Swydd Wag -- Penodi 3 Ymddiriedolwr - Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Manylion y swydd

Amgueddfa Cymru
Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd y Bwrdd yn digwydd yng Nghaerdydd. Bydd gofyn teithio hefyd i safleoedd eraill Amgueddfa Cymru ar draws Cymru.
Nid yw ymddiriedolwyr AC yn cael eu talu, ond gallant hawlio costau teithio a chynhaliaeth (ar lwfansau a gytunwyd gan AC).
12
blwyddyn

Rôl y corff

Cyflwyniad

Mae Amgueddfa Cymru yn un o brif sefydliadau diwylliannol a chenedlaethol Cymru.  Mae 1.8 miliwn o bobl yn ymweld ag Amgueddfa Cymru bob blwyddyn.

 

Y Cefndir

Wedi'i sefydlu gan Siarter Frenhinol yn 1907, Amgueddfa Cymru yw un o'r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig, a'r sefydliad diwylliannol pwysicaf yng Nghymru. Mae'r Amgueddfa yn geidwad casgliadau amrywiol a rhyngwladol bwysig, ac yn arwain ar addysg a chyfraniad diwylliannol.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan; Y Pwll Mawr: Yr Amgueddfa Lo Genedlaethol ym Mlaenafon; Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nhre-fach, Felindre; Amgueddfa'r Lleng Brydeinig yng Nghaerleon; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru Ganolfan Casgliadau Cenedlaethol hefyd ger Caerdydd. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, yn cynnwys gwaith celf a dylunio, hanes ac archaeoleg, a'r gwyddorau naturiol.

 

Caiff Amgueddfa Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, fel Corff a Noddir, ac mae ganddi Fwrdd o Ymddiriedolwyr sydd â'r swyddogaeth o bennu cyfeiriad strategol y sefydliad, ac o sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu rheoli yn iawn.

Cyfanswm Cymorth Grant Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2017-18 oedd £22 miliwn. Mae'n cyflogi dros 600 aelod staff.

  

Gweledigaeth Amgueddfa Cymru "Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau"

Ein nod yw defnyddio'n hamgueddfeydd a'n casgliadau i ysbrydoli pobl i feithrin ymdeimlad o lesiant ac o hunaniaeth, i fynd ati i ddarganfod, i fwynhau ac i ddysgu'n ddwyieithog, ac i ddeall lle Cymru yn y byd ehangach.

 

Mae ein gwaith yn seiliedig ar yr egwyddor bod diwylliant yn cael ei greu gan bobl a chymunedau. Mae ein casgliadau ac adnoddau eraill yn dod yn rhannol o'r gymdeithas yr ydym yn rhan ohoni, ac yn cael eu hadnewyddu'n barhaus trwy ein gwaith gyda'r cyhoedd. Mae ein casgliadau gwyddorau naturiol yn cael effaith ar fioamrywiaeth a geoamrywiaeth Cymru ac yn cymharu â chasgliadau byd-eang. Rydym yn atebol i'r genedl yr ydym yn ei gwasanaethu am ein defnydd o'r adnoddau hyn.

 

Mae gan yr Amgueddfa gynlluniau partneriaeth pwysig gydag amgueddfeydd ac orielau lleol ym mhob cwr o Gymru, ac eir ati i ddatblygu arddangosfeydd sy'n manteisio ar y casgliadau cenedlaethol sydd gan yr Amgueddfa.

 

Mae'r Weledigaeth yn cael ei chefnogi gan yr ymrwymiadau canlynol:  

  • Ffynnu
  • Profi
  • Dysgu
  • Cyfrannu

Disgrifiad o'r swydd

Swyddogaeth a Chyfrifoldebau'r Bwrdd

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethu Amgueddfa Cymru ac mae'n dal casgliadau'r Amgueddfa mewn ymddiriedolaeth ar ran pobl Cymru.  Rôl y Bwrdd yw arwain yn effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol.  Mae'r Bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'n monitro perfformiad yn unol  â nodau, amcanion a thargedau perfformiad Amgueddfa Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestredig ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.  Mae gan Ymddiriedolwyr rwymedigaethau i Lywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, mae Amgueddfa Cymru yn derbyn tua 80% o'i chyllid blynyddol (rhyw £22 miliwn o gyllid refeniw yn 2018-19) oddi wrth Lywodraeth Cymru ar ffurf Cymorth Grant. 


Swyddogaeth Ymddiriedolwr

Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr yn gyntaf gefnogi'r Cyfarwyddwr Cyffredinol i weithredu Gweledigaeth yr Amgueddfa o 'Ysbrydoli Pobl; Newid Bywydau'. 

Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr hefyd:

  • fynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar eu cyfer;
  • wasanaethu ar is-bwyllgorau;
  • gefnogi rheolwyr a staff yr Amgueddfa yn eu gwaith;
  • gynrychioli'r Amgueddfa mewn digwyddiadau cyhoeddus;
  • hyrwyddo proffil yr Amgueddfa;
  • roi eu profiad a'u harbenigedd i'r Amgueddfa;
  • hwyluso'r cysylltiadau gyda rhanddeiliaid yr Amgueddfa; a
  • chyfrannu at y gwaith o lunio polisïau a strategaethau a phennu blaenoriaethau i fodloni amcanion cyffredinol yr Amgueddfa.

 

Mae gofyn i Ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol hefyd o’r rhwymedigaethau sydd arnynt yn sgil y ffaith bod yr Amgueddfa yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.  Caiff y rhain eu nodi yn y Ddogfen Fframwaith, sy'n nodi'r Telerau a'r Amodau sy'n gysylltiedig â'r arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei roi i'r Amgueddfa. 


