Swydd Wag -- Uwch Reolwr Prosiect Treftadaeth (Datblygu)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Eiddo dan Ofal
SEO - £41,700 - £49,370
Hyd at £44,200
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Bydd gan ddeiliad y swydd rôl allweddol yn cefnogi’r gwaith o lunio prosiectau datblygu a chadwraeth â blaenoriaeth ar gyfer 130 o henebion Cadw sydd dan ofal y wladwriaeth.

Mae’r swydd hon yn rhan o gangen Eiddo dan Ofal Cadw sy’n gyfrifol am warchod, rheoli a datblygu henebion Cadw. Mae ein gwaith yn cynnwys: rhaglenni gwarchod adeiladau, cadw henebion Cadw yn ddiogel a hygyrch a darparu prosiectau sy’n gwella profiad ymwelwyr ac yn cefnogi economi a chymunedau Cymru.

Rydym yn chwilio am weithiwr treftadaeth arbenigol proffesiynol i reoli cyfnodau cynnar prosiectau cadwraeth a datblygu cymhleth mawr, o ddiffiniad strategol (RIBA 0) i gynllunio manwl (RIBA 4) gyda goruchwyliaeth barhaus unwaith y bydd prosiectau yn cael eu darparu ar y safle. Bydd gan ddeiliad y swydd gymhwyster treftadaeth ffurfiol ar lefel gradd (neu uwch) neu bydd yn aelod o gorff cadwraeth achrededig, a hanes da o brofiad ymarferol.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio’n agos gyda thîm o weithwyr treftadaeth ac eiddo proffesiynol i ddarparu atyniadau treftadaeth o safon byd ledled Cymru i ymwelwyr.

Prif dasgau

  • Yn adrodd i’r Pennaeth Eiddo dan Ofal ac yn aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth Eiddo dan Ofal a’r Tîm Prosiectau Mawr.
  • Yn cydweithio ag arolygwyr adeiladau treftadaeth Eiddo dan Ofal, rheolwyr prosiect a’r tîm ystadau, ynghyd â changhennau eraill yn Cadw, gan sicrhau bod prosiectau yn y dyfodol yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o arwyddocâd yr heneb. Yn gyfrifol am sicrhau bod Arwyddocâd yn cael ei gyfleu ac y cytunir arno, ac y nodir bylchau allweddol yng ngwybodaeth Cadw, gan gomisiynu ymchwil newydd i lenwi’r bylchau hyn.
  • Yn gyfrifol am ysgrifennu, a/neu gaffael gweithwyr treftadaeth arbenigol allanol proffesiynol i ddarparu: Cynlluniau Rheoli Cadwraeth, Datganiadau Arwyddocâd (gan gynnwys arwyddocâd perthynol), Datganiadau ac Asesiadau Effaith Treftadaeth, ceisiadau am gydsyniad ar gyfer Henebion Cofrestredig ac Adeiladau Rhestredig, ac ymchwil.
  • