Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Anweithredol / Aelod Annibynnol (Ystadau a Chynllunio)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre fel Ymddiriedolaeth y GIG ym 1994 a dyma sefydliad hynaf y GIG yng Nghymru. Ar 30 Tachwedd 2017, dyfarnwyd statws Prifysgol i'r Ymddiriedolaeth er cydnabod ei hymdrechion i gryfhau ei statws fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil, datblygu, addysg ac arloesi ar draws meysydd gofal canser, gwaed, trawsblaniadau a gwyddorau biofeddygol.
Mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn darparu ystod eang o wasanaethau arbenigol ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yw un o brif ddarparwyr gwasanaethau canser arbenigol a gwaed a thrawsblannu yn y DU, sy'n dwyn ynghyd staff arbenigol, gofal o ansawdd uchel a gwasanaethau rhoi organau a thrawsblannu, ynghyd â rhagoriaeth ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi datblygu'n sylweddol ers ei sefydlu ym 1994, ac mae'n gyfrifol am weithredu nifer o wasanaethau.
Mae Canolfan Ganser Felindre yn ganolfan driniaeth, addysgu, ymchwil a datblygu arbenigol ar gyfer gwasanaethau oncoleg drydyddol anlawfeddygol ar gyfer cleifion o bob rhan o dde-ddwyrain Cymru. Caiff ein nod, o ran cyflenwi gwasanaethau, ei ddisgrifio yn ein strategaeth ganser a gyhoeddwyd yn ddiweddar, Velindre Cancer Centre – Shaping our Future Together.
Mae timau arbenigol yn darparu gofal gan ddefnyddio model gwasanaeth tîm amlddisgyblaethol y rhwydwaith sydd wedi ennill ei blwyf, ar gyfer oncoleg a gofal lliniarol. Rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid lleol i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cynnig mewn lleoliadau priodol, yn unol â safonau gofal arferion gorau. Caiff yr holl wasanaethau eu darparu yng Nghanolfan Ganser Felindre, gyda nifer gynyddol o wasanaethau'n cael eu darparu ar sail allgymorth o fewn lleoliadau byrddau iechyd lleol o amgylch de-ddwyrain Cymru.
Rydym wedi ennill enw da iawn yng Nghymru a thu hwnt. Dros y blynyddoedd mae'r brand 'Felindre' wedi mynd law yn llaw â 'rhagoriaeth'.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn hynod o falch o'r rôl hanfodol y mae'n ei chwarae ym maes gofal iechyd darbodus a modern, gan fynd ati i achub a thrawsnewid bywydau drwy haelioni rhoddwyr organau. Rydym yn darparu ystod o wasanaethau arbenigol iawn, amlweddog a hollbwysig ar gyfer GIG Cymru, gan sicrhau ei fod yn gallu cael gafael ar waed a chyfansoddion gwaed i drin cleifion a chefnogi'r rhaglenni trawsblannu drwy Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru.
Disgrifiad o'r swydd
Sgiliau a phrofiad yn y gwaith o gynllunio a/neu reoli prosiectau buddsoddiad cyfalaf
Y gallu i werthuso'n feirniadol achosion busnes ym maes buddsoddi cyfalaf;
Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli prosiectau yn effeithiol
Dealltwriaeth o egwyddorion rheolaeth gadarn ar ystadau a'i heffaith ar ddarparu gofal iechyd yn effeithlon
Dealltwriaeth a hyrwyddo Ymgysylltiad Cyhoeddus ac Ymgysylltiad â Chleifion;
Dealltwriaeth o Gynllunio ar gyfer Argyfwng Sifil Posibl a Pharhad Busnes
Dealltwriaeth o reoli perfformiad yn y ffordd y mae'n gysylltiedig â chynllunio a'r ystad
Dealltwriaeth o brosesau rheoli risg ar ystad y GIG a'r materion statudol sy'n gysylltiedig â'r ystad, gan gynnwys labordai llywodraethu gofynion rheoliadol
Dealltwriaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a dogfen Llywodraeth Cymru: ‘Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol'
Y gallu i gymhwyso sgiliau arbenigol mewn amgylchedd bwrdd strategol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal yr Ymddiriedolaeth a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd
Y gallu i wneud yr aelodau gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd
Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth
Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth y mae eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee y Ddeddf Diogelu Data
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus PublicAppointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl y Aelod Annibynnol, cysylltwch â'r Athro Donna Mead OBE, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ar 029 20196161 neu e-bostiwch Donna.Mead2@wales.nhs.uk neu Georgina Galletly, Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol (Felindre - Llywodraethu yr Ymddiriedolaeth) ar 029 2031 6972 / E-bost Georgina.Galletly@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth GIG Felindre, gallwch fynd i'w gwefan: http://www.velindre-tr.wales.nhs.uk/home
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu anfonwch e-bost i SharedServiceHelpdesk@wales.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus?_ga=2.53908072.1310501288.1563895179-832368275.1548154346
Sut i wneud cais
I wneud cais, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/.
I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar swydd wag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac yna cliciwch y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf ichi wneud cais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy'ch cyfrif.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.