Swydd Wag -- Aelod Bwrdd ar gyfer Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Manylion y swydd
• Bydd Aelod Anweithredol Cymru yn cael tâl cydnabyddiaeth o £8,000 y flwyddyn am weithio tua 20 diwrnod y flwyddyn.
• Mae Cadeirydd WFAC yn cael tâl cydnabyddiaeth o £6,000 y flwyddyn am weithio tua 15 diwrnod y flwyddyn.
• Mae’r tâl cydnabyddiaeth yn drethadwy, ac yn ddarostyngedig i gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd y ddau beth hyn yn cael eu tynnu yn y ffynhonnell o dan TWE cyn i chi gael eich talu. Nid oes modd hawlio pensiwn ar dâl cydnabyddiaeth. Nid yw aelodau’r Bwrdd yn cael eu cyflogi gan yr ASB.
• Gallwch chi hawlio costau teithio a chynhaliaeth, sy’n codi fel rhan briodol ac angenrheidiol o gyflawni eich rôl a'ch cyfrifoldebau fel Dirprwy Gadeirydd neu Aelod Anweithredol o'r ASB, yn unol â pholisi teithio a chynhaliaeth a chyfraddau’r ASB. Gellir cael copi o'r polisi a'r cyfraddau gan yr ASB.
Rôl y corff
Rôl statudol yr ASB yw diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2000, mae wedi creu argraff fel math newydd o awdurdod cyhoeddus – un annibynnol, rhagweithiol, egnïol, agored ynghylch polisi a gonest ynghylch peryglon.
Arweinir yr ASB gan Fwrdd o hyd at o 12 aelodau anweithredol, gan gynnwys y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd (yn ymarferol, ers creu Safonau Bwyd yr Alban yn 2014, mae 10 aelod wedi bod ar y bwrdd, roedd dwy o'r rolau bwrdd hyn wedi’u neilltuo i benodiadau gan lywodraeth yr Alban). Ar y cyd, mae aelodau’r Bwrdd yn rhannu cyfrifoldeb dros yr holl ASB. Caiff y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithredu ar y cyd â’r Gweinidogion priodol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Caiff un aelod o’r Bwrdd ei benodi gan Weinidogion Cymru, ac un aelod gan Adran Iechyd Gogledd Iwerddon. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ceir Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd sy’n gweithredu fel llwybr ar gyfer cyfleu i’r Bwrdd unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n berthnasol i fuddiannau’r ASB yn eu gwledydd unigol. Mae aelod o’r Bwrdd yn cadeirio pob un o’r Pwyllgorau hyn. Caiff yr aelodau o Fwrdd yr ASB sy’n weddill eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r awdurdodau priodol yn ymgynghori â’i gilydd cyn gwneud y penodiadau hyn. Nid oes unrhyw gymwysterau daearyddol penodol ar gyfer y rolau hyn.
Mae cylch gwaith yr ASB yn cynnwys rheoliadau a pholisi bwyd a diogelwch bwyd ar draws yr holl gadwyn fwyd (o’r ‘fferm i’r fforc’). Mae’n gweithio i ddiogelu defnyddwyr drwy wella diogelwch bwyd a thrwy gyflwyno gwybodaeth onest ac eglur. Mae patrwm cymhleth o gyfrifoldebau dros bolisi a chyflenwi ar ddiogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid, maeth, a labelu a chyfansoddiad bwyd nad yw'n ymwneud â diogelwch, ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu bod gan yr ASB gylch gwaith ychydig yn wahanol ym mhob gwlad.
Mae’r ASB hefyd yn awdurdod gorfodi. Mae rhai o staff yr ASB yn gweithio mewn ffatrïoedd cig i wirio bod gofynion y rheoliadau, gan gynnwys safonau lles anifeiliaid, yn cael eu bodloni. Mae’r ASB yn cydweithio'n agos â Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogion Safonau Masnach awdurdodau lleol mewn 387 o awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod bwyd o'r 600,000 a mwy o safleoedd bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ddiogel ac wedi'i labelu'n gywir.
