Swydd Wag -- Penodi Aelodau Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid - Cymraeg yn Hanfodol

Manylion y swydd

Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid
Bydd cyfarfodydd y Bwrdd yn gymysgedd o gyfarfodydd ar-lein a rhai wyneb yn wyneb. Pan fo’n briodol, bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal ledled Cymru, gan gynnwys mewn lleoliadau gwaith ieuenctid.
Caiff aelodau’r Bwrdd hawlio £198 y diwrnod os na fydd eu cyflogwr yn gallu talu am y gwaith hwn fel rhan o’u contract cyflogaeth presennol.
12
blwyddyn

Rôl y corff

Caiff y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid (‘y Bwrdd Gweithredu’) ei sefydlu i adeiladu ar waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol ar 16 Medi 2021, sef ‘Sicrhau Model Cyflawni Cynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yng Nghymru’. Mae ei argymhellion yn bellgyrhaeddol ac wedi’u hystyried gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, sydd wedi amlinellu’r argymhellion sy’n flaenoriaeth iddo ef, y mae angen eu gweithredu ar unwaith, ac mae wedi ymrwymo i ymgymryd â’r gwaith pellach y mae angen ei wneud er mwyn asesu sut i fwrw ymlaen â chynigion y Bwrdd yn ehangach.

Bydd disgwyl i’r Bwrdd Gweithredu weithio gyda phobl ifanc a gyda’r sector gwaith ieuenctid a Llywodraeth Cymru i drafod yr argymhellion ymhellach, gan ddechrau gweithio tuag at roi’r argymhellion hynny ar waith drwy gynllun gwaith dros y ddwy flynedd nesaf. Mae datganiad ysgrifenedig Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ar yr argymhellion ar gael yma.

Disgrifiad o'r swydd

  • Cefnogi’r Cadeirydd yn y broses o gyflawni cylch gwaith y Bwrdd.
  •  Chwarae rôl weithredol ar y Bwrdd, gan gynnwys cyfrifoldeb dros arwain gwaith is-grŵp (yn ôl y gofyn) i gefnogi cynllun gwaith y Bwrdd a chyrraedd targedau cyflawni.
  • Cyfrannu at sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ganolog i waith y Bwrdd.
  • Cydweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion i’w gweithredu gyda’r nod o sicrhau gwaith ieuenctid cynaliadwy yng Nghymru, arferion gorau, a gwerth am arian, gan wneud yn siŵr bod y gwaith yn gydnaws â blaenoriaethau eraill y llywodraeth.
  • Hyrwyddo gwaith ieuenctid ar draws sectorau eraill, gan dynnu sylw at fanteision egwyddorion a dibenion gwaith ieuenctid fel dull o weithio gyda phobl ifanc, er mwyn eu galluogi a’u grymuso i ffynnu.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Rhugl

Manyleb y person

Meini prawf hanfodol

Arbenigedd a dealltwriaeth eang o ran darparu gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol ar lefelau cymunedol, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys yr heriau sy'n wynebu'r sector gwaith ieuenctid

  • Parch at egwyddorion atebolrwydd a llywodraethiant da, gan gynnwys ymrwymiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan' a dealltwriaeth glir ohonynt
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf, a record o greu cydberthnasau effeithiol dros ben ag ystod o randdeiliaid ar wahanol lefelau
  • Profiad o roi cyngor ar ddatblygu polisi yn eich maes arbenigedd eich hun, ond yn gyffyrddus a hyderus hefyd yn trafod ystod eang o faterion
  • Gallu a brofwyd i wneud dyfarniadau cadarn wrth wneud penderfyniadau strategol
  • Profiad penodol o gyfrannu at ac ymgysylltu â phrosiectau sy’n ymwneud â hawliau
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg wrth ddarparu gwaith ieuenctid a sut mae’n berthnasol i Cymraeg 2050
  • Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt ac i herio arferion gwahaniaethol.

Meini prawf dymunol

Yn ogystal, rydym yn chwilio am bobl sydd ag un neu fwy o’r sgiliau canlynol a/neu wybodaeth ar lefel uwch:

  • Profiad o ddatblygu polisi ar sail tystiolaeth ac o ddefnyddio data yn effeithiol i ddatblygu strategaeth
  • Dealltwriaeth o reoli newid yn effeithiol
  • Gwybodaeth am waith ieuenctid digidol ac egwyddorion cynllunio gwasanaeth, a phrofiad o hyn
  • Dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar waith ieuenctid yng Nghymru
  • Profiad o gyllid, darparu adnoddau a chomisiynu
  • Gwybodaeth am faterion iechyd meddwl a lles, a sut maent yn effeithio ar bobl ifanc.

Dyddiadau cyfweliadau

18 Gorffennaf 2022
18 Gorffennaf 2022

Dyddiad cau

04/07/22 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r canlynol:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid a rôl aelodau’r Bwrdd, cysylltwch â dareth.edwards005@llyw.cymru 

I gael rhagor o gymorth i ymgeisio am y swydd hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i Penodiadau cyhoeddus | LLYW.CYMRU


 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i Penodiadau cyhoeddus | LLYW.CYMRU

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.