Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd - Gofal Cymdeithasol Cymru

Manylion y swydd

Gofal Cymdeithasol Cymru
Yng Nghaerdydd yn bennaf y cynhelir cyfarfodydd ond cynhelir cyfarfodydd mewn lleoliadau eraill yng Nghymru o bryd i'w gilydd
£337 y dydd ynghyd â chostau teithio a chostau rhesymol eraill o fewn terfynau cydnabyddedig yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
8
mis

Rôl y corff

Cefndir

 

Cafodd Gofal Cymdeithasol Cymru ei ailenwi o dan adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ar ôl cael ei sefydlu'n wreiddiol fel Cyngor Gofal Cymru o dan adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000. Fel corff cyhoeddus, ei brif rôl yw cyflawni ei gyfrifoldebau statudol a hynny yng nghyd-destun nodau strategol Llywodraeth Cymru.

 

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru'r swyddogaethau statudol canlynol er mwyn hyrwyddo a chynnal:

  • safonau uchel o ran darparu gwasanaethau gofal a chymorth;
  • safonau uchel o ran ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol;
  • safonau uchel o ran hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol, a:
  • hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol.

 

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd:

 

  • Yn cadw ac yn cyhoeddi'r rhestr o weithwyr gofal cymdeithasol;
  • Yn paratoi a chyhoeddi codau ymarfer proffesiynol perthnasol;
  • Yn rheoleiddio gwaith cymdeithasol a hyfforddiant gofal cymdeithasol;
  • Yn gwneud rheolau i sicrhau darpariaeth ddigonol o ran addysg, hyfforddiant a dysgu;
  • Yn datblygu cymwysterau a safonau galwedigaethol cenedlaethol; ac
  • Yn arwain a chefnogi'r gwaith o wella gwasanaethau.

 

Yn ogystal â:

 

  • Chasglu a dadansoddi data i lywio polisi a chynllunio ar lefel genedlaethol a rhanbarthol; a
  • Ymgymryd â swyddogaethau'r Cyngor Sgiliau Sector - Sgiliau Gofal a Datblygu (SfCD) gan gynnwys gwybodaeth a chynllunio'r gweithlu.

 

I weld yr hyn a gyflawnodd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei flwyddyn gyntaf darllenwch ei Adroddiad effaith 2017-18 Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Mae gwybodaeth bellach am waith Gofal Cymdeithasol Cymru i'w chael yma: www.gofalcymdeithasol.cymru

 

Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru

 

Mae  Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnwys Cadeirydd a dim mwy na 14 o aelodau, y mae pob un ohonynt wedi'i benodi gan Weinidogion Cymru. Lleygwyr sy'n arwain y Bwrdd sy'n golygu y bydd bob amser mwy o bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, gofalwyr ac aelodau'r cyhoedd ar y Bwrdd na gweithwyr proffesiynol o'r sector gofal. 

 

Mae angen i'r holl aelodau ymrwymo i sicrhau bod Gofal Cymdeithasol Cymru yn gweithio'n dda er mwyn i bobl sy'n gweithio mewn gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn meddu ar y sgiliau a'r hyfforddiant iawn. 

 

Mae Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru yn darparu arweiniad a chyfeiriad i'r sefydliad. Mae'r Bwrdd yn gneud hyn trwy bennu cynlluniau, cytuno ar sut a ble y caiff arian ei wario, a thrwy adolygu cynnydd gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru a sut y mae'n cael ei gyflawni. Mae'r Bwrdd yn cydweithio'n agos â'r tîm rheoli gweithredol wrth gyflawni ei rôl.

 

Rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod y nodau a'r amcanion a bennwyd gan Weinidogion Cymru yn cael eu bodloni. Rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn dda a'i fod yn atebol. 

 

Mae aelodau'r Bwrdd:

 

  • yn sicrhau bod Gofal Cymdeithasol Cymru'n gweithio yn unol â gweithdrefnau a pholisïau
  • yn sicrhau bod Gofal Cymdeithasol Cymru'n gwario arian yn dda ac yn y ffordd iawn
  • yn gwrando, yn gofyn cwestiynau, yn ymuno mewn trafodaethau ac yn cyfrannu at syniadau ynghylch yr hyn y bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei wneud yn y dyfodol a sut y gellir gwneud hyn
  • yn gwneud penderfyniadau fel rhan o'r Bwrdd a bod yn gyfrifol am y penderfyniadau hynny
  • yn gweithio gydag ymrwymiad a brwdfrydedd ag aelodau eraill o'r Bwrdd a staff Gofal Cymdeithasol Cymru
  • yn cynrychioli Gofal Cymdeithasol Cymru gyda'i gwsmeriaid, sefydliadau eraill a chymunedau.

Disgrifiad o'r swydd

Mae Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru yn gyfrifol ar y cyd am sicrhau bod cyfeiriad Strategol Gofal Cymdeithasol Cymru yn canolbwyntio ar nodau Llesiant Cymru, egwyddorion Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu (Cymru) 2016. Disgwylir i'r Bwrdd lynu at saith egwyddor bywyd cyhoeddus a dangos gwerthoedd arweinyddiaeth Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru.

 

Bydd y Cadeirydd, yn atebol i'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethiant effeithiol, gan gynnal gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus Cymru ac ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru.

