Swydd Wag -- Comisiynwr - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Manylion y Swydd
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae ei swyddogaethau a'i gyfrifoldebau wedi’u hegluro mewn Gwarant Frenhinol yn dyddio o 2000. Amlinellir ein trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd mewn Dogfen Fframwaith. Mae blaenoriaethau gweithredol a thargedau perfformiad y Comisiwn Brenhinol yn seiliedig ar lythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, ac maent yn ymateb iddo. Mae'r llythyr hwn yn amlinellu ei flaenoriaethau strategol, polisïau a chynlluniau gweithredu penodol ynghyd â pholisïau a gweithdrefnau ehangach Llywodraeth Cymru. Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, sy'n gweithredu fel yr is-adran sy'n noddi'r Comisiwn.
Mae hanes hir gan y Comisiwn Brenhinol yng Nghymru. Cawsom ein sefydlu ym 1908 drwy rinwedd Gwarant Frenhinol, a ddiwygiwyd yn 2000. Mae'r Warant yn cyfarwyddo'r Comisiwn i 'arolygu a chofnodi henebion ac adeiladweithiau sydd yn gysylltiedig â diwylliant cyfoes, gwareiddiad ac amodau pobl Cymru o'r cyfnod cynharaf (gan gynnwys yr henebion a'r adeiladweithiau yng ngwely'r môr, arno neu oddi tano o fewn moroedd tiriogaethol y Deyrnas Unedig ger Cymru) neu sydd yn eu hegluro trwy gywain, cynnal a churadu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru fel y cofnod cenedlaethol sylfaenol o'r amgylchedd archeolegol a hanesyddol'.
Gan adeiladu ar lwyddiannau diweddar, mae'r Comisiwn yn awr am dyfu a datblygu at y dyfodol. Rydym yn dymuno penodi dau aelod newydd.
Mae Bwrdd y Comisiynwyr yn darparu arweiniad a llywodraethiant i'r sefydliad, ac yn craffu ar bob un o weithgareddau'r Comisiwn yn ogystal â herio’r gweithgareddau hynny mewn modd adeiladol. Mae'r Bwrdd hefyd yn siapio dyfodol y sefydliad. Mae'r Comisiwn yn awyddus i benodi unigolion sydd wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl er budd holl bobl Cymru. Fel Comisiynydd, byddwch yn:
• Adolygu Datganiad Strategol a Chynllun Gweithredol y sefydliad, gan ystyried hynt y gwaith, cyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru yn y Llythyr Cylch Gwaith a'r mentrau sy'n deillio o'r sefydliad ei hun
• Sicrhau bod y dull o lywodraethu'r sefydliad yn cydymffurfio â gofynion y Datganiad Rheoli a'r Memorandwm Ariannol, a bod cwmpas gweithgareddau'r sefydliad yn syrthio oddi mewn i delerau'r Warant Frenhinol
• Sicrhau bod perfformiad y sefydliad, fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei gyflawni a bod adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n flynyddol ar weithgareddau'r sefydliad
• Cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i staff arbenigol y sefydliad, a monitro eu gwaith, mewn pwyllgorau neu'n unigol • Ymwneud yn uniongyrchol â chyhoeddiadau arbenigol y sefydliad, a chymryd cyfrifoldeb amdanynt
• Cynrychioli'r Comisiwn Brenhinol a'i fuddiannau yn ôl y galw
Disgwylir i Gomisiynwyr hefyd:
• Feddu ar ddealltwriaeth o'r amgylchedd hanesyddol a'i arwyddocâd
• Meddu ar weledigaeth eglur o sut y gall y Comisiwn barhau i weithio gyda phartneriaid allweddol i ddarparu'r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl i Gymru
• Gweithio fel rhan o Fwrdd y Comisiynwyr sy'n perfformio ar lefel uchel: sy'n ymgymryd â rheoli perfformiad cadarn; sy'n arddangos ymddygiadau a gwerthoedd craidd y tîm; sy'n herio ac yn cefnogi ei gilydd mewn modd adeiladol; ac sy'n mesur yn barhaus lwyddiannau'r tîm yn erbyn nodau'r Comisiwn
• Gweithredu mewn modd sy'n hyrwyddo safonau uchel o safbwynt priodoldeb ac ymdrin ag arian cyhoeddus
Mae'r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i gadarnhau ein bwrdd ac amrywio ei aelodaeth, felly rydym yn chwilio am ddau Gomisiynydd newydd sydd ag arbenigedd a phrofiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
• Profiad o ddulliau masnachol o weithio, marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, a hanes llwyddiannus o godi arian
• Arbenigedd mewn rheoli archifau
• Arbenigedd mewn gweithio gyda chymunedau, yn arbennig grwpiau anodd eu cyrraedd, ar lefel strategol, ac ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth
• Darparu trosolwg a her adeiladol i sefydliadau â nodau elusennol
• Gwybodaeth am ofynion rôl lywodraethu ar lefel uchel, a hanes llwyddiannus o ymgymryd â rôl o’r fath.
Bydd angen i unigolion hefyd arddangos un neu ragor o'r canlynol:
• Sgiliau deallusol a dadansoddol ar lefel uchel
• Sgiliau cyfathrebu sicr
• Y gallu i weithio'n dda fel rhan o dîm sy’n gweithio ar wasgar
• Hanes llwyddiannus o gyfrannu at gyfarwyddyd a pherfformiad sefydliad, a chymryd cyfrifoldeb am hynny
• Y gallu i lywio, monitro, a chraffu a herio'n drwyadl waith staff arbenigol, yn unigol ac mewn pwyllgorau
• Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, ac yn herio arferion gwahaniaethol
• Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan ac yn ymrwymedig iddynt
• Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol. Fodd bynnag, bydd angen i bob ymgeisydd fedru dangos ei fod yn ymwybodol o broffil ieithyddol Cymru a helpu’r corff i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
Gall y Comisiynwyr hawlio cyfradd ddyddiol o £198 ar gyfer diwrnodau a fynychwyd. Gellir hawlio costau teithio ac unrhyw gostau rhesymol eraill a ysgwyddir wrth wneud gwaith ar ran y Comisiwn, o fewn y terfynau cydnabyddedig.
Gallech hefyd fod yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau yn gysylltiedig â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol, tra byddwch yn gweithio ar ran y Comisiwn Brenhinol.
Yr Iaith Gymraeg
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad Cau
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.