Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd - Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru: Cyflog ac Amodau Athrawon
Manylion y swydd
Rôl y corff
Bydd y swyddogaeth i bennu cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru yn trosglwyddo i Weinidogion Cymru o 30 Medi 2018 ymlaen o dan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018. Bydd angen i’r mecanwaith/proses ar gyfer pennu cyflog ac amodau athrawon fod ar waith o fis Medi 2018, fel bod modd cyflwyno’r cyflog ac amodau athrawon cyntaf i’w pennu gan Weinidogion Cymru o fis Medi 2019 ymlaen.
Gwnaeth Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyflwyno datganiad ysgrifenedig i hysbysu Aelodau'r Cynulliad o'i bwriad i ymgynghori ar broses ar gyfer pennu cyflog ac amodau athrawon a sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol. Cafodd y datganiad hwn ei gyhoeddi ar 14 Rhagfyr 2017.
Cytunodd Kirsty Williams AC, yr Ysgrifennydd Addysg, a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, i gyhoeddi'r ddogfen ymgynghori ar y model arfaethedig ar gyfer pennu cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y cynigion rhwng 9 Mawrth a 4 Mai.
Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ar 18 Gorffennaf 2018 yn nodi mai'r 'Model Ymgysylltu ag Athrawon' oedd y model a ffefrid. Roedd y datganiad yn hysbysu holl Aelodau'r Cynulliad am ganlyniad y broses ymgynghori gyhoeddus a'r model a fyddai'n cael ei roi ar waith.
Rôl Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru
Bydd y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru cynnwys Cadeirydd a 7 Aelod a fydd yn gyfrifol am gyflwyno argymhellion i'r Llywodraeth ar gyflog ac amodau athrawon ysgol yng Nghymru.
Bydd y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn asesu tystiolaeth o rhanddeiliaid allweddol sy’n cynrychioli ysgolion a’r gweithlu athrawon yng Nghymru, gan chwarae rôl hollbwysig o ran herio, cefnogi, cyfeirio a dealltwriaeth o’r heriau y mae ysgolion yng Nghymru yn eu hwynebu.
Bydd y swydd hon yn her ddeallusol a dylanwadol i'r unigolyn iawn, a fydd yn cyfrannu at y broses o recriwtio, cadw ac ysgogi gweithlu addysgu effeithiol. Fel aelod o'r Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, byddwch yn dod â'ch arbenigedd eich hun, ynghyd â lefel uchel o allu dadansoddol a sgiliau cyfathrebu cryf ac, yn ddelfrydol, gwerthfawrogiad o faterion gwobrwyo yn y sector cyhoeddus.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd aelodau'r Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru cydweithio, gyda chyfarwyddyd gan y Cadeirydd, i:
- Ystyried tystiolaeth ysgrifenedig, sylwadau a chynigion gan bartïon;
- Cymryd tystiolaeth lafar gan bartïon;
- Casglu gwybodaeth a data am gyflogau, polisi, materion economaidd ac ariannol a materion yn ymwneud â'r gweithlu;
- Pwyso a mesur tystiolaeth a chynnal dadansoddiad annibynnol;
- Dod i gasgliadau a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Y rhinweddau gofynnol ar gyfer y rôl
- Bydd gofyn i bob ymgeisydd ddangos yn ei gais ysgrifenedig ac yn y cyfweliad sut y mae'n bodloni gofynion y swydd. Rhestrir isod y meini prawf a fydd yn cael eu defnyddio i asesu a oes gan yr ymgeiswyr y galluoedd gofynnol.
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithredu ar lefel strategol o fewn sefydliad cymhleth yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.
- Dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chyflogau ac amodau, datblygiad proffesiynol, arweinyddiaeth, cydnabyddiaeth ariannol, rheoli perfformiad a gwobrwyo a hefyd gwerthfawrogiad o'r cyfyngiadau polisi, ariannol a gweithredol sy'n effeithio ar benderfyniadau ynghylch cydnabyddiaeth ariannol.
- Y gallu i ddadansoddi a dehongli llawer iawn o wybodaeth gymhleth a sensitif, llunio barn a nodi'r prif faterion polisi, a chyfrannu at argymhellion ymarferol.
- Y gallu i ymgysylltu'n effeithiol a chyda hygrededd ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys Gweinidogion, uwch-swyddogion y Llywodraeth ac uwch-gynrychiolwyr cyflogwyr ac undebau llafur, gan ennill eu parch a chadw eu hyder.
- Dealltwriaeth gadarn o gyfle cyfartal, gwerthoedd gwasanaethau cyhoeddus ac egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymiad iddynt, a'r gallu i weithredu'n ddiduedd a chynnal annibyniaeth y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.
Meini prawf dymunol
- Dealltwriaeth o gyd-destun polisi gwaith Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y datblygiadau diweddaraf yn y polisi addysg.
Yr iaith Gymraeg
- Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer swydd Cadeirydd y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Noder os gwelwch yn dda:
Yr amser Ymrwymiad ar gyfer y rôl hon yw 35 diwrnod y flwyddyn (Ym Mlwyddyn 1 (2019) bydd angen y rhan fwyaf o'r dyddiau hyn rhwng Mawrth a Mehefin).
Cysylltu:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:
Ryan Taylor
Ffôn: 03000251425
E-bost: Ryan.taylor@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.