Swydd Wag -- Prif Geidwad, Castell Harlech, CADW

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cadw
Band Rheoli 3 - £22,400 - £25,750
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Castell Harlech
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Ynghyd â’n cyfrifoldeb statudol i ddiogelu, cadw a hyrwyddo henebion sydd yn ein gofal, mae Cadw wedi ymrwymo i ddefnyddio pob dull ymarferol i wneud ein safleoedd treftadaeth yn bleserus, yn berthnasol ac yn lleoedd cyffrous i ymweld â nhw.

Mae’r rôl hon yn ganolog i gyflawni’r ymrwymiad hwn gan y bydd deilydd y swydd yn cymryd yr awenau wrth reoli Castell Harlech a’r tîm presennol o chwech o geidwaid, gan groesawu ac ymgysylltu ag ymwelwyr i sicrhau bod eu hymweliad yn bleserus, yn llawn gwybodaeth ac yn ddiogel.

Mae Castell Harlech wedi gweld cyfnod o newid: ym mis Gorffennaf 2015 y gobaith yw agor canolfan ymwelwyr newydd gyffrous, ynghyd â chyfleusterau arlwyo, fflatiau gwyliau o safon uchel a chyfleuster dehongli arloesol. Mae’r datblygiad hwn yn rhoi cyfle i gynyddu nifer yr ymwelwyr a gwella mwynhad ymwelwyr yn aruthrol. Bydd gan y Prif Geidwad gyfraniad allweddol i’w wneud wrth gyfathrebu ag ymwelwyr, y gymuned leol a rhanddeiliaid yn ogystal â staff Prif Swyddfa Cadw a chontractwyr er mwyn sicrhau llwyddiannus y safle hwn sy’n Safle Treftadaeth y Byd.

Prif dasgau

Rheoli ymwelwyr

  • Croesawu’r cyhoedd a cheisio eu helpu i fwynhau eu hymweliad, yn ogystal â chynnal y safonau uchel o ofal cwsmer a’r modd y cyflwynir y safle
  • Darparu gwybodaeth am gefndir hanesyddol yr heneb, yr ardal leol a Cadw yn gyffredinol.
  • Rheoli diogelwch yr heneb a’i hymwelwyr, cyfathrebu â chontractwyr, ymwelwyr a rhanddeiliaid lleol i sicrhau bod unrhyw broblemau sy’n codi yn cael eu trin yn effeithiol.

Rheoli pobl

  • Rheoli perfformiad a datblygu tîm o staff gwarchodol yn unol â gweithdrefnau Llywodraeth Cymru, gwella perfformiad a sicrhau bod pob hyfforddiant gorfodol a phenodol i swydd yn cael ei gynnal fel y bo’n briodol.
  • Trefnu’r rota staffio ar gyfer yr heneb i sicrhau’r effeithlonrwydd mwyaf gan ystyried gwerth am arian.
  • Gweithio’n agos â’r contractwr arlwyo a’r contractwr llety gwyliau a benodwyd.

Datblygu proffil yr heneb

  • Cynorthwyo i drefnu a darparu rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau amrywiol gan gynnwys digwyddiadau a arweinir gan geidwad, gweithgareddau dysgu a digwyddiadau a arweinir gan y celfyddydau, gan weithio’n agos â thimau’r brif swyddfa i sicrhau y cynhelir y digwyddiadau’n effeithiol ar y safle.
  • Gweithio gydag adran farchnata Cadw a mynd ati i gynnal ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus a marchnata yn unol â’r pecyn marchnata, gan gynnwys rheoli a hyrwyddo’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a llunio datganiadau i’r wasg ar gyfer y safle.
  • Creu cysylltiadau gyda chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf a grwpiau lleol eraill i gynyddu ymgysylltiad lleol gyda’r heneb, gan weithio gyda nhw i ddatblygu gweithgareddau sy’n apelio at gynulleidfaoedd newydd a rhoi’r heneb wrth galon y gymuned.
  • Datblygu rhwydwaith o gysylltiadau lleol â busnesau, partneriaid twristiaeth a chynrychioli Cadw mewn fforymau twristiaeth lleol.

