Swydd Wag -- Ymddiriedolwyr - Amgueddfa Cymru
Manylion y Swydd
Sefydlwyd Amgueddfa Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1907 a rhoddwyd Siarter atodol iddi yn 2006 (www.museumwales.ac.uk/cy/35/). Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, caiff ei gyllid craidd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Amgueddfa'n Elusen Gofrestredig hefyd, sy'n ddarostyngedig i Gyfraith Elusennau.
Mae Amgueddfa Cymru (yr Amgueddfa) yn cynnwys:
• Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd;
• Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru;
• Amgueddfa Lechi Cymru, yn Llanberis;
• Amgueddfa Wlân Cymru, yn Dre-fach, Felindre;
• Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, ym Mlaenafon;
• Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, yng Nghaerllion;
• Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn Abertawe;
• Y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol, yn Nantgarw.
Yn ogystal, mae'r Amgueddfa'n cyflwyno ei gwaith ymchwil clodfawr drwy ei gwefan a'i thudalennau gwe cysylltiedig, ‘Rhagor’. Mae'r Amgueddfa hefyd yn bartner pwysig ym mhrosiect ‘Casgliad y Werin Cymru’ (http://www.casgliadywerin.cymru/))
Mae'r Amgueddfa'n cyflogi rhyw 550 o staff ar draws ei safleoedd ac yn gwario cyllideb flynyddol o ryw £25 miliwn.
Fel y nodir yn Siarter 1907, prif bwrpas yr Amgueddfa yw addysgu'r cyhoedd. Gwna hynny drwy ofalu am gasgliadau'r Amgueddfa, cyfoethogi'r casgliadau hynny, a rhoi mynediad atynt i'r cyhoedd. Mae'r casgliadau'n ymdrin ag agweddau ar Wyddorau'r Ddaear a Natur, Celfyddyd Gain a Chymhwysol, Archaeoleg a Hanes Diwydiannol a Chymdeithasol Cymru.
Yn 2007, dathlodd yr Amgueddfa ei chanmlwyddiant. Ei gweledigaeth yw bod yn sefydliad sy'n ysbrydoli pobl ac yn newid bywydau. Bydd gwaith yr amgueddfa dros y 10-15 mlynedd nesaf yn cael ei dywys gan y weledigaeth hon. At y dyfodol, mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer datblygu'r Amgueddfa a sut y caiff y casgliadau eu harddangos.
Ar hyn o bryd, mae'r Amgueddfa'n bwrw ymlaen â'r gwaith cyffrous o ailddatblygu Amgueddfa Werin Sain Ffagan - buddsoddiad mawr o £25.5 miliwn a fydd yn sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol i Gymru gyfan.
Mae'r Amgueddfa yn bartner allweddol yn rhaglen 'Cyfuno', sydd â'r nod o gynyddu'r cyfraniad y mae diwylliant yn ei wneud i’r gwaith o helpu pobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae gan yr Amgueddfa gynlluniau partneriaeth pwysig gydag amgueddfeydd ac orielau lleol ledled Cymru - mae datblygu arddangosfeydd gan ddefnyddio casgliadau cenedlaethol yr Amgueddfa yn rhan o’r gwaith partneriaeth hwn.
Dyhead pwysig arall sydd gan yr Amgueddfa yw prif ffrydio'r Gymraeg a'i gwneud yn rhan annatod o'i holl weithgareddau.
Mae gofyn i Ymddiriedolwyr gyflawni dyletswyddau Ymddiriedolwyr elusen. Mae'r Comisiwn Elusennau yn diffinio'r rhain ar ei wefan: http://www.charity-commission.gov.uk/publications/cc3.asp.
Mae gofyn i Ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol hefyd o’r rhwymedigaethau sydd arnynt yn sgil y ffaith bod yr Amgueddfa yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Caiff y rhain eu nodi yn y Ddogfen Fframwaith, sy'n nodi'r Telerau ac Amodau sy'n gysylltiedig â'r cyllid y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei roi i'r Amgueddfa.
Y pwyntiau allweddol i'w nodi yw bod rhaid i Ymddiriedolwyr:
• fynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar eu cyfer;
• bod yn barod i fod yn aelod o is-bwyllgorau;
• cefnogi staff a rheolwyr yr Amgueddfa yn eu gwaith;
• cynrychioli'r Amgueddfa mewn digwyddiadau cyhoeddus;
• hyrwyddo'r Amgueddfa; • defnyddio'u profiad a'u harbenigedd er budd yr Amgueddfa;
• hwyluso cyswllt gyda rhanddeiliaid yr Amgueddfa; a
• chyfrannu at y gwaith o lunio polisïau a strategaethau a phennu blaenoriaethau i fodloni amcanion cyffredinol yr Amgueddfa.
I fod yn effeithiol, mae ar y Bwrdd angen Ymddiriedolwyr amrywiol eu harbenigedd a'u profiad. Fel Ymddiriedolwr, byddwch yn helpu i benderfynu ar bolisïau, strategaethau a blaenoriaethau o ran gweithgareddau craidd yr Amgueddfa. Dylech fedru defnyddio eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad i ddarparu tystiolaeth o’ch gallu mewn amrywiaeth o'r meysydd canlynol:
• ymrwymiad i waith yr Amgueddfa, a brwdfrydedd amdano, gan gynnwys gwerthfawrogiad o'r pynciau y mae casgliadau'r Amgueddfa'n ymdrin â nhw;
• dealltwriaeth o'r sector diwylliannol yn gyffredinol, a diddordeb ynddo, a'r sensitifrwydd i ddirnad barn y cyhoedd am faterion diwylliannol;
• cyfrannu’n effeithiol at drafodaethau a’r broses o wneud penderfyniadau;
• cydweithio’n agos â’ch cyd-ymddiriedolwyr;
• profiad o reoli mewn cyd-destun busnes, sefydliadol neu weinyddol, neu gyd-destun arall, gan werthfawrogi’r gwahaniaeth rhwng y swyddogaethau gweithredol ac anweithredol;
• dealltwriaeth o'r berthynas rhwng yr Amgueddfa a Llywodraeth Cymru;
• ymrwymiad i faterion cydraddoldeb ac i herio arferion sy’n gwahaniaethu lle bo hynny'n briodol;
• ymrwymiad i ‘saith egwyddor bywyd cyhoeddus’ Nolan (https://www.gov.uk/government/publications/the-7-principles-of-public-life), ac
• arbenigedd mewn un neu ragor o’r meysydd a ganlyn:
• dysgu a chyfranogi;
• cyfryngau digidol;
• y Gyfraith;
• addysg uwch;
• busnes;
• yr amgylchedd adeiledig;
• gwyddoniaeth;
• gwahanol gymunedau Cymru, yn enwedig y Gogledd;
• cynhyrchu incwm;
• agendâu cymdeithasol, llywodraeth a'r trydydd sector;
• iechyd a lles.
Yr Iaith Gymraeg
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad Cau
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.