Mae’r Asiantaeth yn gweithio’n agos ag amrywiaeth eang iawn o grwpiau rhanddeiliaid i wella diogelwch bwyd ym mhob cam o’r gadwyn fwyd. Mae’r ASB wedi cael cydnabyddiaeth am adfer ymddiriedaeth defnyddwyr y DU yn y ffordd y caiff diogelwch bwyd ei reoleiddio.
Darllen pellach: Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr ASB ar gyfer 2018/19 ar gael drwy:
Mae Bwrdd yr ASB yn cwrdd chwe gwaith y flwyddyn: pedwar cyfarfod Bwrdd a chyfarfodydd pwyllgor Busnes, pob un am ddeuddydd; a dau ddigwyddiad strategol neu sesiynau cwrdd i ffwrdd, am ddeuddydd. Yn ogystal, mae disgwyl i aelodau’r Bwrdd fod yn bresennol yn nerbyniad Seneddol blynyddol yr ASB. Mae cyfle i fynd i ddigwyddiadau ad hoc fel symposias gwyddoniaeth, ac o bryd i’w gilydd gellir gofyn iddynt ymuno â gweithgorau tymor byr neu dimau adolygu ar bynciau penodol (fel arfer ochr yn ochr ag arbenigwyr allanol). Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Archwilio a Risg yn cyfarfod wyneb yn wyneb bedair gwaith y flwyddyn, a thrwy tele-gynhadledd unwaith y flwyddyn.
Pwrpas Cadeirydd WFAC yw cadeirio WFAC a sicrhau bod y Pwyllgor yn bodloni’r gofyniad a roddir ar y Pwyllgorau Cynghori gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999, i roi cyngor neu wybodaeth i’r ASB am faterion yn ymwneud â’i swyddogaethau (yn enwedig materion sy’n effeithio ar Gymru neu’n perthyn fel arall iddi). Mae Cadeirydd WFAC yn atebol i Gadeirydd yr ASB.
Disgrifiad o'r swydd
Mae Aelod Bwrdd yr ASB yng Nghymru yn gyfrifol am:
• sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei dyletswyddau yn unol â’r gofyniad i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd;
• gosod ac atgyfnerthu gwerthoedd craidd yr ASB trwy ddatblygu a monitro amcanion, cynlluniau a pholisïau strategol.
• cynrychioli'r ASB a'i gwerthoedd;
• chwarae rhan effeithiol yng nghyfarfodydd, trafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd;
• monitro perfformiad y Weithrediaeth o ran cwrdd ag amcanion a thargedau cytunedig, gan gynnwys darpariaeth gwasanaethau; gwelliant parhaus; perfformiad ariannol, a rheoli risg;
• cynorthwyo â phenodi'r Prif Weithredwr; • cymryd rhan fel aelod neu gadeirio un neu fwy o Bwyllgorau’r Bwrdd: Busnes, ac Archwilio a Sicrwydd Risg
• gweithredu o blaid budd y cyhoedd bob amser, nid fel cynrychiolydd ar ran buddiannau unrhyw sector penodol, a heb ystyried unrhyw fuddiannau personol;
• cynghori Bwrdd yr ASB ar faterion sy'n ymwneud â Chymru; a • ymrwymo hyd at 20 diwrnod y flwyddyn i'w cyfrifoldebau ASB. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgorau; diwrnodau cwrdd i ffwrdd y Bwrdd, hyfforddiant a gweithdai; Digwyddiadau'r ASB; teithio i gyfarfodydd ledled y DU; a pharatoi trylwyr ar gyfer busnes y Bwrdd.
Mae aelodau’r Bwrdd yn cael cyngor a chefnogaeth gan y Weithrediaeth mewn perthynas â’u dyletswyddau a rhoddir gwybodaeth gefndir iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau. Mae ysgrifenyddiaeth benodol i gynorthwyo’r Bwrdd. Nid yw’r Bwrdd yn defnyddio papur yn ei gyfarfodydd.
