Swydd Wag -- Cadeirydd - Chwaraeon Cymru

Manylion y swydd

Chwaraeon Cymru
Mae'r Bwrdd yn cynnal 6 chyfarfod y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru.

Telir cyflog o £35,184 y flwyddyn.

Cewch eich ad-dalu hefyd am yr holl gostau teithio a chynhaliaeth uniongyrchol a fydd yn codi yn sgil dyletswyddau'r penodiad.

2
wythnos

Rôl y corff

Mae'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn chwilio am Gadeirydd newydd ar gyfer Chwaraeon Cymru - tybed ai chi yw'r unigolyn yr ydym yn chwilio amdano? Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn sy'n caru chwaraeon ac sy'n ymwybodol o’r effaith bositif a hirdymor y gall gweithgarwch corfforol ei chael ar ein hiechyd a’n lles. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu datblygu tîm cryf a bydd ganddo sgiliau cyfathrebu, dylanwadu a negodi gwych.

Mae Chwaraeon Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy’n atebol i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Caiff ei ariannu’n bennaf drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid o'r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng  Nghymru. Mae Chwaraeon Cymru yn cydweithio â darparwyr eraill ac asiantiaid cyflenwi allweddol ym maes chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol, ac yn arbennig llywodraeth leol, cyrff llywodraethu cenedlaethol ym maes chwaraeon a'r sector gwirfoddol. Yn ogystal, mae'n gyfrifol am gydgysylltu a helpu i gyflawni ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol. http://gov.wales/about/programmeforgov/about?skip=1&lang=cy.

Mae blaenoriaethau gweithredol a thargedau perfformiad Chwaraeon Cymru yn seiliedig ar:  

- Lythyr Cylch Gwaith Blynyddol y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

- Polisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, yn benodol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Chwaraeon Cymru sianelu ei holl waith i gefnogi'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

- Y pedwar amcan a nodwyd pan sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru (a adwaenir bellach fel Chwaraeon Cymru) drwy Siarter Frenhinol ym 1972. 

Y pedwar amcan cyffredinol yw:

• Cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol;

• Codi safonau mewn perfformiad a rhagoriaeth; 

• Gwella'r ddarpariaeth o ran cyfleusterau chwaraeon;

• Darparu gwybodaeth a chyngor technegol ynghylch chwaraeon, hamdden a ffyrdd iach ac egnïol o fyw.

Mae Chwaraeon Cymru yn rhedeg dwy ganolfan genedlaethol, sef Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chanolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Plas Menai yn y Gogledd. 

Ar hyn o bryd, mae 9 aelod ar Fwrdd Chwaraeon Cymru gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd. Mae'r Bwrdd yn cynnal 6 chyfarfod y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru.

Disgrifiad o'r swydd

Byddwch yn atebol i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth am berfformiad Chwaraeon Cymru a'r hyn y mae'n ei gyflawni. Mae datblygu a chynnal perthynas agos gyda'r Dirprwy Weinidog ac aelodau allweddol o Lywodraeth Cymru yn rhan hollbwysig o rôl y Cadeirydd. 

Arweinyddiaeth

• Darparu arweinyddiaeth effeithiol ar gyfer Chwaraeon Cymru a’i Fwrdd, yn enwedig o ran diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol, cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol a chynrychioli barn y Bwrdd i’r cyhoedd yn gyffredinol.

• Cydweithio ag aelodau eraill i gyflawni swyddogaethau'r Bwrdd, sef:

o Gweithredu cynllun corfforaethol/busnes y Bwrdd mewn ymateb i Lythyr Cylch Gwaith blynyddol y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth;

o Sicrhau bod y trefniadau llywodraethu yn gadarn a bod gwaith Chwaraeon Cymru yn cael ei wneud mewn ffordd gywir a phriodol;

o Rhoi ar waith bolisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ym maes cyfle cyfartal ac amrywiaeth, drwy gydweithio â rhanddeiliaid allweddol i sicrhau dull integredig o  weithredu ym maes chwaraeon yng Nghymru;

o Sicrhau'r manteision mwyaf posibl yn sgil digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol a rhyngwladol proffil uchel (fel Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2014), drwy greu gwaddol chwaraeon cynaliadwy;

o Mynd i'r afael â'r anghenion o ran chwaraeon yn genedlaethol ac yn lleol, gan ysgwyddo cyfrifoldeb dros benderfynu sut y caiff adnoddau eu rhannu er mwyn cyflawni amcanion strategol Chwaraeon Cymru;

o Cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ar draws poblogaeth Cymru.

