Swydd Wag -- Cadeirdydd
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn gorff annibynnol a noddir gan Lywodraeth Cymru. Fe'i sefydlwyd o dan Ddeddf Democratiaeth Leol (Cymru) 2013, gyda'r prif ddiben o gyhoeddi rhaglen waith sy'n parhau i adolygu trefniadau etholiadol y 22 prif gyngor.
Mae'r Comisiwn yn gwneud argymhellion adolygiad etholiadol i Lywodraeth Cymru er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Mae gwaith y Comisiwn yn cynnwys ystyried demograffeg a seilwaith ardaloedd, barn yr holl bartïon â diddordeb, a llunio cynigion i gadw neu newid ffiniau presennol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Bydd y gwaith hwn hefyd yn cynnwys mynychu a chyfarch cyfarfodydd cyhoeddus ac ymweld â'r ardal dan sylw.
Mae cyllideb gyfredol y Comisiwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 yn £890,000.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd y Cadeirydd yn rhoi arweiniad i'r Comisiynwyr a'r ysgrifenyddiaeth. Byddant hefyd yn rheolwr llinell ar Brif Weithredwr y Comisiwn.
Bydd y Cadeirydd hefyd yn arwain y ffordd o ran rôl y Comisiwn wrth gwrdd â safonau'r Gymraeg, dyletswyddau cydraddoldeb, datblygu cynaliadwy a gweithio mewn partneriaeth.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.
Dylai ymgeiswyr:
• Bod yn fedrus iawn wrth arwain tîm bach i gyflwyno rhaglen waith ar amser ac i safonau uchel;
• gallu dangos ymrwymiad i reoli cyllidebau'n effeithiol ac yn effeithlon o fewn fframwaith ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru ’;
• gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm bach;
• gallu gwerthuso gwybodaeth a dod i gasgliad rhesymegol;
• yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a thrafod;
• gallu cymryd safbwynt annibynnol, cytbwys a dangos niwtraliaeth wleidyddol;
• gallu dangos sgiliau profedig wrth gadeirio cyfarfodydd / paneli;
• meddu ar ddealltwriaeth ac ymrwymiad clir i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol; a
• â dealltwriaeth ac ymrwymiad clir i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Manylion Cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Tîm Penodiadau Cyhoeddus, Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael gwybodaeth Gomisiwn Ffuniau Democratiaeth Cymru no chewch ymeld ȃ gwefan y Comisiwn https://ldbc.gov.wales/?lang=cy neu cysylltwch Phrif Weithredwr Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru Shereen Williams a’r ffôn 02921 052501, e-bost: shereen.williams@boundaries.wales.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.