn y Ddeddf, bydd prif gyfrifoldebau rôl y Comisiynydd yn cynnwys:
• Rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus, gan eu cefnogi i weithio i gyflawni eu hamcanion llesiant ac annog arferion gorau;
• Darparu cyngor i Fyrddau Gwasanaethau Lleol ynghylch paratoi eu Cynlluniau Llesiant Lleol;
• Ymgymryd â gwaith ymchwil i gynnwys y nodau llesiant, y dangosyddion cenedlaethol a'r cerrig milltir, a'r egwyddor datblygu cynaliadwy a sut y mae cyrff cyhoeddus yn ei dilyn;
• Cynnal adolygiadau ynghylch i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, a gwneud argymhellion ar sail y canfyddiadau;
• Gwneud argymhellion i gorff cyhoeddus ynghylch y camau a gymerwyd neu a gynigir er mwyn gosod a chyflawni amcanion llesiant;
• Llunio a chyhoeddi Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol bob pum mlynedd, sy'n cyflwyno asesiad o'r gwelliannau a wnaed ac y dylid eu gwneud gan gyrff cyhoeddus mewn perthynas â gosod a chyflawni amcanion llesiant yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy;
• Ceisio cyngor y Panel Cynghori.
Dyma'r profiad a'r sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer rôl y Comisiynydd:
• Profiad o arweinyddiaeth strategol ar lefel Gweithredol neu Fwrdd, gan gynnwys rheoli arian a phobl;
• Dealltwriaeth fanwl o bwysigrwydd datblygu cynaliadwy i Gymru a'r heriau a'r cyfleoedd y mae'r Ddeddf yn eu cyflwyno i'n cyrff cyhoeddus a'n cymunedau;
• Gallu datblygedig i ennyn hyder mewn amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys sgiliau negodi, perswadio a dylanwadu ar bobl ar bob lefel, ymdrin â'r cyfryngau a chynulleidfaoedd ehangach o blith y cyhoedd;
• Annibyniaeth barn a'r gallu i ddadansoddi problemau'n gyflym ac i fynegi materion cymhleth mewn modd syml a chlir.
• Dangos prawf o ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth;
• Dealltwriaeth o rolau cymharol cyrff yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ac ymrwymiad i Saith Egwyddor Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus.
Cyfnod pontio
Bydd Comisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn bodoli fel endid sy'n gweithredu'n gyfreithiol ar ôl pasio Gorchymyn Cychwyn Rhif 1, sy'n debygol o ddigwydd ganol mis Hydref 2015, a phenodi'r Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Pan fodlonir y ddau faen prawf hyn, bydd hawl gan y Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i arwyddo contractau a thrafodion ariannol, yn ddibynnol ar y gyllideb a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Yn ogystal â'r cyfrifoldebau allweddol a restrir isod, ac oherwydd contract cyflogaeth cyfredol yr unigolyn, efallai y bydd yna gyfnod pontio rhwng dyddiad penodi'r Comisiynydd a'r dyddiad pryd y mae'r ymgeisydd llwyddiannus yn gallu ymgymryd â'r swydd.
Yn ystod y cyfnod pontio hwn, bydd angen cynnwys y Darpar Gomisiynydd mewn tasgau cychwynnol ar gyfer y sefydliad. Er nad yw'r canlynol yn hollgynhwysfawr, gallai'r tasgau hyn gynnwys ymgynghori ag ef/hi ynghylch y dangosyddion cenedlaethol a ddatblygir fel rhan o roi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) ar waith, diffinio'r trefniadau llywodraethu, sefydlu gweithdrefn gwynion, penodi staff, cwblhau'r gofrestr buddiannau, diffinio'r blaenraglen waith a'r cynlluniau ariannol blynyddol.
Yr Iaith Gymraeg
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad Cau
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.