Swydd Wag -- Penodi Aelodau i'r Bwrdd - Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol
Manylion y swydd
Rôl y corff
Bydd yr Academi Genedlaethol yn gyfrifol am oruchwylio strategol ac am gyfeirio'r hyfforddiant arweinyddiaeth er mwyn diwallu anghenion y system addysg yng Nghymru.
Un o'i nodweddion allweddol fydd ei rôl yn sicrhau tegwch o ran mynediad at gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth o safon uchel. Caiff hyn ei sicrhau drwy gefnogi ystod o ddarpariaethau ar gyfer holl lefelau arweinyddiaeth addysg a chomisiynu darpariaeth pan fydd bylchau.
Bydd yr Academi Genedlaethol hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno model sicrwydd ansawdd ar gyfer hyfforddiant arweinyddiaeth, datblygu arweinyddiaeth systemau ar draws maes addysg, cyfrannu at gynlluniau arweinyddiaeth y gweithlu strategol, a gweithredu fel dolen gyswllt a chanolbwynt ar gyfer meddwl am bolisïau, casglu tystiolaeth a lledaenu ymchwil o ran arweinyddiaeth addysgol.
Bydd yr Academi Genedlaethol yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant. Bydd hyn yn sicrhau ymdeimlad o berchnogaeth ar yr Academi yn y sector a bydd yn cynnwys grŵp a fydd yn cynrychioli'r rhanddeiliaid.
¨ Bydd swyddogaethau craidd yr Academi'n cynnwys:
¨ sicrhau cyflenwad da o raglenni a darpariaeth i feithrin sgiliau a gallu arweinwyr;
¨ comisiynu darpariaeth i lenwi bylchau a sicrhau mynediad eang at ddarpariaeth sy'n helpu i ddatblygu darpar arweinwyr ac arweinwyr presennol
gan gynnwys mentora a hyfforddi;
¨ sicrhau ansawdd y ddarpariaeth drwy broses gymeradwyo;
¨ comisiynu, defnyddio a rhannu ymchwil i sicrhau bod yr arfer gorau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn cael ei ledaenu;
¨ cynnig cymorth a chyngor ynghylch llwybrau ar gyfer gyrfeydd mewn arweinyddiaeth a
¨ bod ar gael ar-lein i greu cymuned o gydweithwyr ac i gynnig gwybodaeth a chyngor.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd disgwyl 'r Bwrdd herio, cefnogi, dod â phersbectif allanol a thynnu ar brofiad. Y nod yw cael Bwrdd sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o sgiliau perthnasol a phrofiadau bywyd fel y gall ffurfio barn ar faterion, gan ysgogi gwelliant parhaus o fewn y sefydliad er lles ei gwsmeriaid a chymdeithas yn ehangach.
Felly, rydym yn chwilio am Fwrdd sy'n seiliedig ar sgiliau ac mae rhestr o arbenigeddau penodol sydd eu hangen ar gael isod. Bydd angen i Aelodau'r Bwrdd ddarparu cefnogaeth ac arbenigedd i sefydliad newydd, gan roi cyfeiriad a phwrpas clir iddo. Bydd angen iddynt fod ag amgyffrediad da o rôl, cylch gwaith a chwmpas posibl yr Academi Genedlaethol a'i swyddogaeth bwysig yn y gwaith o ddiwygio addysg yng Nghymru.
Disgwylir y bydd holl aelodau'r bwrdd yn:
- Rhoi cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol, gan hyrwyddo perfformiad uchel a dwyn yr Academi Genedlaethol i gyfrif yng ngoleuni ei chynlluniau strategol a chorfforaethol.
- Sicrhau priodoldeb, rheoleidd-dra, darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yng ngwaith y corff ac y dilynir 7 egwyddor bywyd cyhoeddus (egwyddorion Nolan).
- Sicrhau, ynghyd ag aelodau eraill y Bwrdd, bod yr Academi Genedlaethol yn cyflawni ei nodau a'i hamcanion a'i chefnogi i wneud hynny.
- Gweithredu fel hyrwyddwr i’r sefydliad, a'i nodau a'i amcanion. Bod yn fodel i staff a rhanddeiliaid ei efelychu.
