Swydd Wag -- Dirprwy Gadeirydd - Pwyllgor Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon
Manylion y swydd
Dirprwy Gadeirydd - £300 y diwrnod.
Telir costau teithio a chynhaliaeth yn unol â chyfraddau safonol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu Addysg.
Rôl y corff
Cefndir
Sefydlwyd Cyngor y Gweithlu Addysg gan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014. O dan y Ddeddf, prif amcanion y Cyngor yw:
• cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd dysgu yng Nghymru;
• cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon a'r personau sy'n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru;
• diogelu lles dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Mae Cyngor y Gweithlu Addysg yn annibynnol ar y llywodraeth.
Cafodd pwerau'r Cyngor eu hymestyn ym mis Chwefror 2017 er mwyn caniatáu iddo:
• achredu cyrsiau neu raglenni addysg gychwynnol athrawon;
• monitro cydymffurfiaeth cyrsiau neu raglenni addysg gychwynnol athrawon achrededig â meini prawf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru;
• tynnu'n ôl achrediad ar gyfer cyrsiau neu raglenni addysg gychwynnol athrawon;
• codi ffioedd ar gyfer darparu'r gwasanaeth.
Wrth arfer y dyletswyddau statudol ychwanegol hyn, mae'n ofynnol i'r Cyngor sefydlu'r Bwrdd. Roedd hyn yn argymhelliad penodol yn adroddiad yr Athro John Furlong i Lywodraeth Cymru, sef Addysgu Athrawon Yfory: Opsiynau ynglŷn â dyfodol addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015. Roedd yr adroddiad hwn yn amlinellu nifer o argymhellion er mwyn gwella ansawdd Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru. Ar hyn o bryd, darparwyr yn hytrach na rhaglenni sy'n cael eu hachredu yng Nghymru.
Rôl y Bwrdd
Rhaid i bartneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon sy'n dymuno cynnig rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon o fis Medi 2019 sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig yng Nghymru, sicrhau'n gyntaf bod y rhaglen wedi'i hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg, drwy'r Bwrdd. Rhagwelir y bydd y Bwrdd newydd yn asesu tua 25 rhaglen rhwng 1 Ionawr a 30 Mehefin 2018 a nifer fach o apeliadau wedi hynny. Dyfernir yr achrediad am gyfnod o hyd at 5 mlynedd. Yn dilyn y penderfyniad cychwynnol, bydd angen "cynnal" y rhaglen nes bod y paratoadau'n dechrau ar gyfer ei hailachredu yn 2022.
Bydd y Bwrdd yn cynnwys y Cadeirydd, 2 ddirprwy a hyd at 10 aelod arall. Bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir yn cael eu hystyried gan is-set o aelodau sy'n deillio o'r Bwrdd. I sicrhau cysondeb, bydd yr is-set hon bob amser yn cynnwys y Cadeirydd neu 1 dirprwy. Y cworwm ar gyfer asesiad yn Rheoliadau Llywodraeth Cymru yw 3 aelod.
Disgrifiad o'r swydd
• Darparu arweiniad strategol i'r Bwrdd, gan gydweithio â'r Bwrdd a Phrif Weithredwr a Chadeirydd Cyngor y Gweithlu Addysg.
• Helpu swyddogion Cyngor y Gweithlu Addysg i benodi a hyfforddi aelodau'r Bwrdd.
• Arwain y broses o asesu ceisiadau ac apeliadau'n ymwneud â rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon, gan gynnwys adolygu dogfennau, ymweld â safleoedd, mynychu cyfarfodydd y Bwrdd ac ysgrifennu adroddiadau.
• Cysylltu â rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon, swyddogion Cyngor y Gweithlu Addysg, swyddogion Llywodraeth Cymru ac Estyn.
• Helpu i fonitro cydymffurfiaeth rhaglenni â meini prawf cyhoeddedig.
• Cyfrannu at benderfyniadau ynghylch dyrannu "nifer yr hyfforddeion a ariennir" i raglenni, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a swyddogion Cyngor y Gweithlu Addysg.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Profiad a gwybodaeth
• Profiad helaeth ar lefel uwch yn un neu fwy o'r meysydd canlynol: addysg gychwynnol athrawon, ysgolion, arolygu ysgolion, addysg uwch, sicrhau ansawdd, rheoleiddio proffesiynol.
• Profiad helaeth fel Cadeirydd / Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor neu Fwrdd.
Doniau a sgiliau
• Y gallu i weithredu fel Cadeirydd ac aelod effeithiol o Bwyllgor neu Fwrdd, a'r gallu i ennyn parch eraill.
• Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar
• Sgiliau rhagorol o ran datrys problemau
• Y gallu i weithio i amserlenni tynn.
Priodoleddau personol
• Sgiliau rhyngbersonol cryf
• Gwrthrychedd a diplomyddiaeth
• Ymrwymiad i ragoriaeth ac ansawdd
Cyfle cyfartal
• Dealltwriaeth o'r fframweithiau rheoleiddio yng Nghymru, gan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Safonau'r Gymraeg.
Meini prawf hanfodol
• Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar brofiad helaeth ar lefel uwch yn un neu fwy o'r meysydd canlynol: addysg gychwynnol athrawon, ysgolion, arolygu ysgolion, addysg uwch, sicrhau ansawdd, rheoleiddio proffesiynol.
• Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos dealltwriaeth o'r system addysg a'r broses ddiwygio yng Nghymru - yr heriau a wynebir a'r cyfleoedd sydd ar gael, a sicrhau bod Addysg Gychwynnol Athrawon yn rhan allweddol o'r diwygiadau ehangach.
• Rhaid iddo hefyd ddangos dealltwriaeth o'r fframweithiau rheoleiddio yng Nghymru, gan gynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Safonau'r Gymraeg.
• Gwrthrychedd a diplomyddiaeth
• Ymrwymiad i ragoriaeth ac ansawdd
• Y gallu i weithio i amserlenni tynn.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Estynnwyd y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon i Ddydd Llun 24 Ebrill 2017.
Dylech nodi ein bod yn penodi i'r Bwrdd ar sail ceisiadau ysgrifenedig yn unig. Ni chynhelir cyfweliadau.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 029 2082 5454
E-bost: DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Bwrdd a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â Gemma Nye yn Uned Strategaeth y Gweithlu:
Ffôn: 02920 801331
E-bost: ITEducationAddysgGA@cymru.gsi.gov.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu anfonwch e-bost at DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.