Swydd Wag -- Aelod (2) - Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg

Manylion y swydd

Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg
Bydd cyfarfodydd y Panel yn cael eu cynnal yn un o swyddfeydd y Comisiynydd (Caerdydd, Caernarfon, Caerfyrddin, neu Rhuthun). Mae’n bosib y gellid ymuno â’r cyfarfodydd trwy fideo gynhadledd.
Mae’r aelod yn swydd-ddeiliad. Ni thelir cyflog na phensiwn ar gyfer y penodiad. Caiff aelodau'r Panel dâl o £198 y dydd gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant. Gellir adolygu’r ffi hwn o bryd i’w gilydd.
6
blwyddyn

Rôl y corff

Sefydlwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg ("y Comisiynydd") o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ("y Mesur"). Ceir mwy o fanylion am swyddogaethau’r Comisiynydd ar y wefan: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/cymraeg/Pages/Hafan.aspx

 

Mae’r Mesur hefyd yn darparu ar gyfer sefydlu Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg ("y Panel Cynghori") sydd wedi eu penodi gan Weinidogion Cymru.

 

Mae Gweinidogion Cymru yn awyddus i benodi hyd at dau aelod newydd i’r Panel Cynghori am gyfnod o dair blynedd. Bydd yr aelod/au newydd yn ymuno â’r 3 aelod sydd eisoes ar y Panel. Mae’r 3 Aelod hynny wedi’u penodi tan 31 Mawrth 2021.


Disgrifiad o'r swydd

Mae'r Mesur yn pennu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau, i'r graddau y bo hynny'n ymarferol, bod gan y Panel Cynghori o leiaf 3, ond dim mwy na 5, aelod ar unrhyw adeg.

 

Mae aelodau'r Panel Cynghori yn ffynhonnell o gyngor strategol i'r Comisiynydd ar faterion sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Comisiynydd. Yn benodol, mae rôl y Panel yn cynnwys:

  • Rhoi cymorth a chyngor i'r Comisiynydd mewn perthynas â swyddogaethau'r Comisiynydd yn unol â'r Mesur, a gweithredu, lle bo angen, fel 'cyfaill beirniadol'.
  • Bod yn fforwm lle caiff materion sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Comisiynydd eu trafod.
  • Ar gais y Comisiynydd, ystyried dogfennau penodol a luniwyd gan y Comisiynydd a mynegi barn am y dogfennau hynny.

 

Ni fwriedir i'r Panel gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Comisiynydd o ddydd i ddydd, ac ni fwriedir iddo ychwaith fod â phroffil cyhoeddus amlwg. Nid yw’r Comisiynydd yn atebol i'r Panel Cynghori, ond bydd ei drafodaethau â'r Panel yn cael ei adlewyrchu yn ei gwaith.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol

Manyleb y person

Rhaid i Aelodau'r Panel:
 

  • fedru gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm;
  • medru cynnig cyngor i gynorthwyo prosesau creu polisi a gwneud penderfyniadau;
  • bod â'r gallu i asesu amryw o safbwyntiau a buddiannau ac arddel barn annibynnol
  • medru cwestiynu'n briodol agwedd y Comisiynydd at unrhyw fater a bod yn ffynhonnell allanol o her a safbwynt ffres;
  • bod â dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, ac i herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny'n briodol; a 
  • bod â dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan ac ymrwymiad iddynt.

 

Mae Rheoliadau Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (Penodi) 2012 yn gwneud darpariaethau penodol am benodi’r Panel. Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wrth iddynt benodi aelodau'r Panel Cynghori i roi ystyriaeth i'r ffaith ei bod yn ddymunol i wybodaeth a phrofiad y Comisiynydd ac aelodau'r Panel Cynghori, gyda'i gilydd, gynnwys gwybodaeth a phrofiad o'r materion canlynol:

  • llywodraethu corfforaethol,
  • arfer swyddogaethau sydd wedi eu rhoi gan neu o dan ddeddfiad,
  • hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg neu unrhyw iaith arall,
  • cysylltiadau cyhoeddus,
  • cyfundrefnau rheoleiddiol,
  • gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.

 

Wedi ystyried arbenigedd a phrofiad y Comisiynydd presennol a’r 3 aelod presennol o’r Panel, mae Gweinidogion Cymru yn dymuno bod gan o leiaf un o’r aelodau newydd brofiad o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn y sector gwirfoddol.

 

Oherwydd y cysylltiad agos rhwng rôl y Panel Cynghori a swyddogaethau'r Comisiynydd, mae'n hanfodol i aelodaeth y Panel Cynghori gynnwys personau â gwybodaeth o'r Gymraeg, ac sy'n gallu ei defnyddio.

 

Dyddiadau cyfweliadau

30 Medi 2019
4 Hydref 2019

Dyddiad cau

02/09/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Panel Cynghori i Gomisiynydd y Gymraeg, cysylltwch â Phennaeth Deddfwriaeth yr Iaith Gymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 03000 256333 neu e-bostiwch: Alan.Jones4@llyw.cymru.

Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch i wneud cais am y rôl hon drwy'r broses ymgeisio, cysylltwch â Tîm Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.


Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.