Ymddiriedolwr - Manyleb Person

I fod yn effeithiol, mae ar y Bwrdd angen Ymddiriedolwyr amrywiol iawn eu harbenigedd a'u profiad.  Fel Ymddiriedolwr, byddwch yn helpu i benderfynu ar bolisïau, strategaethau a blaenoriaethau o ran gweithgareddau craidd yr Amgueddfa.  Dylech fedru defnyddio eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad i ddarparu tystiolaeth o’ch gallu yn y meysydd canlynol:

 

  • ymrwymiad a brwdfrydedd yng ngwaith yr Amgueddfa i gefnogi newid a datblygiad yng Nghymru drwy gyfraniadau diwylliannol;
  • dealltwriaeth a diddordeb yn y sector diwylliannol yn ei gyfanrwydd a sensitifrwydd ynghylch materion diwylliannol;
  • sgiliau cynrychioli a chyfathrebu rhagorol;
  • cydweithio’n agos â’ch cyd-Ymddiriedolwyr;
  • profiad rheoli mewn cyd-destun busnes, sefydliadol, gweinyddol neu gyd-destun arall, gan werthfawrogi’r gwahaniaeth rhwng y swyddogaeth polisi a’r swyddogaeth weithredol;
  • ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny’n briodol. 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Dylai ymgeiswyr fedru dangos bod ganddynt: 

  • ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, gan werthfawrogi ei swyddogaeth a'i bwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru; gan gynnwys y cyd-destun diwylliannol, dysgu, iechyd a llesiant, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu o fewn iddo; a dealltwriaeth o'i rwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
  • y gallu i wella swyddogaeth yr Amgueddfa wrth wasanaethu a chynrychioli amrywiol gymunedau a rhanbarthau Cymru
  • arbenigedd mewn un neu ragor o’r meysydd a ganlyn:
    1. dysgu, cyfranogi ac ymgysylltu â'r gymuned;
    2. iechyd a lles;
    3. y sector cyhoeddus / elusennol / y trydydd sector
    4. y cyfryngau digidol;
    5. dylunio a'r amgylchedd adeiledig / cyflawni prosiectau mawr neu gyfalaf;
    6. codi arian, creu busnes ac incwm.
  • ymrwymiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan

 

Y Gymraeg

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae'r Amgueddfa yn sefydliad dwyieithog ac yn rhagweithiol wrth gefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae'n ofynnol i'r Amgueddfa gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, fel a bennwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Polisi prif noddwr yr Amgueddfa, Llywodraeth Cymru, yw cefnogi'r iaith Gymraeg, ac mae ei Strategaeth ar gyfer y Gymraeg (Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr Cymraeg) yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Dyddiadau cyfweliadau

18 Chwefror 2019
1 Mawrth 2019

Dyddiad cau

02/01/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Dylai ymgeiswyr fod yn bobl sy'n ymddwyn bob amser mewn modd a fydd yn ennyn hyder y cyhoedd.

 

Yn arbennig, rhaid i'r ymgeiswyr ddatgan a ydynt yn gwybod am unrhyw beth yn eu bywydau preifat neu broffesiynol, a allai achosi embaras iddynt hwy neu i Lywodraeth  Cymru petai'n dod yn wybyddus ar ôl eu penodi.

 

Mae gwybodaeth yn Siarter Frenhinol Amgueddfa Cymru sy'n esbonio a yw'r Ymddiriedolwyr cyfredol neu gyn Ymddiriedolwyr yn gymwys i wneud cais am swyddi ar y Bwrdd.  https://amgueddfa.cymru/siarter-a-statudau/

 

Ni chaiff Ymddiriedolwyr wasanaethu ar y Bwrdd am fwy nag 8 mlynedd yn olynol yn yr un rôl, neu gyfanswm o 12 mlynedd yn olynol (mewn unrhyw gyfuniad o rolau gwahanol fel Ymddiriedolwr ac fel Swyddog; e.e. Trysorydd, Is-lywydd neu Lywydd). Gellir penodi pobl a arferai fod yn Ymddiriedolwyr ar yr amod bod mwy na phedair blynedd wedi mynd heibio ers iddynt fod yn Ymddiriedolwyr o'r blaen.

 

Dylai ymgeiswyr hefyd nodi y bydd bod yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru yn golygu na fyddant yn gymwys i fod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015. http://www.legislation.gov.uk/uksi/2015/1536/contents/made.

 

Gwrthdaro Buddiannau

Bydd gofyn ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai fod, neu y gellid dehongli eu bod, yn gwrthdaro â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau fel Ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru, gan gynnwys buddiannau busnes neu swyddi o awdurdod y tu allan i’ch rôl yn Amgueddfa Cymru.

Bydd unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei drafod yn y cyfweliad.  Os byddwch yn cael eich penodi, bydd gofyn ichi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.

  

Safonau mewn bywyd cyhoeddus

Bydd disgwyl ichi arddel safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol. Bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus gadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus; mae'r ddogfen honno i'w gweld yma:

http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf.


Manylion Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Ymddiriedolwr Amgueddfa Cymru cysylltwch â: Elaine Cabuts (e-bost: mailto:elaine.cabuts@museumwales.ac.ukelaine.cabuts@museumwales.ac.uk,  rhif ffôn: 02920 573204). 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, anfonwch neges e-bost at: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.