Swydd Wag -- Penodi Aelod - Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (Cymry'n ddymunol)

Manylion y swydd

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Fel rheol, cynhelir y cyfarfodydd pwyllgor yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan gynhelir cyfarfodydd ledled Cymru.
£3,885 y flwyddyn
21
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn gweithredu fel bwrdd cynghori i’r ASB. Caiff aelodau WFAC eu penodi gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am yr ASB, yn unol â Deddf Safonau Bwyd 1999. Diffinnir y rôl statudol fel a ganlyn (yn yr iaith wreiddiol):

“There shall be an advisory committee for Wales for the purpose of giving advice or information to the Agency about matters connected with its functions (including, in particular, matters affecting or otherwise relating to Wales).

Sefydlwyd WFAC yn 2000 er mwyn rhoi cyngor a gwybodaeth i’r ASB. Bydd cyngor a gwybodaeth o’r fath ar ddiogelwch bwyd, safonau bwyd a materion perthnasol, yn enwedig os ydynt yn berthnasol i Gymru. Mae rhaid i’r Asiantaeth ystyried cyngor neu wybodaeth sy’n rhesymol neu’n ymarferol, p’un a roddir y cyngor neu’r wybodaeth ar gais yr Asiantaeth ai peidio. Caiff aelodau’r Pwyllgor eu penodi gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn unol â Deddf Safonau Bwyd 1999, er mwyn darparu ystod eang o arbenigedd, profiad a gwybodaeth ymarferol. 

Disgrifiad o'r swydd

Mae’r Pwyllgor yn gweithredu fel bwrdd cynghori i'r ASB. Dyma gylch gorchwyl y Pwyllgor:

  • rhoi cyngor neu wybodaeth i’r Asiantaeth am faterion sy’n gysylltiedig â’i gweithrediadau, gan gynnwys materion sy'n effeithio ar Gymru neu sy’n berthnasol iddi.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.


Meini Prawf Hanfodol

Sgiliau a gwybodaeth hanfodol

  • Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol a pharhaus o faterion diogelwch a safonau bwyd, gan gynnwys datblygu polisi a thirwedd rhanddeiliaid, fel y maent yn berthnasol i Gymru.
  • Sgiliau dadansoddi, strategol a gwneud penderfyniadau cryf, yn gallu pwyso a mesur tystiolaeth gymhleth ac egluro sail y cyngor.
  • Bod yn graff eich barn, gyda lefel uchel o onestrwydd a chyfrifoldeb cyhoeddus, ynghyd â’r gallu i gyfrannu at wneud penderfyniadau anodd.
  • Y gallu i ddehongli a chyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol ar lafar, yn ysgrifenedig a thrwy ystod o gyfryngau.
  • Y gallu i wasanaethu heb wrthdaro buddiannau neu i ddangos sut y byddant yn ymdrin â gwrthdaro buddiannau posib, boed yn rhai go iawn neu’n rhai tybiedig.
  • Y gallu i ystyried a deall cyngor, tystiolaeth a dadleuon gwyddonol.
  • Ymrwymiad i faterion defnyddwyr neu ddod â mewnwelediadau bwyd/defnyddwyr o fewn cyd-destun Cymru.
  • Dangos profiad perthnasol yn un (neu fwy) o’r canlynol:

 

Mae’r Pwyllgor yn chwilio am unigolion a all ddangos bod ganddynt brofiad perthnasol mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

  • Buddiannau defnyddwyr (er enghraifft, ymchwil defnyddwyr neu ymgysylltu â defnyddwyr drwy ystod o gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol).
  • Cyflenwi bwyd (er enghraifft, y sector arlwyo/bwytai/gwestai, mentrau bwyd cymunedol, llunio polisïau mewn meysydd cysylltiedig)
  • Cyfathrebu (er enghraifft, darlledu, y wasg neu gyfryngau cymdeithasol)
  • Gwyddoniaeth (er enghraifft, Microbioleg, Meddygol, Epidemioleg, Milfeddygol, Iechyd y Cyhoedd neu Wyddorau Cymdeithasol, newid ymddygiad yn benodol)
  • Polisi bwyd (er enghraifft, llywodraethu, safonau a sicrwydd y system fwyd)
  • Cyfraith bwyd (er enghraifft, diogelu defnyddwyr, twyll bwyd, gorfodi cyfraith bwyd)
  • Addysg/Academi (er enghraifft, ymchwilio neu addysgu systemau bwyd a diogelwch)
  • Cynhyrchu bwyd (er enghraifft, cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid cynradd neu ddiwydiannol)
  • Cyrff cyhoeddus perthnasol (er enghraifft, iechyd y cyhoedd).

Dyddiadau cyfweliadau

26 Mehefin 2023
30 Mehefin 2023

Dyddiad cau

30/04/23 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Fel rhan ymroddiad WFAC i fod yn agored, mae lleiafswm o bedwar cyfarfod y flwyddyn yn cael eu cynnal yn gyhoeddus, a gall unrhyw aelod o’r cyhoedd neu’r wasg sydd â diddordeb ddod i’r cyfarfodydd hyn. Yn ystod pob cyfarfod, mae cyfle i aelodau o’r cyhoedd ofyn cwestiynau i’r siaradwyr ac i aelodau’r Pwyllgor. Mae’n bosib y bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn swyddfa’r ASB yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, gallai cyfarfodydd y Pwyllgor gael eu cynnal ledled Cymru hefyd, ac mae angen i’r aelodau fod yn barod i deithio yn ôl yr angen. Gan fod y cyfarfodydd hyn yn gyhoeddus, ac yn cael eu cynnal yn ôl amserlen dynn, mae angen i aelodau’r Pwyllgor allu siarad yn glir ac yn hyderus yn gyhoeddus, a gallu gwneud eu cyfraniadau mewn modd cryno. Caiff trafodaethau sy’n ymdrin â busnes mewnol y Pwyllgor, fel materion sefydliadol a chynlluniau gwaith y dyfodol, eu cynnal yn sesiynau cynllunio'r Pwyllgor fel arfer, a chânt eu cynnal mewn sesiynau caeëdig.

Mae’r rôl yn cynnwys ymrwymiad amser o 21 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys cyfarfodydd Pwyllgor ac amser paratoi. Mae’n bosib y bydd hefyd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau eraill y Pwyllgor mewn mannau eraill pan fo'r angen yn codi. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys cyfrannu at is-bwyllgor i’r Pwyllgor, a sefydlwyd i ystyried maes pwnc penodol neu gynrychioli’r Pwyllgor mewn digwyddiad arall. Bydd holl gostau rhesymol ar gyfer teithio a chynhaliaeth yn cael eu had-dalu.

Mae’r penodiad fel arfer am 2-3 blynedd i ddechrau ac mae modd adnewyddu am dymor ychwanegol ar argymhelliad y Cadeirydd, ac yn destun perfformiad boddhaol yn ystod y cyfnod cyntaf yn y swydd. Caiff penderfyniadau terfynol ar benodiadau ac ail-benodiadau eu gwneud gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Nid oes unrhyw ragdybiaeth awtomatig y caiff aelod ei ailbenodi, ac mae rhagdybiaeth gryf na fydd unrhyw unigolyn yn treulio mwy na dau dymor nac yn gwasanaethu mewn unrhyw swydd am fwy na deng mlynedd.

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.