Y berthynas â'r Prif Weithredwr

• Sefydlu a meithrin perthynas waith gref, effeithiol a chefnogol gyda'r Prif Weithredwr, gan gynnig cymorth a chyngor ond gan barchu ei hawl ef i weithredu;

• Cynnal arfarniad blynyddol i sicrhau bod y Prif Weithredwr yn cael ei alw i gyfrif am gyflawni amcanion strategol penodol. Darparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu perthnasol.

Llywodraethu

• Sicrhau bod y trefniadau llywodraethu’n gweithio yn y ffordd fwyaf effeithiol. 

• Datblygu Bwrdd effeithiol, gan ysgogi newid a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn swyddi'r Bwrdd drwy'r broses a reoleiddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus;

• Ymgynghori'n flynyddol ag aelodau'r Bwrdd ar eu rolau ac asesu eu perfformiad;

• Cynllunio, llywyddu a hwyluso cyfarfodydd y Bwrdd a chyfarfodydd pwyllgor;

• Sicrhau ymrwymiad Chwaraeon Cymru i gyfle cyfartal ac amrywiaeth.

Cyfathrebu a chysylltiadau allanol

• Gweithredu fel llysgennad dros Chwaraeon Cymru;

• Hyrwyddo cysylltiadau effeithiol rhwng aelodau anweithredol, y tîm gweithredol a staff o fewn Chwaraeon Cymru;

• Datblygu, rheoli a chynnal perthynas dda â grwpiau perthnasol, yn genedlaethol ac yn lleol.  Ymhlith y grwpiau hyn mae:

o Llywodraeth Cymru

o cyrff sy'n llywodraethu ym maes chwaraeon

o cymdeithasau chwaraeon

o awdurdodau lleol

o cymunedau lleol

o y sector busnes

o y sector gwirfoddol

o cynrychiolwyr etholedig y gymuned

o y cyfryngau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Manyleb y person

Bydd angen ichi ddangos y meini prawf hanfodol canlynol:

• Ddealltwriaeth o fanteision cymryd rhan mewn chwaraeon, ar lefel elitaidd ac yn y gymuned, a diddordeb brwd yn eu rhannu ar draws Cymru;

• Dealltwriaeth o sut y gall chwaraeon wella iechyd a lles pobl a chymunedau ar draws Cymru;

• Awydd i annog a chefnogi pob partner i adeiladu ar lwyddiant diweddar Cymru yn y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd a Gemau’r Gymanwlad, lle enillodd ei nifer fwyaf o fedalau erioed, er mwyn sicrhau mwy o lwyddiant yn y dyfodol.

• Gwybodaeth dda o’r byd chwaraeon ar draws y DU.

• Dealltwriaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a sut y gall Chwaraeon Cymru gyfrannu at ei hamcanion

• Sgiliau cyfathrebu cryf a’r gallu i greu cysylltiadau gwaith strategol gyda  phob rhanddeiliad  gan gynnwys Gweinidogion a’r Llywodraeth, Aelodau Bwrdd, a’r wasg a’r cyfryngau

• Y gallu i ymateb yn greadigol ac yn strategol i sefyllfaoedd gwleidyddol a gweithredol sy’n newid. Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n meddu ar brofiad mewn maes cysylltiedig, megis iechyd, datblygu cymunedol neu addysg. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dymunol

• Sgiliau Cymraeg. Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg yn ddymunol. Mae disgwyl i bob ymgeisydd ddangos ymwybyddiaeth o broffil ieithyddol Cymru a chefnogi cydymffurfiaeth â Safonau arfaethedig y Gymraeg. 

Dyddiadau cyfweliadau

11 Mawrth 2016
11 Mawrth 2016

Dyddiad cau

18/02/16 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.