Swydd Wag -- Cadeirydd – Chwaraeon Cymru
Manylion y Swydd
Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn chwilio am Gadeirydd newydd ar gyfer Chwaraeon Cymru - tybed ai chi yw'r unigolyn yr ydym yn chwilio amdano? Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sy'n caru chwaraeon ac sy'n teimlo'n gryf am y manteision sy'n gallu dod yn sgil chwaraeon i'r unigolyn a'r gymuned ehangach. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu meithrin tîm cryf a bydd ganddo sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a negodi gwych.
Yn atebol i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, mae Chwaraeon Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru a ariennir yn bennaf drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid o'r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru. Mae Chwaraeon Cymru yn cydweithio â darparwyr eraill ac asiantiaid cyflenwi allweddol ym maes chwaraeon a hamdden egnïol, ac yn arbennig llywodraeth leol, cyrff llywodraethu cenedlaethol ym maes chwaraeon a'r sector gwirfoddol. Mae'n gyfrifol am gydgysylltu a helpu i gyflawni ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol. http://gov.wales/about/programmeforgov/about?skip=1&lang=cy
Mae blaenoriaethau Chwaraeon Cymru o ran gweithredu a'i dargedau perfformiad yn seiliedig ar:
- Lythyr Cylch Gwaith Blynyddol y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
- Polisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, yn benodol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Chwaraeon Cymru sianelu ei holl waith i gefnogi'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.
- Y pedwar amcan a nodwyd pan sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru (a adwaenir bellach fel Chwaraeon Cymru) drwy Siarter Frenhinol ym 1972.
Y pedwar amcan cyffredinol yw:
• Cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol a pha mor aml y maent yn gwneud hynny;
• Codi safonau mewn perfformiad a rhagoriaeth;
• Gwella'r ddarpariaeth o ran cyfleusterau chwaraeon;
• Darparu gwybodaeth a chyngor technegol ynghylch chwaraeon, hamdden a ffyrdd iach o fyw.
Mae Chwaraeon Cymru yn rhedeg dwy ganolfan genedlaethol; Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chanolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai yn y Gogledd.
Ar hyn o bryd, mae 10 aelod ar Fwrdd Chwaraeon Cymru gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd. Mae'r Bwrdd yn cynnal 6 chyfarfod y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru.
Byddwch yn atebol i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth am berfformiad Chwaraeon Cymru a'r hyn y mae'n ei gyflawni. Mae datblygu a chynnal perthynas agos gyda'r Dirprwy Weinidog ac aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru yn rhan hollbwysig o rôl y Cadeirydd.
Arweinyddiaeth
• Darparu arweinyddiaeth effeithiol ar gyfer Chwaraeon Cymru, yn arbennig o ran diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol, cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol a chynrychioli barn y Bwrdd i Weinidogion a'r cyhoedd yn gyffredinol.
• Cydweithio ag aelodau eraill i gyflawni swyddogaethau'r Bwrdd, sef:
o Gweithredu cynllun corfforaethol/busnes y Bwrdd mewn ymateb i Lythyr Cylch Gwaith blynyddol y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth;
o Sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn gadarn a bod gwaith Chwaraeon Cymru yn cael ei wneud mewn ffordd gywir a phriodol;
o Rhoi ar waith bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ym maes cyfle cyfartal ac amrywiaeth, drwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau dull integredig o weithredu ym maes chwaraeon yng Nghymru;
o Sicrhau'r manteision mwyaf posibl yn sgil digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol proffil uchel (fel Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2014), drwy greu gwaddol chwaraeon cynaliadwy;
o Mynd i'r afael â'r anghenion o ran chwaraeon yn genedlaethol ac yn lleol, gan ysgwyddo cyfrifoldeb dros benderfynu sut caiff adnoddau eu rhannu er mwyn cyflawni amcanion strategol Chwaraeon Cymru;
o Cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau gweithgareddau hamdden egnïol ym mhob carfan o boblogaeth Cymru.
Y berthynas â'r Prif Weithredwr
• Sefydlu a meithrin perthynas waith gref, effeithiol a chefnogol gyda'r Prif Weithredwr, gan gynnig cymorth a chyngor ond gan barchu ei hawl ef i weithredu;
• Cynnal arfarniad blynyddol i sicrhau bod y Prif Weithredwr yn cael ei alw i gyfrif am gyflawni amcanion strategol penodol. Darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu perthnasol.
Llywodraethu
• Sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
• Datblygu Bwrdd effeithiol, gan ysgogi newid a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn swyddi'r Bwrdd drwy'r broses a reoleiddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus;
• Ymgynghori'n flynyddol ag aelodau'r Bwrdd ar eu rolau ac asesu eu perfformiad;
• Cynllunio, llywyddu a hwyluso cyfarfodydd y Bwrdd a chyfarfodydd pwyllgor;
• Sicrhau ymrwymiad Chwaraeon Cymru i gyfle cyfartal ac amrywiaeth.
Cyfathrebu a Chysylltiadau Allanol
• Gweithredu fel llysgennad dros Chwaraeon Cymru;
• Hyrwyddo cysylltiadau effeithiol rhwng aelodau anweithredol, y tîm gweithredol a staff o fewn Chwaraeon Cymru;
• Datblygu, rheoli a chynnal perthynas dda â grwpiau perthnasol, yn genedlaethol ac yn lleol. Ymhlith y grwpiau hyn mae:
o Llywodraeth Cymru
o cyrff sy'n llywodraethu ym maes chwaraeon
o cymdeithasau chwaraeon
o awdurdodau lleol
o cymunedau lleol
o y sector busnes
o y sector gwirfoddol
o cynrychiolwyr etholedig y gymuned
o y cyfryngau
Bydd angen ichi ddangos y meini prawf hanfodol canlynol:
• Gwybodaeth am fanteision chwaraeon, ar lefel elitaidd ac ar lefel fwy cyffredinol, a gweithgareddau hamdden egnïol yng Nghymru a diddordeb brwd yn eu datblygiad ledled Cymru.
• Gwybodaeth/profiad mewn maes cysylltiedig, ee iechyd, datblygu cymunedol, addysg neu faes tebyg sydd wedi rhoi dealltwriaeth ichi o sut y gall chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol wella iechyd a lles pobl a chymunedau yng Nghymru;
• Dealltwriaeth soffistigedig o reoli ariannol a rheoli risg a fydd yn sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn rheoli risg yn effeithiol ym mhob un o'i weithgareddau.
• Dealltwriaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a sut y gall Chwaraeon Cymru gyfrannu at ei hamcanion.
• Sgiliau cyfathrebu cryf a'r gallu i feithrin perthynas waith strategol gyda phob rhanddeiliad, gan gynnwys Gweinidogion a'r Llywodraeth, Aelodau'r Bwrdd, a'r wasg a'r cyfryngau.
• Y gallu i ymateb yn greadigol ac yn strategol i sefyllfaoedd gwleidyddol a gweithredol sy'n newid.
Dymunol
• Sgiliau yn y Gymraeg. Rydym yn dymuno dod o hyd i unigolyn sy'n gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae disgwyl i bob ymgeisydd ddangos ymwybyddiaeth o broffil ieithyddol Cymru a chefnogi pob ymgais i gydymffurfio â Safonau arfaethedig y Gymraeg.
Telir cyflog o £35,184 y flwyddyn.
Cewch eich ad-dalu hefyd am eich holl gostau teithio a chynhaliaeth uniongyrchol a fydd yn codi yn sgil dyletswyddau'r penodiad.
Yr Iaith Gymraeg
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad Cau
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.