 Cynhyrchu incwm a rheolaeth ariannol

  • Cynhyrchu incwm trwy werthu tocynnau mynediad, detholiad o gyhoeddiadau a chofroddion a cheisio cael cymaint o incwm ag y bo modd o’r gwerthiannau hyn.
  • Rheoli stoc, gan gynnwys lefelau stoc, archebu, cyfrif a chadw mewn cysylltiad agos â thîm gwerthu Cadw.
  • Cadw cofnodion a chyfrifon ac ymgymryd â gweithdrefnau ariannol yn unol â rheoliadau arian parod a chadw cyfrifon Llywodraeth Cymru.
  • Cwblhau ffurflenni heneb misol yn unol â chanllawiau ariannol Llywodraeth Cymru.
  • Gweithredu canllawiau archwilio neu lywodraethu ym mhob maes o’r gwaith.
  • Sicrhau defnydd cywir o EPoS / tiliau electronig, terfynellau Psion a therfynellau PDQ (taliadau EFTpos).

D.S. Yn ogystal â’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a restrir, bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gyflawni dyletswyddau eraill o bryd i’w gilydd yn unol â chyfarwyddyd y rheolwr llinell.

 

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau a phrofiad mewn rheoli atyniad treftadaeth o bwys i ymwelwyr gan gynnwys rheoli digwyddiadau, ymgysylltu â’r gymuned, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn ogystal â datblygu sgiliau rheoli ac arwain pobl. Bydd gan ddeilydd y swydd gyfraniad allweddol i’w wneud wrth gyflawni nod Cadw o wneud yr amgylchedd hanesyddol yn hygyrch a phleserus. Darperir hyfforddiant penodol i’r swydd fel y bo’n briodol. Mae Cadw wedi ymrwymo i ddatblygu staff a bydd deilydd y swydd yn cael ei annog a’i gefnogi i ddatblygu sgiliau proffesiynol, technegol ac arweinyddiaeth perthnasol.

Dyddiad Cau

09/07/15 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

1. Y Clwstwr Strategol – Gosod y Trywydd - Gweld y Darlun Cyflawn

Meithrin dealltwriaeth o’r modd y mae eu gwaith eu hunain a'u timau yn helpu i fodloni blaenoriaethau’r adran a chyflawni ar ran y cyhoedd

 2. Y Clwstwr Pobl - Ymwneud â Phobl - Arwain a Chyfathrebu

Bod yn frwd o blaid nodau a gweithgareddau – gan fabwysiadu agwedd gadarnhaol wrth ymwneud ag eraill

3. Y Clwstwr Perfformiad -Gwireddu Canlyniadau - Sicrhau Gwerth am Arian

Sicrhau y glynir at weithdrefnau ac arferion rheoli cydnabyddedig

4. Rheoli Gwasanaeth Safonol - Rheoli Gwasanaeth Safonol

Gweithio gyda'r tîm i osod blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli'r holl waith er mwyn diwallu anghenion y cwsmer a'r busnes

Meini prawf penodol i’r swydd

1. Profiad o arwain tîm mewn lleoliad rheng flaen, sy’n seiliedig ar arian parod, gan gynnwys cadw cyfrifon a chofnodion a rheoli arian parod.

2. Dealltwriaeth o arferion adwerthu, er enghraifft, rheoli, masnachu nwyddau a hyrwyddo. Byddai gwybodaeth am systemau EPoS a therfynellau Psion yn fanteisiol.

3. Profiad o weithio gyda sefydliadau allanol ac aelodau o’r cyhoedd, gorau oll os yw hynny ym maes twristiaeth, hamdden neu fanwerthu.

 

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Stacy Birkett - 07970862349

Sut i wneud cais

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.