Swydd Wag -- Bwrdd Cynghori Mwy na geiriau - Aelodau - Cymry'n ddymunol

Manylion y swydd

Bwrdd Cynghori Mwy na geiriau
Bydd y cyfarfodydd bwrdd, a gynhelir bob chwarter, yn cael eu cynnal ar-lein yn bennaf. Fodd bynnag, byddwn yn ceisio cynnal o leiaf un cyfarfod wyneb yn wyneb bob blwyddyn a hynny mewn lleoliadau ar draws Cymru. Fel rhan o addasiad rhesymol, ystyrir ceisiadau gan aelodau sy’n dymuno cyfrannu o bell at gyfarfodydd wyneb yn wyneb.
Nid yw Aelodau’r Bwrdd yn cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru a byddant yn gwasanaethu’n wirfoddol ac yn ddi-dâl. Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu treuliau teithio a chynhaliaeth a gewch i fynychu cyfarfodydd. Defnyddir y gyfradd sy’n berthnasol i aelodau Pwyllgorau’r Llywodraeth ar y pryd. Mae’n bosibl talu costau gofal plant a chostau dibynyddion, ar ôl cyflwyno derbynebau, am gostau ychwanegol a geir o ganlyniad uniongyrchol i ddyletswyddau a gyflawnir yn rhinwedd eich gwaith ar ran y Bwrdd.
5
blwyddyn

Rôl y corff

Mwy na geiriau yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Er gwaethaf ymdrechion i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r cynnydd wedi bod yn anghyson. Amrywiol hefyd fu’r gwasanaethau Cymraeg sydd wedi bod ar gael a'u hansawdd.

 

Aeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ati felly i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i ddatblygu cynllun 5 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r prif faterion a chyhoeddwyd Mwy na geiriau cynllun 2022-27 (y cynllun) ar 2 Awst 2022. Ei nod yw cefnogi siaradwyr Cymraeg i dderbyn gofal yn eu hiaith gyntaf. Wrth lansio’r cynllun, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, “Pan fydd pobl yn derbyn gofal neu'n ceisio'i drefnu, fel arfer dyna'r adeg pan fyddan nhw fwyaf bregus. Felly, mae bod yn gyfforddus yn eu hiaith eu hunain yn bwysig”.

 

Mae ymchwil wedi dangos bod gallu cael gafael ar wasanaethau yn Gymraeg wedi gwella profiad cyffredinol llawer o siaradwyr Cymraeg yn sylweddol ac, mewn llawer o achosion, wedi gwella eu canlyniadau iechyd a llesiant. Roedd hefyd yn dangos bod pobl yn aml yn ei chael yn anodd cael gafael ar wasanaethau yn Gymraeg ac yn amharod i ofyn pan nad oedd gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.

Mae egwyddor y Cynnig Rhagweithiol wrth galon y strategaeth. Mae’n rhoi’r cyfrifoldeb ar ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, yn hytrach na rhoi’r cyfrifoldeb ar y claf neu'r defnyddiwr gwasanaeth i orfod gofyn amdanynt.

Cafodd y cynllun ei ddatblygu gan y grŵp gorchwyl a gorffen, yn dilyn gwerthusiad annibynnol o’r cynllun pum mlynedd Mwy na geiriau cyntaf ac mae’n cynnwys y blaenoriaethau canlynol:

  • Prif ffrydio’r Gymraeg a chryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd y system ar bob lefel
  • Cynyddu’r ffocws ar gynllunio, comisiynu a hyfforddi’r gweithlu
  • Sicrhau bod systemau digidol yn ymgorffori egwyddorion dwyieithrwydd
  • Gofal sylfaenol
  • Rhannu arferion gorau a dull galluogol

Gweledigaeth y cynllun yw bod y Gymraeg yn perthyn i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar hyd a lled Cymru ac yn rhan annatod ohonynt. Mae gwireddu’r weledigaeth hon yn gyfrifoldeb i bawb yn eu priod feysydd a rolau er mwyn i unigolion dderbyn gofal sy’n diwallu eu hanghenion iaith, gan arwain at ganlyniadau gwell, heb orfod gofyn amdano.

Mae safonau proffesiynol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn nodi bod cyfathrebu effeithiol yn ofyniad allweddol, gan amlygu’r angen i gynnal urddas a pharch.

Mae hyn yng nghyd-destun strategaeth y Gymraeg Cymraeg 2050 sy’n amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg erbyn 2050.

