Swydd Wag -- Rheolwr Manwerthu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Datblygu Busnes a Marchnata
HEO - £32,460 - £39,690
£29,850
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio i gael amgylchedd hanesyddol hygyrch i Gymru sy’n cael ei ddiogelu’n dda.

Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • helpu i ofalu am ein hamgylchedd hanesyddol er lles pobl heddiw ac ar gyfer y dyfodol
  • hyrwyddo'r broses o ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i roi gofal priodol i’n hamgylchedd hanesyddol
  • helpu pobl i werthfawrogi a mwynhau ein hamgylchedd hanesyddol
  • sicrhau bod ein hamgylchedd hanesyddol yn gweithio er ein lles economaidd
  • gweithio gyda phartneriaid i gyflawni ein hamcanion cyffredin gyda'n gilydd

Bydd y sawl yn y swydd hon yn atebol i’r Uwch-reolwr Masnachol yn yr adran Datblygu busnes a Marchnata a byddent yn gyfrifol am reoli tîm bach o staff.  Byddent yn arwain ar bob mater manwerthu o fewn Cadw, gan ddatblygu cynnig gwell a mwy proffidiol i sicrhau bod y nwyddau a'r gwasanaethau y mae Cadw yn eu darparu yn ymarferol yn fasnachol a bod pob system yn effeithlon ac yn cydymffurfio.

Bydd deiliad y swydd yn goruchwylio'r tîm sy'n gyfrifol am fanwerthu ar bob safle, gan gynnwys yr holl ddadansoddi gwerthiant, y logisteg rheoli stoc, a’r adroddiadau ariannol, a byddent yn dyfeisio ac yn gweithredu strategaeth fanwerthu ar gyfer Cadw.

Bydd cyfrifoldeb ar y sawl yn y swydd i gynyddu incwm manwerthu Cadw o 5% o leiaf o flwyddyn i flwyddyn, yn unol â thargedau sefydliadol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn chwarae rhan annatod yn y broses o weithredu'r system EPoS newydd sydd wedi'i chynllunio ar gyfer 2021, a byddent mewn cyswllt cyson â rheolwr y prosiect i adlewyrchu anghenion manwerthu.

Prif dasgau

  • Rheoli'r broses o ddatblygu a chaffael nwyddau i'w hailwerthu yn y 24 safle Cadw sy'n cael eu staffio
  • Monitro gwariant cyllideb o £1m a chyhoeddi rhagolygon gwariant, y targed yw cynhyrchu £2,100,000.
  • Arwain a hyfforddi tîm bach i sicrhau bod gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cael eu cyflawni'n effeithiol, gan flaenoriaethu beichiau gwaith a chefnogi staff sydd ag anghenion dysgu a datblygu.
  • Cynnal ymarferion caffael yn unol â phrosesau sefydliadol, rheoli contractau (system EPoS) a chefnogi tendrau ar gyfer cyflenwyr, a rheoli contract i sicrhau eu bod yn cyflawni canlyniadau.
  • Cydweithio'n agos ac yn effeithiol â’r staff sydd yn y safleoedd i gynyddu eu sgiliau a'u gwybodaeth am farchnata er mwyn gwella cyflwyniad a chynyddu gwerthiant.
  • Goruchwylio canllawiau marsiandïaeth weledol er mwyn sicrhau bod pob siop yn cael ei chyflwyno â chysondeb ac ansawdd, gan ddatblygu systemau i fonitro a gwella.
  • Rheoli a darparu gweithgareddau cynhyrchu incwm newydd, megis siopau pop-up, casgliadau cynnyrch newydd e.e. casgliad Nadoligaidd, ymarferoldeb y siop ar-lein, y Casgliad Treftadaeth moethus, peiriannau gwerthu, a pheiriannau coffi.
  • Cyfarfod â chyflenwyr, adolygu casgliadau, tymhorau, datblygu cynnyrch newydd, ac ymateb i dueddiadau cynnyrch.
  • Sicrhau bod cynnig manwerthu Cadw yn ymateb i anghenion cwsmeriaid drwy ddilyn tueddiadau'r sector.
  • Rheoli cynnig ar-lein newydd ac asesu systemau a phrosesau i gynyddu incwm.
  • Cyfrannu at brosiectau penodol, adolygu a gwella swyddogaethau'r system EPoS presennol ynghyd â datblygu system EPoS newydd, a gweithredu strategaeth fanwerthu.
  • Cynhyrchu adroddiadau rheoli ar gyfer uwch dîm rheoli Cadw, dadansoddi data ar gyfer cynllunio cywir, adrodd ar Enillion o Fuddsoddi, monitro'n rheolaidd, ac addasu cynlluniau i sicrhau bod targedau incwm yn cael eu cyrraedd.

Cyfleoedd datblygu

Mae Cadw yn annog staff i fynd ar drywydd cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu penodol sy'n gysylltiedig ag anghenion busnes. 

Dyma gyfle i rywun sydd â gwybodaeth a sgiliau cryf am fanwerthu i gael profiad unigryw yn y sector treftadaeth/diwylliannol ar draws nifer o safleoedd, ledled y wlad, gan weithio gydag adrannau amrywiol o fewn y llywodraeth.

Dyddiad Cau

11/11/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Gwireddu Canlyniadau Masnachol - Casglu a defnyddio tystiolaeth i asesu costau, manteision a risgiau amrywiaeth eang o opsiynau cyflenwi wrth wneud penderfyniadau masnachol.
  2. Newid a Gwella - Dod o hyd i ffyrdd o wella systemau a strwythurau i gyflenwi gan ddefnyddio adnoddau yn fwy effeithlon.
  3. Gweld y Darlun Cyflawn - Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw.
  4. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Croesawu heriau a, lle bo hynny’n briodol, cynnwys pobl eraill wrth wneud penderfyniadau i helpu i ennyn diddordeb a chyflwyno argymhellion cadarn.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Gwybodaeth weithredol drylwyr o waith manwerthu, yn ddelfrydol o fewn y sector treftadaeth/diwylliannol
  2. Rheolwr manwerthu medrus gyda chraffter masnachol cryf a'r gallu i gynyddu incwm ar draws yr ystâd
  3. Y gallu i werthuso cynigion a chytundebau masnachol yn hyderus, i ddatblygu atebion creadigol a'u rhoi ar waith.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Zara Cottle - zara.cottle@gov.wales - 03000 259763

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Mewnol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.