Swydd Wag -- Aelodau - Cyngor Celfyddydau Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Mae Cyngor y Celfyddydau yn cael ei ariannu’n bennaf drwy gymorth grant oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn elusen gofrestredig sy'n ddarostyngedig i’r Gyfraith Elusennau ac mae'n un o bedwar Dosbarthwr y Loteri yng Nghymru.
Dyma nodau'r Cyngor fel y’u nodir yn ei Siarter Frenhinol:
- datblygu a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth am y celfyddydau a datblygu a gwella ymarfer yn y maes;
- gwneud y celfyddydau’n fwy hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru;
- cynghori a chydweithredu â Llywodraeth Cymru a chyrff perthnasol; a
- cyflawni'r nodau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Rhan o delerau ac amodau'r cyllid yw bod gan Aelodau'r Cyngor gyfrifoldeb unigol a chorfforaethol i Lywodraeth Cymru.
Gwybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor y Celfyddydau yw’r asiantaeth sy’n ariannu ac yn datblygu’r celfyddydau yn ein gwlad. Mae’n:
- cefnogi ac yn datblygu gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel – mae'n buddsoddi arian cyhoeddus, sy’n cael ei ddarparu gan y trethdalwr, ac sy’n cael ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru, gan helpu'r celfyddydau i ffynnu yng Nghymru;
- datblygu a chyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau – mae'n sicrhau bod mecanweithiau, prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith er mwyn cyflawni'r agenda strategol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, fel y’i nodir yn y ddogfen strategaeth gyfredol (y Rhaglen Lywodraethu ar hyn o bryd) a'r llythyr Cylch Gwaith Blynyddol;
- dosbarthu arian y Loteri – drwy geisiadau i'w raglenni ariannu, mae'n buddsoddi mewn prosiectau sy'n datblygu gweithgarwch newydd ym maes y celfyddydau, gan gefnogi unigolion a sefydliadau;
- rhoi cyngor am y celfyddydau – drwy ei staff a'i gynghorwyr, Cyngor y Celfyddydau sydd â'r casgliad mwyaf yng Nghymru o arbenigedd a gwybodaeth am y celfyddydau;
- rhannu gwybodaeth – mae Cyngor y Celfyddydau yn ganolfan genedlaethol ar gyfer rhwydwaith gwybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru. Mae ganddo gysylltiadau rhyngwladol cryf hefyd yn y DU a thu hwnt;
- codi proffil y celfyddydau yng Nghymru – Cyngor y Celfyddydau yw llais cenedlaethol y celfyddydau yng Nghymru, gan sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ansawdd, gwerth a phwysigrwydd celfyddydau'r wlad;
- creu mwy o arian i economi'r celfyddydau – drwy fentrau fel y Cynllun Casglu – cynllun y Cyngor i annog mwy o bobl i brynu celfyddyd − a'i waith i sicrhau cyllid Ewropeaidd; mae'r rhain yn dod â mwy o arian i economi'r celfyddydau; a
- dylanwadu ar gynllunwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau – mae'r celfyddydau'n digwydd mewn llawer o leoliadau gwahanol. Maent yn gallu cael effaith ddramatig ar ansawdd bywydau pobl, ac ar y mannau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt. Y celfyddydau hefyd, yn aml, sydd wrth wraidd mentrau adfywio economaidd a chymdeithasol, o drawsnewid dysgu mewn ysgolion i hybu iechyd a lles. Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y cyfraniad y gall y celfyddydau ei wneud yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu.
Disgrifiad o'r swydd
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ac felly, Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r agenda strategol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Mae'n dymuno annog pobl i gymryd rhan weithredol yn y celfyddydau, a sicrhau bod profiadau diwylliannol o ansawdd uchel ar gael i bawb yng Nghymru, ble bynnag y maent yn byw neu beth bynnag eu cefndir cymdeithasol.
Disgwylir i aelodau Cyngor:
Gymryd rhan a chyfrannu'n effeithiol at weithgareddau'r Cyngor, yn enwedig o ran diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol, pennu a chyflawni amcanion heriol, a chefnogi polisi Llywodraeth Cymru;
Adolygu gwaith y weithrediaeth, craffu arni, ei herio a’i chefnogi;
Hyrwyddo safonau uchel o briodoldeb wrth reoli arian cyhoeddus, a sicrhau bod gweithgareddau'r Cyngor yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith arferion gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb;
Cymryd rhan yn y broses cynllunio corfforaethol, gan gynnwys cytuno ar gynlluniau cyllidebol blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgarwch corfforaethol;
Gweithio fel rhan o Gyngor sy'n gwerthfawrogi gwahaniaeth mewn ffordd gadarnhaol ac sy’n herio ymddygiadau diarwybod;
Ar ôl cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, penodi Prif Weithredwr, pe bai'r angen yn codi.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y rôl:
Sgiliau Hanfodol
- Gwybodaeth helaeth am y celfyddydau yng Nghymru a dealltwriaeth o flaenoriaethau a pholisïau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau;
- Dealltwriaeth glir o faterion sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb, ac ymrwymiad i’r materion hynny ac i hyrwyddo mynediad i'r celfyddydau ac ennyn diddordeb ynddynt;
- Dealltwriaeth fanwl o'r heriau sy'n wynebu sefydliadau celfyddydol, CCC a'r rheini sy'n gweithio ym maes y celfyddydau ar hyn o bryd, a'r gallu i feddwl yn greadigol ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â'r heriau hynny;
- Llwyddiant yn y gorffennol wrth weithio mewn un neu fwy o'r ffurfiau /meysydd celfyddydol a ganlyn:
- sut mae'r celfyddydau'n effeithio ar les cymunedau amrywiol ledled Cymru ac ar y bobl hynny sy'n dioddef anghydraddoldeb;
- y diwydiannau creadigol − yn enwedig y celfyddydau digidol, dawns, llenyddiaeth;
- hyrwyddo a datblygu'r celfyddydau mewn awdurdodau lleol, mewn sefydliadau addysg neu sefydliadau iechyd;
- masnachol − dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio sgiliau masnachol a chodi arian er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl i sefydliadau celfyddydol;
- Y gallu i wneud penderfyniadau cadarn ar sail gwaith dadansoddi cadarn a gweledigaeth strategol;
- Profiad o gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel; yn enwedig y gallu i fod yn llysgennad ar gyfer y celfyddydau a’r gallu i arfer tact ac i fod yn ddiplomataidd wrth ddelio â rhanddeiliaid; a
- Dealltwriaeth o egwyddorion llywodraethu da.
Rydym yn croesawu'n benodol geisiadau oddi wrth fenywod, pobl anabl ac unigolion o gefndir lleiafrifoedd ethnig sy'n wybodus am y celfyddydau yng Nghymru, sydd â diddordeb gwirioneddol yng ngwaith Cyngor Celfyddydau Cymru, ac sy’n gallu cyfrannu'n gadarnhaol at ei wneud yn gorff cyhoeddus sy'n perfformio'n dda.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sylwch fod y gofyniad amser ar gyfer y swydd wag hon oddeutu 1.5 diwrnod y mis. 10 cyfarfod y flwyddyn.
Cysylltiadau:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:
Tîm Penodiadau Cyhoeddus Yr Uned Cyrff Cyhoeddus E-bost:
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyngor Celfyddydau Cymru a rôl yr Aelodau, cysylltwch â Gary Williams (Llywodraeth Cymru):
Gary.Williams2@llyw.cymru neu Katy Brown (Cyngor Celfyddydau Cymru):
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch wrth wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â'r Uned Penodiadau Cyhoeddus:
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i: www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.