Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd - Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol
Manylion y swydd
Rôl y corff
Bydd yr Academi Genedlaethol yn gyfrifol am oruchwylio strategol ac am gyfeirio'r hyfforddiant arweinyddiaeth er mwyn diwallu anghenion y system addysg yng Nghymru.
Un o'i nodweddion allweddol fydd ei rôl yn sicrhau tegwch o ran mynediad at gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth o safon uchel. Caiff hyn ei sicrhau drwy gefnogi ystod o ddarpariaethau ar gyfer holl lefelau arweinyddiaeth addysg a chomisiynu darpariaeth pan fydd bylchau.
Bydd yr Academi Genedlaethol hefyd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno model sicrwydd ansawdd ar gyfer hyfforddiant arweinyddiaeth, datblygu arweinyddiaeth systemau ar draws maes addysg, cyfrannu at gynlluniau arweinyddiaeth y gweithlu strategol, a gweithredu fel dolen gyswllt a chanolbwynt ar gyfer meddwl am bolisïau, casglu tystiolaeth a lledaenu ymchwil o ran arweinyddiaeth addysgol.
¨ Bydd yr Academi Genedlaethol yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant. Bydd hyn yn sicrhau ymdeimlad o berchnogaeth ar yr Academi yn y sector a bydd yn cynnwys grŵp a fydd yn cynrychioli'r rhanddeiliaid.
¨ Bydd swyddogaethau craidd yr Academi'n cynnwys:
¨ sicrhau cyflenwad da o raglenni a darpariaeth i feithrin sgiliau a gallu arweinwyr;
¨ comisiynu darpariaeth i lenwi bylchau a sicrhau mynediad eang at ddarpariaeth sy'n helpu i ddatblygu darpar arweinwyr ac arweinwyr presennol gan gynnwys mentora a hyfforddi;
¨ sicrhau ansawdd y ddarpariaeth drwy broses gymeradwyo;
¨ comisiynu, defnyddio a rhannu ymchwil i sicrhau bod yr arfer gorau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol yn cael ei ledaenu;
¨ cynnig cymorth a chyngor ynghylch llwybrau ar gyfer gyrfeydd mewn arweinyddiaeth a
¨ bod ar gael ar-lein i greu cymuned o gydweithwyr ac i gynnig gwybodaeth a chyngor.
Disgrifiad o'r swydd
Fel Cadeirydd ac aelod o'r bwrdd byddwch yn arwain y bwrdd o ran herio, cefnogi a chyfeirio strategaeth yr Academi Genedlaethol newydd yn adeiladol.
Mae hyn yn cynnwys:
- Darparu gweledigaeth ac arweiniad strategol
- Cadeirio cyfarfodydd a helpu i ddatblygu'r Bwrdd, gan sicrhau bod arbenigwyr yn cyfrannu pan fo'n briodol
- Sicrhau bod y Bwrdd yn gorff effeithiol o ran datblygu strategaeth a chynlluniau busnes corfforaethol y creffir yn ofalus arnynt ac a gaiff eu monitro
- Sicrhau bod trefniadau llywodraethu priodol yn cael eu sefydlu a'u gweithredu yn unol ag arfer gorau a gofynion corff cyhoeddus, yn unol â chyfraith cwmnïau
- Cydweithio â'r Prif Weithredwr i ddatblygu diwylliant a strategaeth y sefydliad
- Cefnogi rôl y Grŵp Cynrychiolwyr Rhanddeiliaid, i sicrhau bod gwaith y grŵp hwn yn cael ei fwydo'n effeithiol i waith Bwrdd yr Academi Genedlaethol, gan alluogi rhanddeiliaid i gael llais a dylanwad cryf.
- Goruchwylio gwaith y Prif Weithredwr, gan roi cymorth priodol fel bo'r angen, gan gynnwys rheoli ei berfformiad
- Cynrychioli'r corff yn allanol a meithrin cysylltiadau gwaith agos â rhanddeiliaid allweddol
- Bydd y Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod ef a'r Bwrdd, fel corff ac fel unigolion, yn dilyn saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan.
- Bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod yr Academi Genedlaethol yn hyrwyddo amrywiaeth
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.
Sgiliau a Phrofiad - hanfodol
- Gallu arweinyddol cryf, gan gynnwys arwain bwrdd a chefnogi, ysbrydoli ac ennyn brwdfrydedd staff a rhanddeiliaid, a defnyddio dull cynhwysol a chydweithredol o weithredu.
- Gallu eithriadol i gyfathrebu, gan gynnwys delio â'r cyfryngau a chynulleidfaoedd cyhoeddus ehangach, a meithrin cysylltiadau ar bob lefel. Mae angen sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gynnwys y gallu i negodi, darbwyllo a dylanwadu
- Record o reoli cydberthnasau cymhleth a heriol ar lefel uwch mewn amgylchedd o lawer o randdeiliaid, gan gynnwys yn y sector cyhoeddus.
- Y gallu i sicrhau bod trefniadau llywodraethiant y sefydliad yn effeithiol ac yr ymdrinnir yn ddoeth ac yn drefnus â thrafodion ariannol y sefydliad, y cânt eu harchwilio yn yr un modd a'u bod ar gael i'r cyhoedd, gan ddangos ymrwymiad i fod yn dryloyw ac yn agored
- Diddordeb amlwg mewn addysg a dealltwriaeth ohoni
Sgiliau a Phrofiad - dymunol
- Dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac ymrwymiad i sicrhau eu bod, ynghyd â'i hiaith, yn cael eu hadlewyrchu o fewn systemau'r corff
- Mae sgiliau cyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol
Cymhwysedd
Nid ydych yn gymwys ar gyfer y swydd hon os ydych:
1) wedi’ch anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni
2) yn fethdalwr
Byddwn yn gwirio hyn gyda Thŷ'r Cwmnïau cyn cadarnhau unrhyw benodiadau er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys, a bydd yn ofynnol i chi gael eich fetio i lefel Cliriad Diogelwch.
Gwrthdaro o ran buddiannau
Gofynnir i chi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai wrthdaro, neu roi argraff o wrthdaro â rôl a chyfrifoldebau Cadeirydd Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a swyddi o awdurdod y tu allan i'r rôl yn yr Academi Genedlaethol.
Trafodir unrhyw wrthdaro buddiannau yn y cyfweliad. Os cewch eich penodi, bydd hefyd yn ofynnol i chi ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.
Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus
Bydd disgwyl i chi ddangos safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol. Gofynnir i bob ymgeisydd llwyddiannus danysgrifio i'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau o Fyrddau Cyrff Cyhoeddus, ac mae'r ddogfen hon ar gael yma:
http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 03000 255454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.