 

Bydd Cadeirydd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru:

 

  • Yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweledigaeth ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru i hybu ei bwrpas wrth ennyn hyder yng ngweithlu'r blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol, gan arwain a chefnogi gwelliant, a chynnig hyder yn y ffordd mae'r gweithlu'n cael ei reoleiddio ac effeithiolrwydd Gofal Cymdeithasol Cymru. 
  • Yn sicrhau bod y Bwrdd yn cydweithio i fodloni nodau strategol Gofal Cymdeithasol Cymru trwy ei strategaethau, ei bolisïau a'i lywodraethiant.
  • Yn sicrhau bod polisïau a chamau gweithredu Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidog.
  • Yn atebol i'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ar gyfer gweithgarwch Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Yn gyfrifol am arweinyddiaeth y bwrdd ac am sicrhau ei effeithiolrwydd ym mhob agwedd ar ei rôl. Yn hyrwyddo cysylltiadau effeithiol a chyfathrebu agored, rhwng aelodau'r bwrdd, y tîm gweithredol a staff o fewn Gofal Cymdeithasol Cymru.
  • Yn gweithio'n effeithiol â'r Prif Weithredwr a'r Tîm Gweithredol sy'n gyfrifol am adnoddau'r sefydliad ac am ei weithrediad.
  • Yn dal y Prif Weithredwr i gyfrif ar draws hyd a lled ei gyfrifoldebau, gan sicrhau bod y gwaith o ddatblygu Tîm Gweithredol effeithiol yn canolbwyntio ar gyflawni a chanlyniadau ar gyfer y sector.
  • Yn cefnogi aelodau'r Bwrdd i gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ar y cyd, a chadeirio, neu gymryd rhan yn ôl y gofyn, mewn un neu ragor o bwyllgorau Gofal Cymdeithasol Cymru.  
  • Fel llysgennad i Gofal Cymdeithasol Cymru hybu ei broffil a chysylltiadau ehangach â'r cyhoedd a sefydliadau sy'n rhanddeiliaid.
  • Yn gweithio'n effeithiol â sefydliadau perthnasol ar lefel ranbarthol, cenedlaethol ac ar lefel y DU i hybu amcanion Gofal Cymdeithasol Cymru a sefydliadau rhanddeiliaid. 
  • Yn rhoi sicrwydd a threfn lywodraethu ar gyfer gofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt.
  • Yn sicrhau bod holl aelodau'r Bwrdd yn glir am eu rolau a'u cyfrifoldebau.
  • Yn sicrhau bod holl aelodau'r Bwrdd yn cael eu hyfforddi a'u datblygu a bod eu perfformiad yn cael ei adolygu'n ffurfiol bob blwyddyn. 
  • Yn sicrhau bod y Bwrdd yn dangos diwylliant cadarnhaol a hyrwyddo llesiant, gwerthoedd a safonau ymddygiad i'r sefydliad a'r staff.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Gwybodaeth a Phrofiad:

 

Rydym yn chwilio am berson â phrofiad o’r canlynol:

 

  • bod yn arweinydd sy'n gallu meddwl yn strategol
  • gweithredu ar lefel uwch mewn swydd strategol
  • rheoli perthnasoedd, gan feithrin cydberthnasau gwaith cryf ac agored â rhanddeiliaid
  • dadansoddi data a thystiolaeth i lywio penderfyniadau
  • defnyddio dulliau gweithredu arloesol
  • canolbwyntio ar y materion y mae angen delio â hwy
  • sgiliau penderfynu sy'n caniatáu i benderfyniadau cytbwys gael eu gwneud ar amrywiaeth o faterion
  • Adolygu a chraffu ar berfformiad sefydliadol
  • Meithrin a chynnal perthnasoedd adeiladol
  • darparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth

 

Rydym yn chwilio am berson â gwybodaeth a dealltwriaeth o:

 

  • y sector cyhoeddus
  • gweithio mewn partneriaeth
  • materion cydraddoldeb, gan hybu amrywiaeth a herio arferion gwahaniaethol.

 

Meini Prawf Hanfodol

 

Priodoleddau a sgiliau personol:
 

  • Safbwynt strategol, gweledigaeth a'r gallu i weithio'n gadarnhaol mewn tîm;
  • Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau hirdymor a thymor byr;
  • dealltwriaeth dda o faterion llywodraethu Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru a materion cyllid y sector cyhoeddus a'r sefyllfa wleidyddol y mae'n gweithredu o'i fewn.
  • Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol;
  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru gyda sgiliau dylanwadu a negodi cadarn;
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel;
  • Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill;
  • Y gallu i sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd drwy gymryd rhan mewn proses gadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau;
  • Y gallu i ysgogi a datblygu'r bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd;
  • meithrin cydberthnasau gwaith cefnogol ag aelodau eraill o'r Bwrdd a'r weithrediaeth.

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y priodoleddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer cael eich penodi. Dylai hyn gael ei gynnwys gyda'ch CV.

Dyddiadau cyfweliadau

19 Mawrth 2019
22 Mawrth 2019

Dyddiad cau

04/01/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Penodiadau Cyhoeddus

Ffôn: 03000 61 6095

E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Gofal Cymdeithasol Cymru a rôl y Cadeirydd cysylltwch â Llinos Bradbury, Ysgrifennydd y Bwrdd, Gofal Cymdeithasol Cymru:

 

Ffôn: 029 2078 0540

E-bost:   llinos.bradbury@socialcare.wales 

 

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Uned Penodiadau Cyhoeddus ar 03000 616095, neu e-bost:. PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.