Swydd Wag -- Aelod Annibynnol (3 x Dymunol Cymraeg, 3 x Cymraeg Hanfodol) - Adnodd
Manylion y swydd
Rôl y corff
Arweiniodd y diffyg mewn adnoddau perthnasol, amserol a digonol i gefnogi cyflwyno'r cymwysterau diwygiedig yn 2015 at bryderon am y ddarpariaeth o adnoddau, yn y ddwy iaith, ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bu’r ‘Uwchgynhadledd adnoddau Cymraeg a dwyieithog' a gynhaliwyd yng Ngwanwyn 2017 yn gyfle i edrych ar y materion yn ymwneud â darparu adnoddau perthnasol i Gymru a'i chwricwlwm newydd, yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid i ddatblygu gweledigaeth a chytuno ar seilwaith ar gyfer cynhyrchu adnoddau addysgol dwyieithog yn y dyfodol.
Mae darparu deunyddiau addysgol pwrpasol, yn amserol ac o ansawdd uchel i gefnogi dysgu ac addysgu yn elfen hanfodol o sicrhau hygrededd y cwricwlwm, ac o ran sicrhau'r ymrwymiad angenrheidiol gan ymarferwyr i'w wireddu. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn heriol ac felly mae'n gofyn am ddull gwahanol sydd yr un mor uchelgeisiol i ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol wrth iddo gael ei wreiddio dros y blynyddoedd i ddod. Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i argymhelliad y grŵp i sefydlu endid hyd braich gyda Bwrdd yn atebol i Weinidogion Cymru.
Ymgorfforwyd Adnodd fel cwmni cyfyngedig drwy warant Llywodraeth Cymru ar 12 Gorffennaf 2022.
Mae nifer sylweddol o adnoddau'n cael eu comisiynu ar hyn o bryd ond mae angen cydlynu hyn yn fwy strategol ac mae lle hefyd i ddefnyddio’r cyllidebau ac arbenigedd sydd ar gael yn genedlaethol yn fwy effeithiol. Heb broses strategol genedlaethol, gellir dyblygu ymdrechion, ni sicrheir cydraddoldeb yn y ddarpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg ac nid yw'r holl adnoddau'n mynd drwy’r un broses o ran sicrhau ansawdd.
Bydd y cwmni hwn yn rhoi cyfleoedd i randdeiliaid ar draws y sector gydweithio, rhannu arbenigedd a phrofiad a datblygu gallu ysgolion ac ymarferwyr i greu adnoddau sy'n cefnogi eu cwricwlwm lleol. Bydd yn wasanaeth amlwg i droi ato, fydd yn hwyluso cyd-awduro rhwng athrawon a rhan ddeiliaid eraill, gan sicrhau fod talent yn cael ei gydnabod, ei feithrin a’i ddatblygu. Bydd yn clymu gyda gwaith y Rhwydwaith Cenedlaethol o weithredu’r cwricwlwm ac yn sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol yn cael eu datblygu yn unol ag egwyddorion ac ethos y cwricwlwm newydd, a’u bod yn cefnogi rôl ysgolion ac ymarferwyr fel dylunwyr cwricwlwm. Bydd yn buddsoddi hefyd mewn sgiliau a chapasiti yn y sector cyhoeddi, gan sicrhau cydlynu a chydweithio.
Gweledigaeth Adnodd
Galluogi dysgwyr, ymarferwyr a rhieni/gofalwyr yng Nghymru i gael mynediad at adnoddau addysgol a deunyddiau ategol o ansawdd uchel, yn y Gymraeg a'r Saesneg, i gefnogi dysgu ac addysgu Cwricwlwm i Gymru a'i gymwysterau.
Byddwn yn:
- Sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol pwrpasol, o ansawdd uchel ac yn amserol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, wedi’u cyhoeddi ar yr un pryd i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau
- Darparu trosolwg strategol o’r ddarpariaeth a chomisiynu adnoddau gan sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol yn ymateb i'r anghenion a nodwyd gan y sector addysg
- Hwyluso cydweithio agosach ar draws sectorau er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cael eu cyd-awduro a manteisio i’r eithaf ar arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau
- Darparu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chynhyrchu adnoddau, er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cael eu datblygu yn unol ag ethos ac egwyddorion craidd Cwricwlwm i Gymru, a’u bod yn addas i bwrpas
- Datblygu a buddsoddi mewn sgiliau a chapasiti mewn creu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru
- Sicrhau gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o’r gyllideb a’r adnoddau
- Cryfhau effeithiolrwydd hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth a’r defnydd o adnoddau.
Disgrifiad o'r swydd
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.
Meini Prawf Hanfodol
- Gwybodaeth, sgiliau a/neu brofiad mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol:
- Addysg
- Cyhoeddi neu e-ddysgu
- Adnoddau dynol.
- Rheolaeth ariannol
- Cyfreithiol
- Archwilio a/neu reoli risg
- Y cyfryngau a chyfathrebu.
- Y gallu i wneud penderfyniadau a chyfrannu’n effeithiol i faterion strategol ac ymarferol.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i gynrychioli Adnodd yn gyhoeddus ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol.
- Dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac ymrwymiad i sicrhau bod y cyd-destun Cymreig, ynghyd â’i hiaith, yn cael ei adlewyrchu yng ngwaith Adnodd.
Ymrwymiad a dealltwriaeth o hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Adnodd a rôl yr Aelod(au) cysylltwch ag Ann Evans:
Ffôn: 03000253833
E-bost: ann.evans3@llyw.cymru
Neu, os yn cysylltu yn ystod 28 Gorffennaf – 9 Awst cysylltwch â IsadranYGymraeg.WelshLanguageDivision@gov.wales
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.