Swydd Wag -- Penodi Llywydd - Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Manylion y swydd

Amgueddfa Cymru
Bydd y rhan fwyaf o weithgareddau'r Llywydd yn ardal Caerdydd fel arfer, ond bydd gofyn iddo/iddi ymweld ag Amgueddfeydd Cenedlaethol eraill a lleoliadau eraill. Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr 4 gwaith y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y De.
Cynigir cyflog o £35,182.80 y flwyddyn ar gyfer y swydd. Ni fydd unrhyw daliadau bonws. Ni fydd y Llywydd yn aelod o Gynllun Pensiwn yr Amgueddfa. Mae gan aelodau'r Bwrdd hawl i hawlio costau teithio a chostau eraill o fewn y cyfraddau y cytunwyd arnynt.
2
wythnos

Rôl y corff

Cyflwyniad

Mae Amgueddfa Cymru yn un o brif sefydliadau diwylliannol a chenedlaethol Cymru. Mae 1.8 miliwn o bobl yn ymweld ag Amgueddfa Cymru bob blwyddyn.

 

Y Cefndir

Wedi'i sefydlu gan Siarter Frenhinol yn 1907, Amgueddfa Cymru yw un o'r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig, a'r sefydliad diwylliannol pwysicaf yng Nghymru. Mae'r Amgueddfa yn geidwad casgliadau amrywiol a phwysig yn rhyngwladol, ac yn arwain ar addysg a chyfraniad diwylliannol.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol: Caerdydd; Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan; Y Pwll Mawr: Amgueddfa Lofaol Cymru ym Mlaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru yn Nhre-fach, Felindre; Amgueddfa'r Lleng Rufeinig yng Nghaerleon; Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru Ganolfan Casgliadau Cenedlaethol hefyd ger Caerdydd. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, yn cynnwys gwaith celf a dylunio, hanes ac archaeoleg, a'r gwyddorau naturiol.

 

Caiff Amgueddfa Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, fel Corff a Noddir gan y Llywodraeth, ac mae ganddi Fwrdd o Ymddiriedolwyr sydd â'r swyddogaeth o bennu cyfeiriad strategol y sefydliad, a sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu rheoli yn iawn.

Cyfanswm Cymorth Grant Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2017-18 oedd £22 miliwn. Mae'n cyflogi dros 600 aelod staff.

 

Gweledigaeth Amgueddfa Cymru "Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau"

Ein nod yw defnyddio'n hamgueddfeydd a'n casgliadau i ysbrydoli pobl i feithrin ymdeimlad o lesiant ac o hunaniaeth, i fynd ati i ddarganfod, i fwynhau ac i ddysgu'n ddwyieithog, ac i ddeall lle Cymru yn y byd ehangach.

 

Mae ein gwaith yn seiliedig ar yr egwyddor bod diwylliant yn cael ei greu gan bobl a chymunedau. Mae ein casgliadau ac adnoddau eraill yn dod yn rhannol o'r gymdeithas yr ydym yn rhan ohoni, ac yn cael eu hadnewyddu'n barhaus trwy ein gwaith gyda'r cyhoedd. Mae ein casgliadau gwyddorau naturiol yn cael effaith ar fioamrywiaeth a geoamrywiaeth Cymru ac yn cymharu â chasgliadau byd-eang. Rydym yn atebol i'r genedl yr ydym yn ei gwasanaethu am ein defnydd o'r adnoddau hyn.

 

Mae gan yr Amgueddfa gynlluniau partneriaeth pwysig gydag amgueddfeydd ac orielau lleol ym mhob cwr o Gymru, ac eir ati i ddatblygu arddangosfeydd sy'n manteisio ar y casgliadau cenedlaethol sydd gan yr Amgueddfa.

 

Mae'r Weledigaeth yn cael ei chefnogi gan yr ymrwymiadau canlynol:

 

  • Ffynnu
  • Profi
  • Dysgu
  • Cyfrannu

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a Chyfrifoldebau'r Bwrdd

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethu Amgueddfa Cymru ac mae'n dal casgliadau'r Amgueddfa mewn ymddiriedolaeth ar ran pobl Cymru.  Rôl y Bwrdd yw arwain yn effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol.  Mae'r Bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'n monitro perfformiad yn unol  â nodau, amcanion a thargedau perfformiad Amgueddfa Cymru. 

 

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestredig ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.  Mae gan Ymddiriedolwyr rwymedigaethau i Lywodraeth Cymru ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, mae Amgueddfa Cymru yn derbyn tua 80% o'i chyllid blynyddol (rhyw £22 miliwn o gyllid refeniw yn 2018-19) oddi wrth Lywodraeth Cymru ar ffurf Cymorth Grant. 

