Swydd Wag -- Dirprwy Gyfarwyddwr, Marchnata Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 1
Mae'r rôl hon ar lefel Dirprwy Gyfarwyddwr a'r cyflog yw £71,000.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

20/05/21 12:00

Pwrpas y Swydd

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am oruchwylio pob agwedd ar farchnata o dan uwch frand Cymru, gan ddatblygu proffil Cymru fel lle i ymweld ag ef, buddsoddi ynddo, gweithio ac astudio.

 Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb uniongyrchol am yr holl waith cyfathrebu trawsbynciol ar lefel Cymru, yn ogystal â marchnata busnes a thwristiaeth yn y DU ac yn rhyngwladol – mae hon yn rôl ddylanwadol a phroffil uchel o fewn Llywodraeth Cymru.

 Yn ogystal â chydweithio â Gweinidogion a ledled y Llywodraeth, byddwch yn darparu arweiniad brand ledled Cymru ar gyfer rhanddeiliaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus: gan ennyn hyder a chefnogaeth ar gyfer eich syniadau arloesol er mwyn symud Cymru ymlaen.

 Hefyd, bydd yn ofynnol i chi gydweithio â chydweithwyr ar lefel Llywodraeth y DU i ddarparu dull gweithio 'pedair gwlad' a sicrhau bod Cymru'n ychwanegu gwerth ac yn rhan greiddiol ac ystyrlon o raglenni cyfathrebu a marchnata ar lefel y DU sy’n cael eu rhoi ar waith gan Rif 10 Downing Street, DIT, VisitBritain a'r Cyngor Prydeinig.

 Yn ogystal â chyflwyno dulliau cyfathrebu ymatebol sy'n adweithio i argyfwng; mewn rhaglenni marchnata amlsector, amlieithog hirdymor gwerth miliynau o bunnoedd, bydd eich rôl graidd yn canolbwyntio ar sicrhau bod Marchnata yn cyflawni ei rôl strategol wrth wraidd Llywodraeth Cymru a bywyd ehangach Cymru – gan ddylanwadu ar benderfyniadau polisi, buddsoddi a rhaglenni ar y lefelau uchaf.

 Fel Pennaeth y Proffesiwn Marchnata o fewn Llywodraeth Cymru, byddwch yn gyfrifol hefyd am hyrwyddo'r proffesiwn yn barhaus, cynyddu ei amrywiaeth a datblygu galluoedd, sgiliau a chyfraniadau marchnata ledled y sefydliad.

 Bydd deiliad y swydd yn aelod o'r Uwch Dîm Rheoli Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a bydd disgwyl iddo ddod â'i arbenigedd, gwybodaeth a hygrededd er budd y sefydliad ehangach, gan gyfleu blaenoriaethau, sicrhau ymrwymiadau i'w gwireddu, a chynllunio ar gyfer newid yn ystod cyfnod tyngedfennol i Gymru.

  Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithredu'n effeithiol ar lefel Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru. Yn ogystal ag arwain a rheoli timau marchnata ac ymgyrchu Croeso Cymru, bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at arweinyddiaeth yr adran a'r sefydliad ehangach. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gynghori a chefnogi Gweinidogion ar faterion cysylltiedig.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Bydd y Tîm Recriwtio drwy system Llywodraeth Cymru yn cydnabod eich cais, a phan fo hynny’n briodol byddwch yn cael eich hysbysu am ganlyniad y cyfarfod i benderfynu ar ymgeiswyr ar gyfer y rhestr fer a gynhelir ar 27 Mai 2021. 

 Asesiadau ar gyfer Ymgeiswyr ar y Rhestr Fer yn Unig

Profion Seicometrig Ar-lein - bydd y profion hyn yn cynnwys rhesymu rhifyddol a geiriol a thrafodaeth gyda seicolegydd. Byddwch yn derbyn dolen i'r profion ar-lein hyn o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl y cyfarfod i benderfynu ar ymgeiswyr ar gyfer y rhestr fer.

 Os ydych wedi cwblhau'r profion seicometrig ar-lein yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ar gyfer swydd ar yr un radd, ni fydd angen i chi sefyll y profion hyn eto ar gyfer yr ymarferiad recriwtio penodol hwn.

 Ymarferiad Ymgysylltu â Staff/Rhanddeiliaid – bydd yr ymarferiad hwn yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos yn dechrau 7 Mehefin 2021. Bydd manylion pellach yn dilyn.

 Bydd y gweithgareddau uchod yn rhan o'r asesiad cyffredinol gofynnol ar gyfer yr ymarferiad recriwtio hwn. Bydd hyn yn ychwanegol i gyfweliad y panel dethol.

 Cyfweliadau Panel – mae'r rhain wedi'u trefnu ar gyfer 22 Mehefin 2021.

 Bydd pob un o'r uchod yn cael eu cynnal o bell drwy Microsoft Teams

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

22il o Fehefin, 2021
SCSRecruitment@llyw.cymru

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.