Swydd Wag -- Cadeirydd - Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Manylion y swydd

Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliaid y swyddi deithio i'r brif swyddfa yng Nghaerdydd a lleoliadau eraill ledled Cymru i fynychu cyfarfodydd a chyflawni dyletswyddau eraill sy'n gysylltiedig â'r rôl. Mewn ymateb i COVID-19, cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd drwy lwyfannau digidol. Lle mae hyn wedi bod yn effeithiol, mae hyn yn debygol o barhau.
£43,326 y flwyddyn ynghyd â chostau teithio a treuliau rhesymol eraill o fewn terfynau cydnabyddedig. Yn seiliedig at ymrwymiad amser ofynnol o 14.5 diwrnod y mis
174
blwyddyn

Rôl y corff

Awdurdod Iechyd Arbennig yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru a sefydlwyd i wneud gwahaniaeth i bobl Cymru drwy ddefnyddio technolegau digidol ym maes iechyd a gofal. Mae gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru raglen uchelgeisiol o integreiddio, arloesi a thrawsnewid, gan weithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill GIG Cymru a gyda chefnogaeth gref gan Lywodraeth Cymru.

Disgrifiad o'r swydd

 Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad yr Awdurdod a’i lywodraethu effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru. 

 Bydd Cadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn: 

  • Arwain y gwaith o ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru, gan sicrhau bod diwylliant o welliant parhaus a thrawsnewid digidol yn cael ei hyrwyddo ar draws y sefydliad ac yn ehangach ar draws iechyd a gofal cymdeithasol; 
  • Darparu arweinyddiaeth effeithiol a gweladwy, yn allanol ac yn fewnol, i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar draws ei holl gyfrifoldebau, gan gynnwys hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a’r Gymraeg a diwylliant Cymru; 
  • Sicrhau bod y Bwrdd yn gweithio'n effeithiol i herio, craffu a sicrhau darpariaeth weithredol, gan gynnal ffocws ar nodau strategol, wedi'i hatgyfnerthu gan lywodraethu cryf; 
  • Bod yn atebol yn gyhoeddus am berfformiad Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn benodol drwy sicrhau cymeradwyaeth gan y Gweinidog i Gynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd, cynlluniau cyflawni blynyddol a gwerthuso perfformiad yn eu herbyn; 
  • Sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau; 
  • Gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid yn enwedig gyda Llywodraeth Cymru, sefydliadau GIG Cymru, awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector preifat a'r byd academaidd a phrifysgolion; 
  • Bod yn gyfrifol am ofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Awdurdod yn atebol amdanynt; 
  • Rhoi sicrwydd bod y Bwrdd yn cael ei lywodraethu'n effeithiol yn unol â'r fframwaith a'r safonau a bennwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Meini prawf hanfodol

 Gwybodaeth a phrofiad 

  • Profiad o arwain ar lefel uwch mewn amgylchedd iechyd a gofal (er nad yw'n hanfodol, mae profiad o arwain mewn amgylchedd digidol yn ddymunol);
  • Y gallu i feithrin gweledigaeth ac arwain y gwaith o ddatblygu strategaethau digidol diffiniedig wrth geisio cyflawni nodau hirdymor a thymor byr;
  • Y gallu ddeall materion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill;
  • Dealltwriaeth dda o lywodraethu a’r gallu i sicrhau bod aelodau'r Awdurdod yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd drwy gymryd rhan mewn proses gadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau;
  • Y gallu i ysgogi a datblygu'r Awdurdod i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd;
  • Ymrwymiad clir i ddeall a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;
  • Y gallu i ddangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd a diwylliant, ac ymrwymiad i hyrwyddo a phrif-ffrydio'r Gymraeg.

 Priodoleddau personol

  •  Sgiliau rhyngbersonol a dylanwadol cryf, a’r gallu i weithredu fel eiriolwr a llysgennad effeithiol;
  • Crebwyll, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
  • Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.

 

Y meini prawf sy'n ddymunol

 Y gallu i siarad Cymraeg

Dyddiadau cyfweliadau

19 Awst 2021
20 Awst 2021

Dyddiad cau

30/06/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Pwy sy'n cael gwneud cais

Bydd unigolyn yn cael ei ddiarddel o'r penodiad:

 

  • os y'i cafwyd yn euog yn y 5 mlynedd diwethaf yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd a'i ddedfrydu i garchar (boed yn garchar gohiriedig neu fel arall) am gyfnod o 3 mis o leiaf a heb gael yr opsiwn o ddirwy;
  • os yw'n destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud cyfaddawd neu drefniant â chredydwyr
  • os wedi’i ddiswyddo, ac eithrio pan fo swydd wedi'i dileu neu pan nad adnewyddwyd contract tymor penodol, o unrhyw swydd gyflogedig yn un o gyrff y gwasanaeth iechyd (Noder: ar ôl cyfnod o ddwy (2) flynedd caiff person sydd wedi’i anghymhwyso o dan y ddarpariaeth hon wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwysiad, ond nid oes rhaid i Weinidogion Cymru dderbyn y cais hwn);
  • os yw’n aelod presennol o fwrdd corff gwasanaeth iechyd arall yng Nghymru;
  • - ni fydd y ddeiliadaeth wedi dod i ben cyn cychwyn yn y swydd hon os caiff ei phenodi neu’r       
  • - bwriad yw peidio ag ymddiswyddo o'r swydd honno os caiff ei phenodi.
  • os yw’n unigolyn y terfynwyd ei gyfnod fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr un o gyrff y gwasanaeth iechyd am reswm heblaw  diswyddo, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu corff y gwasanaeth iechyd, neu bod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw ar ei gyfer wedi dod i ben;
  • os yw neu wedi wedi’i gyflogi gan un o sefydliadau GIG Cymru yn y 12 mis blaenorol.

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: 

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Cadeirydd, cysylltwch â Bob Hudson, Cadeirydd Dros Dro Iechyd a Gofal Digidol Cymru, na fydd yn ailymgeisio am y penodiad hwn, neu Ifan Evans, Cyfarwyddwr – Technoleg, Digidol a Thrawsnewid yng Ngrŵp Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

 

Ffôn:              07453 978482

E-bost:           bob.hudson@wales.nhs.uk

Ffôn:             251496

E-bost:          ifan.evans@llyw.cymru

 

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus drwy anfon e-bost at penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.