 

Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr yn gyntaf gefnogi'r Cyfarwyddwr Cyffredinol i weithredu Gweledigaeth yr Amgueddfa o 'Ysbrydoli Pobl; Newid Bywydau'. Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr hefyd:

 

  • fynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar eu cyfer;
  • wasanaethu ar is-bwyllgorau;
  • gefnogi rheolwyr a staff yr Amgueddfa yn eu gwaith;
  • gynrychioli'r Amgueddfa mewn digwyddiadau cyhoeddus;
  • hyrwyddo proffil yr Amgueddfa;
  • roi eu profiad a'u harbenigedd i'r Amgueddfa;
  • hwyluso'r cysylltiadau gyda rhan-ddeiliaid yr Amgueddfa; a
  • chyfrannu at y gwaith o lunio polisïau a strategaethau a phennu blaenoriaethau i fodloni amcanion cyffredinol yr Amgueddfa.

 

Rôl y Llywydd

Byddwch yn atebol i'r Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth am berfformiad Amgueddfa Cymru a'r hyn y mae'n ei gyflawni.  Mae datblygu a chynnal perthynas agos gyda'r Gweinidog ac aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru yn rhan hollbwysig o rôl y Llywydd.

 

Mae angen i'r Llywydd fod yn unigolyn o statws a gweledigaeth sy'n gallu arwain sefydliad cenedlaethol mewn rôl anweithredol ar y lefel uwch, ac yn eiriolwr dros yr Amgueddfa gyda'n prif ran-ddeiliaid. 

 

 Arbenigedd Hanfodol:

 

  1. Arweinyddiaeth
  • Bydd yn arfer arweinyddiaeth gadarn o'r Bwrdd fel Cadeirydd Amgueddfa Cymru.
  • Bydd ganddo/ganddi gyfrifoldeb cyffredinol dros Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac yn atebol yn bersonol i Weinidogion Cymru am ymddygiad Amgueddfa Cymru ac am ymddygiad ei Hymddiriedolwyr.
  • Fel Ymddiriedolwr, byddwch yn helpu i benderfynu ar bolisïau, strategaethau a blaenoriaethau o ran gweithgareddau craidd yr Amgueddfa.
  • Bydd yn dangos ymrwymiad a brwdfrydedd dros waith yr Amgueddfa a'r sector ddiwylliannol yn gyffredinol, gan gynnwys gwerthfawrogiad cyffredinol o'r pynciau sy'n cael eu cynnwys yng nghasgliadau'r Amgueddfa.
  • Bydd yn dangos ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol.
  • Bydd yn cyfrannu at greu incwm a gweithgareddau codi arian.

 

        2.    Cyfathrebu a Chysylltiadau Allanol

  • Bydd yn cynrychioli Amgueddfa Cymru ac yn siarad drosti.  Mae'n bosibl y bydd disgwyl i'r Llywydd gynrychioli Amgueddfa Cymru yn ystod ymweliadau gan y teulu brenhinol, llysgenhadon a phobl flaenllaw eraill ym myd cyhoeddus, a phan fydd arddangosfeydd a digwyddiadau'n cael eu hagor.
  • Bydd yn gallu rheoli cysylltiadau â rhanddeiliaid yn effeithiol, gan hwyluso a hyrwyddo cysylltiadau gyda Chyfeillion a Noddwyr Amgueddfa Cymru.
  • Bydd yn defnyddio'r cysylltiadau cryf sydd ganddo/ganddi yng Nghymru er budd Amgueddfa Cymru.

 
        3.    Llywodraethu

  • Bydd yn gweithio'n effeithiol gyda'r Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Uwch-dîm Rheoli ac Ymddiriedolwyr i sicrhau cymaint o gysylltiad â phosib.
  • Bydd yn sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol.
  • Bydd yn aelod o'r Pwyllgor Adolygu Perfformiad a'r Pwyllgor Archwilio.
  • Bydd yn cynrychioli Amgueddfa Cymru mewn prosesau penodi a gynhelir ar y cyd â Llywodraeth Cymru i ddethol Ymddiriedolwyr newydd, a bydd yn sicrhau bod y Bwrdd yn addas i'r diben; bydd yn sicrhau bod Ymddiriedolwyr yn dilyn proses gynefino ac yn derbynl hyfforddiant, bod eu perfformiad yn cael ei asesu a'u bod yn cydymffurfio â gofynion llywodraethu o dan y Siarter Frenhinol, y Ddeddf Elusennau, Egwyddorion Nolan a Chod Ymddygiad y Bwrdd.
  • Bydd yn cadeirio pob un o gyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a'r Pwyllgor Penodiadau a Chyflogau (sy'n goruchwylio'r gwaith o benodi Ymddiriedolwyr a staff gan gynnwys y Cyfarwyddwr Cyffredinol).
  • Bydd yn mynychu cyfarfod ffurfiol gyda'r Gweinidog ddwywaith y flwyddyn i drafod sut y mae'r Amgueddfa'n dod yn ei blaen o ran bodloni'r gofynion a bennir yn Llythyr Cylch Gwaith blynyddol y Gweinidog.
  • Bydd yn sicrhau bod Ymddiriedolwyr yn cael eu harfarnu o'r cyfathrebu rhwng Amgueddfa Cymru a Gweinidogion Cymru.
  • Bydd yn ymrwymo i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan’ https://www.gov.uk/government/publications/the-7-principles-of-public-life


