Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro : Penodi Cadeirydd
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn un o sefydliadau mwyaf y GIG yn Ewrop. Rydym yn cyflogi rhyw 14,500 o staff, ac yn gwario rhyw £1.4 biliwn y flwyddyn ar ddarparu gwasanaethau iechyd a llesiant i boblogaeth o ryw 472,400 o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg Rydym hefyd yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ar draws y De a'r Canolbarth ar gyfer ystod o feysydd arbenigol.
Ein gweledigaeth yw creu cymuned lle nad yw'ch cyfle i fyw bywyd yn iach yn dibynnu ar bwy ydych chi na ble rydych yn byw.
Fel Bwrdd Iechyd Addysgu mae gennym gysylltiadau agos â'r sector Prifysgolion. Gyda'n gilydd rydym yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan weithio ar yr un pryd ar ymchwil sy'n anelu at ddod o hyd i ffyrdd o wella clefydau.
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad o'r rôl
Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethu effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru.
Bydd Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:-
Yn datblygu Gweledigaeth Strategol ar gyfer gwasanaethau'r Bwrdd yn y dyfodol, gan nodi a gwireddu'r sgiliau a'r potensial cynhenid o fewn y sefydliad i ddatblygu gwasanaeth arloesol o'r radd flaenaf;
Yn cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy ar draws cyfrifoldebau'r Bwrdd, yn fewnol drwy'r Bwrdd, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol;
Yn sicrhau bod y Bwrdd yn darparu'n effeithiol nodau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd drwy gyflawni nodau strategol, polisïau a threfn lywodraethu;
Yn gyfrifol am gynnal yr ansawdd uchaf o ran safonau ac arferion iechyd cyhoeddus, gan wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd;
Yn atebol am berfformiad y Bwrdd ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd ac yn genedlaethol, drwy gytuno ar gynllun tymor canolig integredig tair blynedd a chynllun cyflawni blynyddol, a'r gwerthusiad blynyddol o’r cyraeddiadau yn erbyn y cynllun yn gyhoeddus gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
Yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau;
Yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid, yn arbennig Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a Phartneriaid Cymdeithasol, a hefyd gyda chontractwyr gofal sylfaenol, i sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu cynllunio a'u darparu;
Yn rhoi sicrwydd a threfn lywodraethu ar gyfer gofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt;
Yn rhoi sicrwydd bod y Bwrdd yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, yn unol â'r fframwaith a'r safonau a bennwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru;
Mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus ac ennyn hyder y cyhoedd
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Manyleb y Person
Bydd y Cadeirydd yn dangos y priodoleddau canlynol:-
Gwybodaeth a Phrofiad
Hanfodol
Y gallu i ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer y dyfodol;
Y gallu i ddarparu arweinyddiaeth ar systemau a gweithio gyda Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, grwpiau cymunedol, cleifion a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu ac ysgogi'r weledigaeth strategol honno;
Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
Dealltwriaeth eang o faterion llywodraethu a sut y mae llywodraethu yn berthnasol i reoli corfforaethol, clinigol a rheoli gwybodaeth.
Dymunol
Deall problemau a blaenoriaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;
Priodoleddau a Sgiliau Personol
Hanfodol
Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y Bwrdd;
Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau tymor hir a thymor byr;
Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill;
Y gallu i sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd drwy gymryd rhan mewn proses gadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau;
Y gallu i ysgogi a datblygu'r Bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd;
Dymunol
Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel
Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.
Rhaid i’r Cadeirydd hefyd ddangos:-
Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/.
I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar y lle gwag ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chlicio ar ' gwneud cais ' ar y gornel waelod ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf i chi wneud cais am swydd, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Bydd angen i chi gofrestru unwaith yn unig, a byddwch yn gallu cadw'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill a wnewch, drwy eich cyfrif cofrestredig.
Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol.
Mae'r ddogfen gyntaf yn ddatganiad personol sy'n ateb y cwestiynau ar dudalennau 3 a 4 o'r wybodaeth ar gyfer ymgeiswyr. Ni ddylai'r ddogfen hon fod yn fwy na dwy ochr o bapur A4. Efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. Mae'r ail ddogfen ategol yn CV llawn a chyfredol.
Dylid lanlwytho'r ddwy ddogfen i'r adran "rhesymau dros wneud cais" ar y ffurflen gais ar-lein.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.