Swydd Wag -- Llywydd - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Manylion y swydd
Bydd y Llywydd yn derbyn tâl o £17,591 y flwyddyn yn seiliedig ar ffi o £337 y dydd. Caiff hawlio costau teithio ac unrhyw gostau rhesymol eraill y mae’n bosibl y bydd yn eu hysgwyddo wrth ymgymryd â gwaith y Bwrdd oddi wrth y Llyfrgell.
Rôl y corff
Rôl a chyfrifoldebau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a rôl y Llywydd
Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw sicrhau y gall pawb ddysgu am ein diwylliant a'n treftadaeth amrywiol, ymchwilio iddynt a'u mwynhau.
Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae'r Llyfrgell yn derbyn tua £10 miliwn o gyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Mae'r Llyfrgell hefyd yn gorff Siarter Frenhinol ac yn elusen annibynnol gofrestredig. Goruchwylir y gwaith o’i rheoli a’i gweithredu gan Fwrdd Ymddiriedolwyr.
Mae'r Llyfrgell yn cefnogi polisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Iaith Gymraeg 2010 ac yn integreiddio ei gwaith i gefnogi pob un o'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.
I gael rhagor o fanylion am ddiben, gweledigaeth ac amcanion y Llyfrgell, ewch i: https://www.library.wales/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/amdanom_ni/dogfennaeth_gorfforaethol/2017-2021_Strategic_Plan_FINAL.pdf
Disgrifiad o'r swydd
Mae hon yn rôl proffil uchel, strategol a dylanwadol yn y sector diwylliannol yng Nghymru.
Bydd y Llywydd newydd yn ymuno â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfnod heriol yn ei hanes wrth i ganfyddiadau'r adolygiad diweddar wedi'i deilwra gael sylw ac wrth i'r Llyfrgell symud i weithredu ei gweledigaeth strategol newydd.
Mae'r Llywydd yn atebol i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon am berfformiad y Llyfrgell Genedlaethol ac am gyflawni blaenoriaethau strategol. Mae datblygu a chynnal perthynas agos gyda'r Dirprwy Weinidog ac aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru yn rhan hanfodol o rôl y Cadeirydd.
Mae angen i'r Llywydd fod yn unigolyn o statws a gweledigaeth sy'n gallu arwain sefydliad cenedlaethol mewn rôl anweithredol ar lefel uwch, yn ogystal â bod yn eiriolwr dros y Llyfrgell gyda’i phrif randdeiliaid. Mae'r Llywydd yn gweithredu fel llefarydd, cynrychiolydd ac yn ffigwr cyhoeddus ar gyfer y Llyfrgell, gan weithredu gyda thact, diplomyddiaeth a phwerau perswâd sydd wedi cael eu hymarfer lawer.
Y Llywydd yw Cadeirydd y Bwrdd, ac mae'n sicrhau yr ymdrinnir â busnes yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae'n sicrhau bod y Bwrdd yn addas at y diben, gan gynnig craffu priodol a llywio strategol. Mae'r Llywydd yn gyfrifol am sicrhau bod Ymddiriedolwyr yn cael asesiadau sefydlu, hyfforddi a pherfformiad, ac yn cydymffurfio â gofynion llywodraethu o dan y Siarter Frenhinol, y Ddeddf Elusennau, a Chod Ymddygiad y Bwrdd. Mae'r Llywydd hefyd yn cynrychioli'r Llyfrgell mewn prosesau penodiadau cyhoeddus ar y cyd â Llywodraeth Cymru i ddewis Ymddiriedolwyr newydd.
Yn y Llyfrgell, mae'r Llywydd yn cadeirio'r Pwyllgor Penodiadau a Chydnabyddiaeth (sy'n goruchwylio penodiadau Ymddiriedolwyr ac uwch staff, gan gynnwys penodiadau'r Llyfrgellydd Cenedlaethol) ac mae hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu a Pherfformiad, y pwyllgor Cynllunio Ariannol, a'r Pwyllgor Archwilio a Risg.
Rhan o rôl y Llywydd yw sefydlu perthynas waith gref a chefnogol â Phrif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol y Llyfrgell ac â'r uwch swyddog, gan roi cyngor, cymorth a her, ond parchu cyfrifoldeb gweithredol ar yr un pryd.
O bryd i'w gilydd, bydd y Llywydd yn cynrychioli'r Llyfrgell yn y cyfryngau Cymraeg a Saesneg, yn ystod ymweliadau gan uwch ffigyrau cyhoeddus, ac wrth agor arddangosfeydd a digwyddiadau.
Rhaid i'r Llywydd bob amser allu gweithio'n gyfforddus ac yn effeithiol o fewn y cyd-destun diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd dwyieithog y mae'r Llyfrgell yn gweithredu ynddo.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- yn dangos dealltwriaeth ac ymrwymiad, a brwdfrydedd dros waith y Llyfrgell a’r sector diwylliannol yng Nghymru;
- yn ymwybodol o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru a sut y maent yn dylanwadu ar waith y Llyfrgell a'r sector diwylliant yn ei chyfanrwydd;
- yn meddu ar sgiliau arweinyddiaeth helaeth a phrofiad o ysgogi newid;
- wedi ymrwymo i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol;
- wedi ymrwymo i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) https://www.gov.uk/government/publications/the-7-principles-of-public-life;
- yn gallu cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd y Llyfrgell yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad:
Meini Prawf Hanfodol:
- Yn dangos ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gwerthfawrogiad o'i rôl a'i phwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys y cyd-destunau diwylliannol, dysgu, iechyd a lles, economaidd a gwleidyddol-gymdeithasol y mae'n gweithredu ynddynt; a dealltwriaeth o'i rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
- Yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf a sgiliau rheoli rhanddeiliaid, gan gynnwys sgiliau llysgenhadol;
- Wedi ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, gan nodi profiad perthnasol i ddatblygu Bwrdd cynhwysol ac amrywiol;
- Wedi cael profiad o ddatblygu partneriaethau strategol, ac o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu a fydd yn llywio'r agenda o sicrhau bod y Llyfrgell yn gwasanaethu ac yn cynrychioli cymunedau a rhanbarthau amrywiol Cymru;
- Yn meddu ar sgiliau arwain cryf a'r gallu i gefnogi ac i herio sefydliad proffil uchel mewn ffordd effeithiol;
- yn dangos y gallu i feddwl a gweithredu'n strategol;
- yn dangos dealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da;
- yn dangos craffter busnes a masnachol a phrofiad o weithgareddau cynhyrchu incwm (gan gynnwys codi arian);~
- profiad o weithredu ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth ac amlddisgyblaethol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Manylion Cyswllt
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am rôl Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cysylltwch â Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Cenedlaethol, dros y ffôn ar 01970 632952 neu drwy e-mail yn:
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, anfonwch neges e-bost at PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.