Swydd Wag -- Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Manylion y swydd

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Mae’r Ymddiriedolaeth yn wasanaeth cenedlaethol, a chynhelir cyfarfodydd ledled Cymru ac ar-lein trwy gyfrwng Teams. Wrth i ni ddychwelyd i gynnal cyfarfodydd y Bwrdd a sesiynau datblygiad y Bwrdd wyneb yn wyneb mae’r rhain yn debygol o fod yng Nghaerdydd yn bennaf, a bydd cyfarfodydd rhanbarthol rheolaidd yn cael eu cynnal hefyd i ymgysylltu â’r staff, y cyhoedd a’n rhanddeiliaid.
£21,408 y flwyddyn ynghyd â chostau teithio a threuliau rhesymol eraill o
fewn terfynau rhesymol.
8
mis

Rôl y corff

Rydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl ledled Cymru, gan roi
gofal clinigol ansawdd uchel ar sail anghenion cleifion lle bynnag a phryd
bynnag y bo angen. Mae gennym bron i 4,000 o staff sy’n gweithio yn y
gwasanaethau ambiwlans brys goleuadau glas, y gwasanaeth cludo cleifion
nad ydynt yn rhai brys a’r gwasanaeth 111. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf
mae YGAC wedi esblygu i fod yn un o’r gwasanaethau ambiwlans mwyaf
blaengar yn glinigol yn y byd. Gwnaed cynnydd cadarn, ond mae cymdeithas
yn parhau i newid a gwnaeth dyfodiad pandemig Covid-19 gryfhau ymrwymiad
yr Ymddiriedolaeth i ddechrau ar gam nesaf ei thaith wrth iddi geisio elwa o’r
gwersi a ddysgwyd o’r pandemig.


Ein huchelgais yn awr, mewn cydweithrediad â’n rhanddeiliaid a’n partneriaid,
yw newid rôl YGAC, fel nad yw’n gweithredu fel darparydd allweddol gofal brys
ac argyfwng ar draws Cymru yn unig, ond hefyd yn gweithredu fel y porth
gofal i bobl Cymru, gyda’r gwasanaeth 111 fel y man cyswllt cyntaf i’r rhai angen
cymorth, cyngor a thriniaeth glinigol frys, yn ystod oriau arferol a thu hwnt i
oriau arferol.


Bydd hyn yn arwain at leihau nifer y cleifion sy’n mynd i’r ysbyty ac yn cynyddu’r
gofal a ddarperir yn, neu’n agosach at y cartref, gan amrediad o ymarferwyr
arbenigol yn meddu ar amrywiaeth o sgiliau clinigol. Mae goruchwylio
datblygiad parhaus y gwasanaeth ambiwlans a harneisio ei botential i gynyddu
ei rôl yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru yn un sy’n cyflwyno heriau a
chyfleoedd.


Mae llawer i’w wneud i angori ac atgyfnerthu perfformiad gwasanaeth 999
craidd y sefydliad yn enwedig, gan weithio â’n byrddau iechyd partner i ddatrys
heriau strwythurol yn y system, tra’n parhau i ganolbwyntio ar yr angen i newid
y ffordd y darperir gwasanaethau yn y dyfodol os yw’r gwasanaeth i ymateb i’r
galw cynyddol a disgwyliadau’r cyhoedd.
Mae YGAC yn awyddus i ddenu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol i’n
cynorthwyo i wireddu’r uchelgais hon a chyflymu gweddnewid y sefydliad, a’n
cynorthwyo i deilwra yr hyn a gynigir i’n poblogaeth. Mae YGAC yn arbennig o
awyddus i wella cydbwysedd rhywedd ei Fwrdd a denu aelodau o gefndiroedd
ethnig gwahanol. Gwerthfawrogir y cyfraniad y gall aelodau ei wneud ar sail eu
profiadau eu hunain.

Disgrifiad o'r swydd

Mae Bwrdd YGAC yn cyflawni rôl allweddol wrth lunio strategaeth,
gweledigaeth, pwrpas a diwylliant yr Ymddiriedolaeth. Dan arweiniad
Cadeirydd annibynnol a chymysgedd o Aelodau Gweithredol ac
Anweithredol, mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb ar y cyd dros berfformiad yr
Ymddiriedolaeth.


