Swydd Wag -- CADW - Warden Henebion Maes

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
CADW
EO - £26,900 - £30,610
£23,400
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gogledd Cymru
TBC

Pwrpas y swydd

Cyflawni ystod eang o ddyletswyddau statudol yn ymwneud â gwarchod, cynnal, diogelu a deall amgylchedd hanesyddol Cymru. Bydd y ffocws ar gwblhau ymweliadau safle i henebion cofrestredig i fonitro eu cyflwr ac i roi cyngor rheoli i berchnogion.

Mae henebion cofrestredig yn safleoedd archaeolegol a hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol wedi'u dynodi o dan Ddeddf Henebion a Mannau Archaeolegol (1979).

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm o chwe warden henebion maes rhanbarthol ac yn bennaf gyfrifol am henebion wedi'u lleoli yng Ngogledd-Orllewin Cymru (Gwynedd a Sir Fôn).

Mae'r swydd hon yn cynnwys ymweld â henebion cofrestredig o bob math a chyfnod, o gyfnodau cynhanesyddol i'r 20fed ganrif, er mwyn nodi eu cyflwr a chynnig cyngor ar y gwaith o'u rheoli. Mae'r rhan fwyaf o'r henebion ar ffermdir neu mewn cefn gwlad agored; mae nifer ohonynt mewn lleoliadau anghysbell ac uchel, y gellir ond eu cyrraedd ar droed.

 

Bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar drwydded yrru lawn er mwyn gallu gyrru i ffermydd a henebion yn y rhanbarth; mae natur anghysbell nifer o'r safleoedd yn golygu nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn bosibl fel arfer.  Darperir cyfarpar iechyd a diogelwch a hyfforddiant ar gyfer cyrraedd safleoedd anghysbell. 

Prif dasgau

Cwblhau archwiliadau monitro cyflwr henebion cofrestredig yn bennaf yng Ngogledd Orllewin Cymru ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

Rhoi cyngor rheoli a sefydlu a monitro cytundebau rheoli treftadaeth yn ymwneud â henebion cofrestredig.

Cynnal ymweliadau monitro yn ôl yr angen ar gyfer caniatâd henebion cofrestredig, gwaith a gaiff gymorth grant neu achosion o ddifrod.

Cynnal briffiau gwylio archeolegol, mân waith cloddio mân neu ymarferion cofnodi ar henebion cofrestredig yn ôl yr angen.

Gweithredu fel pwynt cyswllt a chyngor cyntaf rhwng Cadw a pherchnogion/rheolwyr henebion cofrestredig.

Creu, golygu a diweddaru cofnodion asedau hanesyddol yn ymwneud â henebion cofrestredig.

Cyflawni prosiectau eraill yn ymwneud â diogelu, cadw a hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol yn ôl yr angen. 

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â thîm Arolygiaeth archaeolegol Cadw a bydd yn gallu cymryd rhan mewn ystod o gyfleoedd hyfforddi mewnol ac allanol.

Bydd cyfleoedd i ddeiliad y swydd fod yn rhan neu arwain prosiectau yn ymwneud â chadwraeth henebion ac archaeoleg gymunedol, gan weithio gyda phartneriaid megis Awdurdodau Lleol, Parciau Cenedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Dyddiad Cau

28/02/17 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol – Archwilio gwybodaeth gymhleth a chasglu gwybodaeth bellach i wneud penderfyniadau cywir.

Arwain a Chyfathrebu - Dangos brwdfrydedd dros nodau a gweithgareddau – gan fabwysiadu ymagwedd gadarnhaol wrth ryngweithio ag eraill.

Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd - Gweithio gyda thîm i bennu blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli'r holl waith i ddiwallu anghenion y cwsmer a'r busnes.

Cydweithredu a Phartneru – Nodi cyfleoedd i rannu dealltwriaeth, gwybodaeth a dysgu a gwneud cynnydd drwy weithio gyda chydweithwyr. 


Meini Prawf Penodol i’r Swydd

1. Gradd dda mewn archaeoleg neu radd ôl-raddedig berthnasol.  Byddai aelodaeth o Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr yn fuddiol.

2. Gwybodaeth gefndirol da am archaeoleg a hanes Cymru a bod yn gyfarwydd â safleoedd archaeolegol o bob math a chyfnod.

3. Profiad o weithio ar brosiectau archaeolegol neu reoli treftadaeth.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Rhaid i allu ymgymryd â gweithio unigol mewn amgylcheddau gwledig.

Mae'r swydd gweithiwr gartref hon yn cwmpasu Gwynedd ac Ynys Môn.  Mae'n bosibl y gallai'r swydd weithredu o swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno ar gais.

Ian Halfpenney 01650 511347 - 07968 609837 - ian.halfpenney@wales.gsi.gov.uk

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.