Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan : Penodi Aelod Annibynnol (Cyllid)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan. Sefydlwyd y Bwrdd Iechyd ar 1 Hydref 2009 ac mae'n cwmpasu ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi dros 13,000 o staff, y mae dwy ran o dair ohonynt yn ymwneud â gofal cleifion uniongyrchol. Ceir mwy na 250 o ymgynghorwyr mewn cyfanswm o fwy na 1000 o feddygon ysbyty a meddygon teulu, a 6,000 o nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol a gweithwyr cymunedol.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cael ei arwain gan y Cadeirydd, cyfarwyddwyr anweithredol, y Prif Weithredwr a chyfarwyddwyr gweithredol eraill. Cefnogir y Bwrdd gan y Tîm Uwch-reolwyr.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Aelodau Annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn:-
Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.
Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;
Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.
Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
Cyfrannu at ' Lywodraethu a chyllid ' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu ' n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd angen i chi ddangos:-
Sgiliau a gwybodaeth am systemau ariannol a Rheolaeth Ariannol mewn sefydliadau mawr
Dealltwriaeth gadarn o rôl Archwilio a Llywodraethu.
Y gallu i ddadansoddi ac adolygu Achosion Busnes yn feirniadol.
Profiad o wella perfformiad i sicrhau gwerth am arian.
Y gallu i gymhwyso eich gwybodaeth arbenigol a'ch sgiliau cyllid ar lefel bwrdd strategol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus: PublicAppointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch ag Ann Lloyd CBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ffôn: 01633 435957, E-bost: Ann.Lloyd@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, efallai yr hoffech fynd i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/hafan
Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar publicappointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen ichi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol. Dogfen sy'n ateb y cwestiynau isod yw'r gyntaf, sef 'datganiad personol'. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. CV llawn, cyfredol yw'r ail ddogfen y bydd rhaid ichi ei chyflwyno. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i'r adran “Rhesymau dros ymgeisio” o'r ffurflen gais ar-lein. Eich datganiad personol yw eich cyfle i ddangos sut rydych yn bodloni pob un o ' r meini prawf fel y ' u nodir ar dudalen 7 y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.