Swydd Wag -- Aelod Annibynnol - Undebau Llafur

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Cynhelir cyfarfodydd y bwrdd ddwywaith y mis mewn amrywiol leoliadau ar draws ardal y Bwrdd Iechyd Prifysgol. Mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol gyfarfodydd seminar ac amrywiol bwyllgorau hefyd, a chynhelir y cyfarfodydd naill ai bob deufis neu'n chwarterol.
Nid oes taliad cydnabyddiaeth gan y bydd yr Aelod Bwrdd penodol hwn yn cael amser i ffwrdd o'i rôl bresennol gyda thâl i ddod i gyfarfodydd y Bwrdd Iechyd.
4
mis

Rôl y corff

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd) sy'n cynllunio ac yn darparu holl wasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a'r siroedd cyffiniol, sef cyfanswm o tua 384,000 o bobl ar draws chwarter arwynebedd tir Cymru.

Mae'n darparu gwasanaethau acíwt, sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu drwy ysbytai cyffredinol a chymunedol, canolfannau iechyd, meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optometryddion, a safleoedd eraill.

Mae gan y Bwrdd Iechyd bedwar prif ysbyty sef Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Tywysog Philip yn Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd. Hefyd mae ganddo saith ysbyty cymunedol.  Yn gwasanaethu'r boblogaeth mae 54 meddygfa, 48 practis deintyddol, 99 fferyllfa gymunedol, 56 optegydd ac 11 canolfan iechyd, ynghyd â nifer o leoliadau sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, anableddau dysgu a gwasanaethau eraill perthnasol. Caiff y gwasanaethau arbenigol iawn a thrydyddol eu comisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Mae gan y Bwrdd Iechyd drefniadau llywodraethiant a sicrwydd sy'n cael eu datblygu a'u cryfhau'n gyson. Mae cyfrifoldeb ar y Bwrdd i gynnal trefniadau llywodraethiant priodol er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu'n effeithiol ac yn darparu gofal diogel o ansawdd uchel, gan gydnabod yr angen i lywodraethu'r sefydliad yn effeithiol a thrwy wneud hynny godi hyder y cyhoedd a'r rhanddeiliaid. Mae pob un o aelodau'r Bwrdd yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol dros lunio strategaeth, sicrhau atebolrwydd, monitro perfformiad a llywio diwylliant, ynghyd â sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu mor effeithiol â phosib. Dyma ran hanfodol o swyddogaeth y bwrdd er mwyn gwella perfformiad, sicrhau bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar fuddiannau'r cleifion a chreu diwylliant sy'n helpu i sicrhau deialog agored.

 Yn unol â gwerthoedd craidd y GIG yng Nghymru - a luniwyd i sicrhau llywodraethiant da a chyrraedd safonau gofal uchel (fel y gwelir yn e-lawlyfr llywodraethu'r GIG), mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gosod pwyslais sylweddol ar: 

  • Rhoi ansawdd a diogelwch uwchlaw popeth

  • Integreiddio gwelliant yn ein gwaith bob dydd

  • Canolbwyntio ar atal, gwella iechyd ac anghydraddoldeb

  • Gweithio mewn Partneriaeth

  • Buddsoddi yn y staff

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Aelodau Annibynnol, ymysg pethau eraill, yn:-

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol. 

  • Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd. 

  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw.

  • Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.

  • Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.

  • Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn. 

  • Gallu cyfrannu at brosesau 'llywodraethu ac ariannu' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Bydd Aelodau Annibynnol yn dangos y rhinweddau canlynol:-

 Gwybodaeth a Phrofiad

  • Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd.

  • Y gallu i gyfrannu'n effeithiol ar lefel y Bwrdd.

  • Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

  • Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth

  • Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth sydd eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee y Ddeddf Diogelu Data.


Priodoleddau Personol a Sgiliau

Mae gan y Bwrdd Iechyd set o werthoedd ac ymddygiadau craidd a rennir – sef yr hyn y mae'r sefydliad yn ei gynrychioli. Bydd angen ichi allu dangos y canlynol:

  • Sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i ymgysylltu â chyflogeion a chynrychiolwyr cyflogeion ar bob lefel yn y Bwrdd Iechyd.

  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill.

  • Y gallu i gynnwys rhanddeiliaid a gweithio gyda nhw i helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.

  • Y gallu i ddadansoddi ac adolygu'n feirniadol gwybodaeth gymhleth.


Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.

 

Meini Prawf Penodol i'r Rôl

Aelod Annibynnol (Undebau Llafur):

rhaid ichi fod yn aelod o undeb llafur ac yn weithiwr cyflogedig ym Mwrdd  Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar hyn o bryd.

Bydd angen ichi ddangos:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion undebau llafur yn yr ardal a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Y gallu i gymhwyso eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o faterion undebau llafur ar lefel bwrdd strategol.


Yn ogystal â darparu tystiolaeth o'r meini prawf hyn byddwch cystal ag ateb y cwestiynau ar dudalennau 3 a 4 o'r pecyn ymgeiswyr hwn.

Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn barod i drafod y meini prawf penodol ar gyfer y rôl gydag ymgeiswyr ar gais (Mae manylion cyswllt i'w cael ar dudalen pump).

Dyddiadau cyfweliadau

18 Rhagfyr 2019
18 Rhagfyr 2019

Dyddiad cau

15/11/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltwch:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Tîm Penodiadau Cyhoeddus: Penodiadaycyhoeddus@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Aelod Annibynnol yr Undebau Llafur, cysylltwch â Judith Hardisty, Cadeirydd Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Ffôn: 01267 239637 E-bost: Judith.Hardisty@wales.nhs.uk 

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.hywelddalhb.wales.nhs.uk/ neu cysylltwch ag Ysgrifennydd Bwrdd y Bwrdd Iechyd ar 01267 239644 neu drwy joanne.wilson4@wales.nhs.uk 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.