Disgrifiad o'r swydd

  • Rydym yn chwilio am unigolion a fydd yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o gyflawni cylch gwaith y Bwrdd Cynghori.
  • Byddem yn croesawu ceisiadau gan ymarferwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n deall pwysigrwydd y Gymraeg i brofiad cleifion o ofal (urddas, tosturi ac ati) ac ansawdd eu gofal (effeithiolrwydd asesiad, triniaeth ac ati) a thrwy hynny ganlyniadau iechyd y claf.
  • Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth sydd â phrofiad uniongyrchol o bwysigrwydd derbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn Gymraeg a’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â
  • Bydd yr aelodau’n cael eu penodi fel unigolion arbenigol a bydd disgwyl iddynt gydbwyso eu rôl gynrychioladol â chylch gwaith ‘system gyfan’ a ‘Chymru gyfan’ ehangach y Bwrdd, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u profiad personol i gefnogi’r gwaith o gyflawni cynllun Mwy na geiriau yn effeithiol.
  • Bydd yr aelodau’n cael eu hannog i weithredu fel llysgenhadon ar ran y fframwaith Mwy na geiriau, yn enwedig drwy hyrwyddo’r dyheadau a’r dull gweithredu a nodir yn ein strategaeth Iaith Gymraeg: Cymraeg 2050 yn eu rhwydweithiau personol ac yn eu sefydliad a’u cymunedau 
  • Bod yn barod i neilltuo’r amser sydd ei angen i fynychu cyfarfodydd yn rheolaidd a pharatoi’n drylwyr ar gyfer y cyfarfodydd hynny. 
  • Bod yn barod i fynychu digwyddiadau datblygu aelodau 
  • Rhannu arbenigedd a phrofiad bywyd, herio’r status quo ac awgrymu atebion.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Yn eich cais, bydd disgwyl i chi ddangos y meini prawf hanfodol canlynol: 

1. dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac empathi tuag at hynny. 

2. defnyddio eich maes arbenigedd i helpu’r bwrdd cynghori i gyflawni’r newid sydd ei angen i wella’r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

3. y gallu i ddarllen a dadansoddi dogfennau a chyfrannu at drafodaethau ar lefel strategol. 

4. cyfathrebu’n effeithiol, dangos y gallu i wrando, dylanwadu a herio yn adeiladol a gwneud gwahaniaeth ymarferol

5 y gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol a gweithio fel rhan o dîm, gan ennill
ymddiriedaeth a hyder cydweithwyr. 

6. ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb, gan adnabod a herio arferion gwahaniaethol. 

7. ymrwymiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan a’r egwyddorion ychwanegol sydd wedi’u hamlinellu yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001’

Dyddiadau cyfweliadau

15 Mai 2023
19 Mai 2023

Dyddiad cau

28/04/23 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Ni fydd unrhyw gyfweliad yn digwydd. Bydd panel dethol yn asesu datganiadau personol yr ymgeiswyr i weld pwy mae’n credu sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y rolau orau. Dim ond yr wybodaeth yn eich datganiad personol bydd y panel yn dibynnu arni i asesu a ydych chi’n meddu ar y sgiliau a’r profiad angenrheidiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi tystiolaeth i gefnogi sut rydych yn bodloni’r holl feini prawf hanfodol.

Mae’r Bwrdd Cynghori’n disodli Bwrdd Partneriaeth y Gymraeg ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd wedi goruchwylio’r cynnydd dros y pum mlynedd diwethaf.

Bydd Bwrdd Cynghori Mwy na geiriau yn cynnwys Cadeirydd a hyd at 8 aelod.

Rôl y Bwrdd Cynghori yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu’r cynllun Mwy na geiriau drwy gynghori a herio’n gadarn, gan sicrhau bod buddiannau rhanddeiliaid yn cael eu hystyried mewn ffordd gytbwys ac ar lefel strategol ar draws y rhaglen gyfan. Bydd y bwrdd yn gwneud y canlynol:

•    cynghori ynghylch sut mae’r prosiect Mwy na geiriau yn cael effaith ar lefel y system drwy fonitro a chraffu ar y cynnydd a wneir gyda’r camau gweithredu a nodir yn Mwy na geiriau cynllun 2022-27, i sicrhau bod y prif nodau a thargedau’n cael eu cyflawni. Mae hyn yn cynnwys cynghori a chraffu ar sail meysydd arbenigedd yr aelodau
•    paratoi adroddiad blynyddol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynnydd, a gwneud argymhellion pan fydd angen rhagor o waith.
•    cynghori ynghylch ymgysylltu’n ehangach â’r cyhoedd a chleifion a chefnogi hynny er mwyn sicrhau bod llais unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei glywed.
•    canfod a rhannu arferion gorau, o ran datblygu polisïau a darparu gwasanaethau, gan sicrhau bod hynny’n arwain at ddarparu gwasanaethau dwyieithog yn well a bod hynny’n cael ei rannu ar draws y sectorau.
•    cynghori ar ofynion archwilio a gwerthuso er mwyn gallu cynnal asesiadau annibynnol o’r cynnydd sy’n cael ei wneud gyda chamau gweithredu’r cynllun.

Rydym yn chwilio am unigolion sy’n deall pwysigrwydd darparu gwasanaethau yn Gymraeg heb i bobl orfod gofyn am hynny.


Ymrwymiad Amser: Hyd at 3 diwrnod bob 3 mis. 4 cyfarfod y flwyddyn ac un diwrnod datblygu yn 2023. 

Cyfnod yn y rôl: Byddwch yn cael eich penodi am 5 mlynedd. 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.