Swydd Wag -- Aelod - Cymwysterau Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Ers mis Medi 2015, Cymwysterau Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am reoleiddio cyrff dyfarnu a sicrhau ansawdd cymwysterau nad ydynt yn raddau a gynigir yng Nghymru. Mae Cymwysterau Cymru, fel corff statudol annibynnol, mewn sefyllfa dda i sicrhau bod y cymwysterau a gynigir yng Nghymru yn cyflawni anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r economi.
Cymwysterau Cymru yw'r prif awdurdod ar gymwysterau yng Nghymru, ac mae'n rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion Cymru ar faterion perthnasol yn ogystal â gwybodaeth, cyngor a chymorth i amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae'n cyfathrebu ynghylch gwerth ein cymwysterau i randdeiliaid yng Nghymru a thu hwnt.
Mae Cymwysterau Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'n cymryd penderfyniadau proffesiynol ac annibynnol ar gymwysterau. Mae'n arwain ar agweddau ar ddatblygu polisi cymwysterau. Mae'n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran sut mae wedi cyflawni ei swyddogaethau, a sut mae'n bwriadu eu cyflawni.
Llywodraethu
Mae'n Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac felly mae'n atebol am sut y mae'n llywodraethu arian cyhoeddus. Fodd bynnag, mae Cymwysterau Cymru'n annibynnol o ran ei swyddogaethau mewn perthynas â chymwysterau, ac mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny, mae'n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gan Fwrdd Cymwysterau Cymru Gadeirydd annibynnol a rhwng 8 a 10 o aelodau anweithredol.
Mae'r broses o benodi Cadeirydd ac aelodau anweithredol yn dilyn Cod Ymarfer y Comisiynydd ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus.
Rôl y Bwrdd
Rôl y Bwrdd yw darparu llywodraethiant cadarn ac arweinyddiaeth gref, datblygu cynllun strategol ar gyfer Cymwysterau Cymru a gosod amcanion heriol. Mae'r bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'n sicrhau bod gweithgareddau Cymwysterau Cymru yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol, ac mae'n monitro perfformiad i sicrhau bod y corff yn cyflawni'n llawn ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad.
Mae gan y Bwrdd drefniadau llywodraethu trosfwaol ac mae'n dirprwyo ei swyddogaethau i swyddogion drwy gynllun dirprwyo sy'n cwmpasu materion ariannol ac anariannol.
Disgrifiad o'r swydd
Rôl a Chyfrifoldebau Aelodau'r Bwrdd
1. Rhoi cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol, gan hyrwyddo perfformiad da a dal y Corff i gyfrif yn erbyn ei gynlluniau strategol a chorfforaethol.
2. Sicrhau priodoldeb, rheoleidd-dra, darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yng ngwaith y corff a sicrhau y dilynir 7 egwyddor bywyd cyhoeddus (hynny yw, egwyddorion Nolan).
3. Ynghyd ag aelodau eraill y Bwrdd, sicrhau bod y corff yn cyflawni ei nodau a'i amcanion statudol.
4. Gweithredu fel hyrwyddwr y sefydliad, a'i nodau a'i amcanion. Bod yn fodel rôl ar gyfer staff a rhanddeiliaid.
5. Cydweithio i feithrin perthynas â phob unigolyn a grŵp perthnasol, gan gynnwys adrannau allweddol o fewn Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr Adran Addysg a Sgiliau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd yr aelodau yn helpu'r Cadeirydd i gyflawni cyfrifoldebau'r Bwrdd o ran: -
• pennu cyfeiriad strategol a pholisïau'r corff;
• sicrhau bod y Corff yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol;
• sicrhau bod y Corff yn cael ei reoli'n briodol ac yn effeithiol, er mwyn gweithredu mewn ffordd briodol, ddarbodus, effeithlon ac effeithiol; a
• sicrhau y caiff yr arian cyhoeddus a roddwyd i'r sefydliad ei wario'n ddoeth.
Bydd yr aelodau hefyd yn helpu'r Cadeirydd i gynrychioli'r Bwrdd. Disgwylir i'r aelodau:
• greu Bwrdd effeithiol, drwy annog aelodau'r Bwrdd i
gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ar y cyd, a chadeirio, neu gymryd rhan yn ôl y gofyn, mewn un neu ragor o bwyllgorau'r Bwrdd;
• sicrhau bod y corff cyfan yn ysgwyddo cyfrifoldeb am benderfyniadau'r Bwrdd;
• hyrwyddo cysylltiadau effeithiol a chyfathrebu agored, rhwng aelodau'r Bwrdd, y tîm gweithredol a staff o fewn y corff; a
• gweithio gyda'r holl bartïon a'r sefydliadau eraill sydd â buddiant yng ngwaith y corff a'u cynrychioli'n llawn mewn modd gonest a chadarnhaol.
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.
Meini Prawf Hanfodol
Mae Cymwysterau Cymru'n dymuno penodi 2 aelod newydd gydag arbenigedd yn y meysydd canlynol:
Rheoleiddio -yn ddelfrydol, ym maes diwydiant yn hytrach nag addysg (ar gyfer y ddwy swydd);
Datblygiad Strategol y Cwricwlwm (ar gyfer 1 swydd);
Technoleg ddigidol a diogelwch corfforaethol – yn enwedig, sut y gellir defnyddio’r rhain mewn cyd-destun addysgol (ar gyfer 1 swydd).
Hefyd, rhaid ichi allu arddangos (ar gyfer y ddwy swydd) y canlynol:
• y gallu i gynrychioli Cymwysterau Cymru yn gyhoeddus, a chyfathrebu’n effeithiol ar lefel uwch a chyda rhanddeiliaid allweddol;
• y gallu i gyfrannu syniadau ffres i drafodaethau ar faterion strategol ac ymarferol y tu hwnt i’ch maes arbenigedd penodol;
• dealltwriaeth dda o waith Cymwysterau Cymru a’i randdeiliaid;
• y gallu i oruchwylio, cyfarwyddo a/neu wneud penderfyniadau yn wyneb ansicrwydd gwleidyddol neu ariannol;
• dealltwriaeth eang o faterion addysg yng Nghymru. Dealltwriaeth sydd wedi’i gaffael mewn unrhyw faes, gan gynnwys ymwneud â’r gymuned, gwaith gwirfoddol neu gefndir proffesiynol.
• Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 029 2082 5454
E-bost: DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd Cymwysterau Cymru a rôl yr Aelodau, cysylltwch â:
Alison Rees yn Uned Noddi Cymwysterau Cymru:
Ffôn: 02920 825863
E-bost: Alison.Rees@wales.gsi.gov.uk
Helen Bushell, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol Cymwysterau Cymru:
Ffôn: 0333 077 2765
E-bost: Helen.Bushell@cymwysteraucymru.org
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i: DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.