Bydd yr Is-gadeirydd yn cefnogi’r Cadeirydd wrth ddatblygu perfformiad a
llywodraethu’r Bwrdd yn effeithiol, gan weithredu gwerthoedd y GIG yng Nghymru
a hyrwyddo hyder y cyhoedd a phartneriaid. Bydd yr Is-gadeirydd yn cryfhau gallu’r
aelodaeth annibynnol ac yn gweithredu fel bwrdd seinio i’r Cadeirydd.
Cyfrifoldebau’r Is-gadeirydd:


Strategaeth
Cyfrannu at drafodaeth adeiladol ynghylch datblygiad strategol yr
Ymddiriedolaeth ac unrhyw faterion arwyddocaol a pherthnasol eraill a
wynebir;
Darparu barn a chyngor annibynnol ynghylch materion yn ymwneud ag
ansawdd, strategaeth, gweledigaeth, perfformiad, adnoddau a safonau
ymddygiad;
Herio, dylanwadu ar a chefnogi’r Cyfarwyddwyr Gweithredol mewn modd
adeiladol wrth ddatblygu cynigion ar gyfer strategaethau o’r fath;
Darparu arweinyddiaeth, ar y cyd ag aelodau eraill y Bwrdd, mewn fframwaith
o fesurau rheoli effeithiol a darbodus i sicrhau cynaliadwyedd tymor hir yr
Ymddiriedolaeth;


Cynllunio
Craffu ar gynllun tymor canolig tair blynedd yr Ymddiriedolaeth, gan
sicrhau ei fod yn nodi amcanion clir i gyflawni’r strategaeth; yn cynnwys
yr adnoddau ariannol, gweithredol, gweithlu ac ansawdd angenreidiol
i’r Ymddiriedolaeth gyflawni ei hamcanion ac adolygu’r perfformiad yn
erbyn y cynllun yn rheolaidd.


Perfformiad
Derbyn, adolygu a chraffu’n briodol ar ddata a gwybodaeth yn ymwneud
ag ansawdd, perfformiad, y gweithlu a’r sefyllfa ariannol er mwyn
cymharu’r cyflawniadau yn erbyn y targedau a, lle bo angen, gefnogi rhoi
camau gweithredu adferol ar waith.
Chwilio am amcanion heriol er mwyn gwella perfformiad;
Sicrhau bod trefniadau rheoli effeithiol yn bodoli i sicrhau hyfywedd
ariannol yr Ymddiriedolaeth.


Llywodraethu
Dirprwyo ar ran y Cadeirydd ac arwain y Bwrdd yn ei absenoldeb a
chyflawni swyddogaethau ychwanegol, fel y cytunwyd gyda’r Cadeirydd;
Darparu arweinyddiaeth gref, effeithiol a gweledol yn fewnol trwy
gyfrwng y Bwrdd a’r Pwyllgorau, ac yn allanol trwy gysylltiadau ag
amrediad eang o randdeiliaid
Sicrhau bod y systemau a’r mesurau rheoli mewnol ar gyfer rheoli risgiau yn
gadarn ac yn cael eu gweithredu’n dda;
Dadansoddi a dehongli gwybodaeth a ddarperir i’r Bwrdd, gan ofyn am
eglurhad, sicrwydd a thriongli’r wybodaeth, lle bynnag y bo’n bosibl;
Sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn cydymffurfio â’i Rheolau Sefydlog, ei
pholisïau a deddfwriaeth a rheoliadau perthnasol.


Diwylliant ac Ymddygiad
Gweithredu’r Saith Egwyddor mewn Bywyd Cyhoeddus (sy’n cael eu
hadnabod fel Egwyddorion Nolan hefyd), sef anhunanoldeb, uniondeb,
gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth;
Darparu arweinyddiaeth gref, effeithiol a gweledol yn fewnol trwy gyfrwng
y Bwrdd a’r Pwyllgorau, ac yn allanol trwy gysylltiadau ag amrediad eang o
randdeiliaid ac i Fyrddau Iechyd Lleol (a sefydliadau eraill, fel bo’n briodol)
yn benodol, ar draws gofal sylfaenol, gofal yn y gymuned a gwasanaethau
iechyd meddwl.
Cefnogi diwylliant sy’n annog staff, cleifion, teuluoedd a’r cyhoedd i fynegi
pryderon sy’n derbyn sylw priodol yn dilyn hynny;
Sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn croesawu ac yn hybu cydraddoldeb,
amrywiaeth a chynhwysiant i’w holl boblogaeth, cleifion, staff a rhanddeiliaid;
Arddangos ac annog y safonau uniondeb, unplygrwydd a llywodraethu uchaf,
gan sicrhau bod trefniadau llywodraethu’r Ymddiriedolaeth yn cydymffurfio â
gofynion statudol ac arferion gorau;
Darparu arweinyddiaeth dosturiol a gweledol wrth gefnogi a hyrwyddo
diwylliant iach i’r Ymddiriedolaeth ac adlewyrchu hyn, a gwerthoedd yr
Ymddiriedolaeth, yn ei ymddygiad personol;
Sicrhau bod yr Ymddiriedolaeth yn gwerthfawrogi dwyieithrwydd a diwylliant
dwyieithog ac ymrwymiad i hybu, defnyddio a phrif ffrydio’r Gymraeg;
Defnyddio gwybodaeth a phrofiad blaenorol a’u dylanwad o ran gwaith y
Bwrdd i hybu arloesedd, chwilfrydedd a herio’r norm;