- Cydweithio i feithrin cydberthnasau â'r holl randdeiliaid ac i sicrhau bod llais y rhanddeiliaid i'w glywed yn glir yn systemau'r Academi Genedlaethol.
Rôl a Chyfrifoldebau
Bydd y rhain yn cynnwys:
- Cefnogi datblygiad yr Academi Genedlaethol yn y dyddiau cynnar, gan gynnwys cymryd rhan yn y gwaith o gymeradwyo hyfforddiant
- Craffu ar berfformiad a'i fonitro yn erbyn cynlluniau busnes strategol a chorfforaethol
- Darparu gwasanaeth craffu a llywodraethiant effeithiol yn unol ag arfer gorau
- Cynrychioli'r Academi Genedlaethol yn allanol a meithrin cysylltiadau gwaith clòs â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y grŵp cynrychiolwyr rhanddeiliaid.
Ceisio creu cysylltiadau â rhannau eraill o'r system addysg, gan sicrhau bod yr Academi Genedlaethol yn datblygu ar y cyd â diwygiadau addysgol
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd angen i bob ymgeisydd ddangos eu bod yn meddu ar y canlynol:
- Sgiliau dadansoddi ardderchog a gallu deallusol, ynghyd â'r gallu i wneud penderfyniadau ac i gyfrannu'n effeithiol at farn ynghylch materion strategol ac ymarferol;
- Sgiliau cyfathrebu gwych a'r gallu i gynrychioli Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yn gyhoeddus ac i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol;
- Y gallu i gynnig syniadau newydd i drafodaethau ac i sicrhau ar yr un pryd bod yr Academi Genedlaethol yn glynu at ei nodau a bod ganddi drefniadau llywodraethiant effeithiol;
- Ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth
Rydym yn chwilio'n arbennig am ymgeiswyr sydd â gwybodaeth a/neu brofiad yn un neu fwy o'r meysydd canlynol:
- Arbenigedd, profiad a chymwysterau ariannol
- Cefndir, profiad a chymwysterau cyfreithiol
- Arbenigedd mewn archwilio a/neu reoli risg
- Arbenigedd o ran y cyfryngau a chyfathrebu
- Profiad ymarferwr mewn unrhyw faes addysg perthnasol
- Gwybodaeth o TG a Thechnoleg a'i rôl mewn dysgu proffesiynol
- Arbenigedd mewn Adnoddau Dynol
- Y gallu i siarad Cymraeg
- Arbenigedd ar faterion cyfrwng Cymraeg
Os oes gennych arbenigedd yn un neu fwy o'r meysydd hyn, dangoswch hynny'n glir ar eich cais.
Y Gymraeg
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer o leiaf un Aelod Bwrdd ac yn ddymunol ar gyfer y gweddill.
Sgiliau a phrofiad - dymunol
- Dealltwriaeth o gyd-destun y sector cyhoeddus, ac ymrwymiad i egwyddorion bywyd cyhoeddus
- Dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac ymrwymiad i sicrhau eu bod, ynghyd â'i hiaith, yn cael eu hadlewyrchu o fewn systemau'r corff
Cymhwysedd
Nid ydych yn gymwys ar gyfer y swydd hon os ydych:
1) wedi’ch anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni
2) yn fethdalwr
Byddwn yn gwirio hyn gyda Thŷ'r Cwmnïau cyn cadarnhau unrhyw benodiadau er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys, a bydd yn ofynnol i chi gael eich fetio i lefel Cliriad Diogelwch.
Gwrthdaro o ran buddiannau
Gofynnir i chi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai wrthdaro, neu roi argraff o wrthdaro â rôl a chyfrifoldebau Aelod o Fwrdd Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a swyddi o awdurdod y tu allan i'r rôl yn yr Academi Genedlaethol.
Trafodir unrhyw wrthdaro buddiannau yn y cyfweliad. Os cewch eich penodi, bydd hefyd yn ofynnol i chi ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.
Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus
Bydd disgwyl i chi ddangos safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol. Gofynnir i bob ymgeisydd llwyddiannus danysgrifio i'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o Fyrddau Cyrff Cyhoeddus, ac mae'r ddogfen hon ar gael yma:
http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 03000 255454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.