Swydd Wag -- Swyddog Cefnogi Tîm – Canolfan Gydwasanaethau Corfforaethol x2 (Siaradwr Cymraeg)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Prif dasgau
- Rheoli’ch llwyth gwaith personol, trwy achosion yn y System Rheoli Perthynas Cwsmer / Customer Relationship Management System, (CRM) wedi’i ddosbarthu gan Reolwr/aig y Tîm, trwy wneud gweithgareddau recriwtio a ofynnir, yn ôl y prosesau a’r arweiniad y cytunwyd arnynt.
- Rheoli’r broses recriwtio mewn perthynas â hysybyebion mewnol ac allanol ar System Apwynt Llywodraeth Cymru, yn unol â Chytundebau Lefel Gwasanaeth (CLG).
- Cynnal gwiriadau cyn gyflogaeth ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus mewn modd amserol.
- Rheoli’r Secondiaid a’r Benthyciadau a’r Trosglwyddiadau Adrannau Eraill y Llywodraeth, yn unol â phrosesau CLG).
- Sicrhau bod data a gwybodaeth sensitif bersonol / masnachol yn cael ei phrosesu yn effeithiol a’i hymdrin yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau.
- Sicrhau bod cwsmeriaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eu cais / ymholiad.
- Cysylltu â thimau / unigolion eraill fel y bo'n briodol os oes angen hyn er mwyn sicrhau bod yr achos yn cael ei datrys yn foddhaol.
- Diweddaru'r systemau perthnasol mewn modd amserol, gan sicrhau cywirdeb bob amser, ac yn unol â chanllawiau a ddarperir.
- Bwydo unrhyw ymholiadau / ceisiadau anarferol i Reolwr y Tîm fel y bo'n briodol, a chyn gynted ag y bo modd.
- Tynnu sylw Rheolwr y Tîm at unrhyw broblemau posib, fel y bo'n briodol.
- Cefnogi cynnal a chadw'r systemau a ddefnyddir gan y tîm, gan gyfrannu at brofi / diweddariadau dan gyfarwyddyd y Rheolwr Darparu Adnoddau, a chywiro unrhyw anghysondebau sy’n cael eu codi mewn adroddiadau eithriadau, o dan gyfarwyddyd Rheolwr y Tîm.
Cyfleoedd datblygu
Gan fod y swydd yn cynnwys llawer iawn o gysylltu ag amrywiaeth o unigolion, gan ymateb i ymholiadau a sicrhau bod prosesau yn unol â pholisïau a chanllawiau, mae cyfle i ddatblygu sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol. Mae'r rôl hefyd yn rhoi'r cyfle i ddatblygu'r gallu i ddefnyddio systemau Adnoddau Dynol amrywiol, gan gynnwys y system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM). Byddai’r rôl hefyd yn rhoi cyflwyniad da i'r proffesiwn AD, pe bai gennych ddiddordeb yn y proffesiwn.
Mae unigolion yn cael eu hannog i weithio’n hyblyg ar draws y Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol a nodi ffyrdd o wella gwasanaethau, prosesau neu’r systemau er mwyn darparu gwasanaeth effeithlon sy’n canolbwyntio ar anghenion y cwsmer.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl
Cyflawni'n Brydlon
- Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Ymchwilio i fylchau, amryfusedd ac anghysondeb mewn gwybodaeth, ac ymateb iddynt
Rheoli Gwasanaeth Safonol
- Mynd ati i holi am wybodaeth gan gwsmeriaid er mwyn deal eu hanghenion a’u disgwyliadau a rheoli gwybodaeth yn briodol
Rheoli Gwasanaeth Safonol
- Bod yn atebol am faterion, gan ganolbwyntio ar ddarparu’r ateb cywir a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a phartneriaid cyflenwi
Meini prawf penodol i'r swydd
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Mae’r swyddi yma wedi’u lleoli yn y Ganolfan Gydwasanaethau Corfforaethol, sydd yn delio gyda recriwtio, cyllid, tal a phensiwn. Mae nifer o swyddi ar gael.
Oherwydd gofynion y swydd, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus aros yn y swydd trwy gydol y penodiad.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.