        4.    Perthynas gyda'r Cyfarwyddwr Cyffredinol

  • Bydd yn sefydlu a meithrin perthynas waith gref, effeithiol a chefnogol gyda'r Cyfarwyddwr Cyffredinol, gan gynnig cymorth a chyngor ond gan barchu ei hawl ef i weithredu;
  • Bydd yn helpu'r Cyfarwyddwr Cyffredinol i wireddu'r weledigaeth yn 'Ysbrydoli Pobl: Newid Bywydau'.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Meini Prawf Hanfodol:

  • Ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, gan werthfawrogi ei swyddogaeth a'i bwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru; gan gynnwys y cyd-destun diwylliannol, dysgu, iechyd a llesiant, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu o fewn iddo; a dealltwriaeth o'i rwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
  • Tystiolaeth o gyfathrebu rhyngbersonol cryf, a sgiliau rheoli rhanddeiliaid, gan gynnwys sgiliau llysgenhadol.
  • Ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, gan nodi profiad perthnasol i ddatblygu Bwrdd cynhwysol ac amrywiol, yn ogystal â gwella swyddogaeth yr Amgueddfa wrth wasanaethu cymunedau a rhanbarthau amrywiol Cymru.
  • Sgiliau arwain cryf a'r gallu i gefnogi ac i herio sefydliad proffil uchel mewn ffordd effeithiol.
  • Dangos y gallu i feddwl yn strategol a dangos doethineb masnachol i gefnogi llywodraethu da a gweithgarwch creu incwm (gan gynnwys codi arian).
  • Profiad o weithio mewn sefydliad cymhleth ac amlddisgyblaethol.

 

Y Gymraeg

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. 

Mae'r Amgueddfa yn sefydliad dwyieithog ac yn rhagweithiol wrth gefnogi a hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg. Mae'n ofynnol i'r Amgueddfa gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, fel a bennwyd gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011. 

Polisi prif noddwr yr Amgueddfa, Llywodraeth Cymru, yw cefnogi'r iaith Gymraeg, ac mae ei Strategaeth ar gyfer y Gymraeg (Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr Cymraeg) yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Dyddiadau cyfweliadau

18 Chwefror 2019
1 Mawrth 2019

Dyddiad cau

02/01/19 17:00

Gwybodaeth ychwanegol

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Dylai ymgeiswyr fod yn bobl sy'n ymddwyn bob amser mewn modd a fydd yn ennyn hyder y cyhoedd.

 

Yn arbennig, rhaid i'r ymgeiswyr ddatgan a ydynt yn gwybod am unrhyw beth yn eu bywydau preifat neu broffesiynol, a allai achosi embaras iddynt hwy neu i Lywodraeth  Cymru petai'n dod yn wybyddus ar ôl eu penodi.

 

Mae gwybodaeth yn Siarter Frenhinol Amgueddfa Cymru sy'n esbonio a yw'r Ymddiriedolwyr cyfredol neu gyn Ymddiriedolwyr yn gymwys i wneud cais am swyddi ar y Bwrdd.  https://amgueddfa.cymru/siarter-a-statudau/

 

Ni chaiff Ymddiriedolwyr wasanaethu ar y Bwrdd am fwy nag 8 mlynedd yn olynol yn yr un rôl, neu gyfanswm o 12 mlynedd yn olynol (mewn unrhyw gyfuniad o rolau gwahanol fel Ymddiriedolwr ac fel Swyddog; e.e. Trysorydd, Is-lywydd neu Lywydd). Gellir penodi pobl a arferai fod yn Ymddiriedolwyr ar yr amod bod mwy na pedair blynedd wedi mynd heibio ers iddynt fod yn Ymddiriedolwyr o'r blaen.

 

Dylai ymgeiswyr hefyd nodi y bydd bod yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru yn golygu na fyddant yn gymwys i fod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015. http://www.legislation.gov.uk/uksi/2015/1536/contents/made.


Gwrthdaro Buddiannau

Bydd gofyn ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai fod, neu y gellid dehongli eu bod, yn gwrthdaro â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau fel Llywydd Amgueddfa Cymru, gan gynnwys buddiannau busnes neu swyddi o awdurdod y tu allan i’ch rôl yn Amgueddfa Cymru.

 

Bydd unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei drafod yn y cyfweliad.  Os byddwch yn cael eich penodi, bydd gofyn ichi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.

 

Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus

Bydd disgwyl ichi arddel safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol. Bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus gadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus; mae'r ddogfen honno i'w gweld yma:

http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf.


Manylion Cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Llywydd Amgueddfa Cymru, cysylltwch â: Elaine Cabuts (e-bost: mailto:elaine.cabuts@museumwales.ac.ukelaine.cabuts@museumwales.ac.uk rhif ffôn: 02920 573204). 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, anfonwch neges e-bost at: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.   

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.