Ymgysylltu
Disgwylir i’r Is-gadeirydd ddeall busnes yr Ymddiriedolaeth trwy
ymwneud gweithredol, gyda chymorth a chefnogaeth i gyflawni hyn;
Llunio a chynnal perthnasoedd agos â phartneriaid a grwpiau
rhanddeiliaid yr Ymddiriedolaeth i hyrwyddo gweithredu
gweithga’eddau’r Ymddiriedolaeth yn effeithiol;
Cymryd rhan fel aelod o Rwydwaith Is-gadeiryddion Cymru Gyfan.
Gweithgareddau’r Bwrdd
Cyfranogi’n llawn yng ngwaith y Bwrdd a’i Bwyllgorau, yn cynnwys
ymgysylltu cyn ac ar ôl cyfarfodydd a gwerthusiadau blynyddol i gefnogi
llywodraethu da;
Mynychu a, lle bo’n berthnasol, cadeirio Pwyllgorau’r Bwrdd a
chyfarfodydd ad hoc eraill y Bwrdd;
Mynychu sesiynau datblygiad y Bwrdd a chyfleoedd hyfforddiant a
datblygiad mewnol ac allanol eraill;
Cyflawni’r dyletswyddau yng nghyswllt y Gronfa Elusennol, ar y cyd
ag aelodau eraill y Bwrdd, gan fod y Bwrdd yn gweithredu fel yr
ymddiriedolwr corfforaethol.
Cymryd a hyrwyddo rôl hyrwyddwr mewn meysydd penodol sy’n cael eu
pennu gan Lywodraeth Cymru neu gan yr Ymddiriedolaeth;
Mynd trwy arfarniad perfformiad personol yn flynyddol, a chymryd rhan
mewn unrhyw hyfforddiant ychwanegol a nodwyd o ganlyniad i’r broses
werthuso er mwyn sicrhau cyflawni ei amcanion personol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Meini Prawf Hanfodol


Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fedru dangos ei fod yn meddu arnynt, yn cynnwys:
Profiad o arweinyddiaeth strategol ar lefel bwrdd mewn sefydliad sector
cyhoeddus, sector preifat neu sefydliad trydydd sector
Ymrwymiad i ymgysylltu â’n staff, ein rhanddeiliaid a phobl sy’n defnyddio
ein gwasanaethau ni
Dealltwriaeth o ac ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Y gallu i gydweithio a gweithredu fel rhan o dîm i gyflawni targedau
cyffredin
Y gallu i gymhwyso mewnwelediad strategol a phrofiad personol er budd
ein staff, ein rhanddeiliaid a phobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau ni
Profiad o graffu a herio’n annibynnol tra’n cynnal perthnasoedd adeiladol
Sgiliau cyfathrebu a/neu siarad cyhoeddus rhagorol


Meini Prawf Dymunol


A allai gynnwys unrhyw rai o’r isod:
Profiad o gadeirio ar lefel Bwrdd neu Bwyllgorau Bwrdd
Dealltwriaeth am reoli risgiau a systemau a mesurau rheoli mewnol a rhoi
sicrwydd
Dangos profiad o arweinyddiaeth a rheoli newid strategol, yn cynnwys
newid diwylliant
Enw da sy’n ennyn parch o ran arbenigedd gweithio mewn partneriaeth
ac ar y cyd mewn sefydliad sector cyhoeddus, sector preifat neu drydydd
sector
Profiad o weithio mewn amgylcheddau wedi’u rheoleiddio
Profiad penodol o reoli strategaeth neu reoli cyffredinol
Dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu YGAC wrth ddarparu gwasanaethau
diogel, ansawdd uchel, i gleifion a sicrhau bod y gwasanaethau hynny’n
gynaliadwy yn glinigol ac yn ariannol.

Safonau mewn bywyd cyhoeddus


Disgwylir i chi ddangos safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol ac
ymddygiad personol. Gofynnir i’r holl ymgeiswyr llwyddiannus ymrwymo i’r Cod
Ymddygiad i Aelodau Bwrdd Cyrff Cyhoeddus.

Dyddiadau cyfweliadau

14 Tachwedd 2022
21 Tachwedd 2022

Dyddiad cau

07/10/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.