Yn ogystal â chyfrifoldebau aelod y Bwrdd, dyma gyfrifoldebau Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru:
• gwasanaethu fel aelod WFAC a chadeirio cyfarfodydd mewn modd sy’n hwyluso cyfraniad effeithiol gan aelodau’r Pwyllgor trwy greu amgylchedd lle gallan nhw rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd;
• cynllunio busnes y cyfarfodydd Pwyllgor gyda Chyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru, gan gynnwys codi materion yn rhagweithiol i’r Pwyllgor eu trafod
• arwain WFAC ar ddarparu cyngor neu wybodaeth i’r ASB am faterion yn gysylltiedig â’i swyddogaethau, yn enwedig y rhai sy’n berthnasol i Gymru;
• annog WFAC i ystyried llais defnyddwyr Cymru a chryfhau persbectif y defnyddiwr, mewn perthynas â materion allweddol y mae Bwrdd yr ASB yn eu hystyried;
• cefnogi’r ASB wrth gyfathrebu â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru ac meithrin y perthnasoedd os oes angen er mwyn i’r Pwyllgor weithredu’n effeithiol;
• cynnal gwerthusiad o berfformiad aelodau’r Pwyllgor unwaith bob tymor;
• cynorthwyo i benodi Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
• gweithredu er budd y cyhoedd bob amser, nid fel cynrychiolydd ar ran buddiannau unrhyw sector penodol, a heb ystyried unrhyw fuddiannau personol; a
• rhoi tua 15 diwrnod y flwyddyn i’r ASB yn ogystal ag unrhyw ymrwymiad amser fel Aelod Bwrdd, a theithio i gyfarfodydd ledled Cymru.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Meini Prawf Hanfodol
Nid yw aelodau'r Bwrdd yn cynrychioli diwydiant na sector penodol. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf hanfodol sydd wedi’u nodi isod:
• Y gallu i weithredu ar Fwrdd sefydliad cenedlaethol mawr, gyda dealltwriaeth glir o system lywodraethu effeithiol, cyfrifoldeb ar y cyd a her adeiladol.
• Y gallu i brofi bod gennych chi feddwl a phrofiad strategol, ac yn gallu helpu i lunio cyfeiriad strategol yr ASB.
• Sgiliau dadansoddi a gwneud penderfyniadau cryf, yn gallu pwyso a mesur tystiolaeth gymhleth ac egluro'r sail ar gyfer penderfyniad.
• Ymrwymiad i roi'r defnyddiwr yn gyntaf, gydag ymwybyddiaeth o fuddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a sut mae'r system fwyd fyd-eang yn newid.
• Dealltwriaeth o’r dirwedd rhanddeiliaid mewn cysylltiad â bwyd, iechyd y cyhoedd a gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru.
ac o leiaf dau o'r meini prawf canlynol:
• Arbenigedd lefel uwch mewn iechyd y cyhoedd.
• Profiad lefel uwch mewn rheolaeth ariannol neu archwilio/sicrwydd, yn y sector cyhoeddus neu breifat.
• Arweinyddiaeth mewn amgylchedd technoleg neu ddata.
• Dealltwriaeth fanwl o'r sector bwyd, ar lefel y DU neu yn fyd-eang.
• Sgiliau Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu dwyieithrwydd mewn swyddi cyhoeddus yng Nghymru. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r rhestr ganlynol o ofynion iaith yn cynrychioli asesiad gwrthrychol gan y corff recriwtio o’r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen i gyflawni dyletswyddau’r swydd benodol hon.
• Darllen – Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
• Ysgrifennu – Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar
• Deall – Gallu deall rhannau o sgyrsiau sylfaenol
• Llafar – Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn Gymraeg
Yn ogystal â'r meini prawf uchod, bydd angen i Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ddangos tystiolaeth eu bod yn gallu:
• cadeirio cyfarfodydd Bwrdd ar lefel uchel mewn unrhyw sector
• deall buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, yng Nghymru; a
• pheidio â chynhyrfu yn wyneb adfyd a gwrthwynebiad.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Manylion Cyswllt:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Enw: Nicola Jenkins
Ffôn: 07855 514603
E-bost: nicola.jenkins@food.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod dros Gymru a Chadeirydd WFAC yn ogystal â rôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd, cysylltwch ag:
Enw: Ann Stirling
Ffôn: 07970 401448
E-bost: ann.stirling@food.gov.uk
Cofiwch ddyfynnu’r cyfeirnod ‘VAC 2020 Cymru’ ar bob gohebiaeth.
Os byddwch chi’n dewis gwneud cais, hoffem ddiolch i chi ymlaen llaw am eich amser a'ch ymdrech.
Sut i wneud cais
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.