Swydd Wag -- Penodi (Tri)

Manylion y swydd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
di-dâl
12
blwyddyn

Rôl y corff

Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth amrywiol yn hygyrch i bawb at ddibenion dysgu, ymchwil a mwynhau.

 

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae'r llyfrgell yn derbyn oddeutu £10 miliwn mewn cyllid refeniw blynyddol gan Lywodraeth Cymru. Mae'r llyfrgell hefyd yn gorff Siarter Frenhinol ac yn elusen annibynnol gofrestredig. Mae'r gwaith o'i rheoli a'i gweithrediadau yn cael eu goruchwylio gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. 

 

Mae'r llyfrgell yn rhan o bolisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'n integreiddio ei gwaith i gefnogi pob un o'r saith nod llesiant, yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

 

I gael rhagor o wybodaeth am ddiben, gweledigaeth ac amcanion y llyfrgell, cliciwch ar ei dolen isod: https://www.library.wales/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/amdanom_ni/dogfennaeth_gorfforaethol/2017-2021_Strategic_Plan_FINAL.pdf

 

Disgrifiad o'r swydd

Rôl yr Holl Ymddiriedolwyr

Mae'r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn darparu arweiniad a llywodraethu i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae'n cyflawni'r ddyletswydd bwysig o graffu ar holl fuddsoddiadau a gweithgareddau'r llyfrgell. 

 

Mae'r holl ymddiriedolwyr yn rhannu cyfrifoldeb ac atebolrwydd ar y cyd am benderfyniadau'r bwrdd. Rôl y bwrdd yw arwain yn effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol, a gosod amcanion heriol.  Mae'r bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'n sicrhau bod gweithgareddau'r llyfrgell yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol, ac mae'n monitro perfformiad i sicrhau bod y llyfrgell yn bodloni ei nodau, amcanion a thargedau perfformiad yn llawn. 

 

Mae'r llyfrgell yn elusen gofrestredig ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sy'n golygu bod ymddiriedolwyr yn gyfrifol yn unigol ac ar y cyd i'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.  


Mae'r bwrdd yn cynnwys hyd at 15 o aelodau, gan gynnwys y llywydd, sef Rhodri Glyn Thomas ar hyn o bryd. Mae wyth yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru a saith gan y llyfrgell.  Mae'r ymddiriedolwyr yn cynnwys tri swyddog y bwrdd – sef y llywydd, yr is-lywydd a'r trysorydd. Mae'r llywydd a'r is-lywydd yn cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r trysorydd yn cael ei benodi gan y llyfrgell ei hun. 

 

Er mai'r bwrdd sy'n gyfrifol am bopeth mae'r llyfrgell yn ei wneud yn y pen draw, y prif weithredwr a llyfrgellydd sy'n gyfrifol i'r ymddiriedolwyr am reoli'r sefydliad yn weithredol o ddydd i ddydd. 


Rôl ymddiriedolwr
 

  • Meddu ar ddealltwriaeth o’r sector treftadaeth ddiwylliannol a hyrwyddo ei fuddion yn weithredol i gymunedau amrywiol Cymru a thu hwnt.
  • Bod â dealltwriaeth glir o ran sut gall y llyfrgell barhau i gyfrannu fel prif ddarparwr polisi treftadaeth ddiwylliannol y llywodraeth.
  • Adolygu, craffu ar, herio a chefnogi'r weithrediaeth i gyflawni nodau, amcanion a thargedau'r llyfrgell, a sicrhau llywodraethu da.
  • Meddu ar ddealltwriaeth dda o gyfrifoldeb corfforaethol a rheoli risg i sicrhau bod gweithgareddau'r llyfrgell yn cael eu cynnal yn effeithiol ac yn effeithlon.
  • Cymryd rhan yn y broses cynllunio corfforaethol, gan gynnwys cymeradwyo cynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol.
  • Meddu ar ddealltwriaeth o ran sut mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru'n gweithredu.
  • Sicrhau bod y llyfrgell yn cael gwerth am arian o fewn fframwaith arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb.
  • Gweithio fel rhan o Fwrdd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth mewn ffordd bositif ac sy’n herio ymddygiad anymwybodol gan gyfrannu'n weithredol yn ystod cyfarfodydd y bwrdd a gweithgareddau allweddol.
  • Cyfrannu'n weithredol i annog aelodaeth o'r bwrdd a'r genhedlaeth nesaf o ymddiriedolwyr.
  • Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel o gywirdeb a chyllid cyhoeddus.
  • Bod yn wleidyddol annibynnol 
  • Meddu ar ddealltwriaeth eglur o “Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus” Nolan a bod yn ymrwymedig iddynt.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Manyleb y person

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a hanes o weithio gydag eraill i wireddu amcanion.
  • Y gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn wrthrychol a dadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn nodi materion allweddol a gwneud penderfyniadau da.
  • Ymrwymiad amlwg i ddeall rôl ddeuol y llyfrgell fel elusen fawr a Chorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn unol â dealltwriaeth o fywyd cyhoeddus ac egwyddorion llywodraethu da.
  • Ymrwymiad a brwdfrydedd o ran gwaith y llyfrgell, ynghyd â dealltwriaeth o'r sector diwylliannol yn ei gyfanrwydd. 
  • Dealltwriaeth o gymunedau amrywiol Cymru ac ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb mewn ffordd weithredol.
  • Profiad o fewn o leiaf un o'r canlynol:
  • Technoleg ddigidol ac arloesi ym maes treftadaeth ddiwylliannol
  • Y rhai sy'n deall yr angen i ymgysylltu â grwpiau dan anfantais a diwallu anghenion grwpiau amrywiol yng Nghymru.
  • Profiad o fewn y sector gwirfoddol
  • Sgiliau proffesiynol mewn rheoli archifau a gwybodaeth / llyfrgellyddiaeth a rheoli casgliadau, cadwraeth a chadw digidol
  • Archwilio a llywodraethu

Dyddiadau cyfweliadau

1 Mai 2019
3 Mai 2019

Dyddiad cau

12/03/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau

I gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech drefnu ymweld â’r Llyfrgell, cysylltwch â Carol Edwards trwy ffonio (01970) 632923 neu drwy anfon neges e-bost at: carol.edwards@llgc.org.uk

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, anfonwch neges e-bost i penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

 


Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 256332 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.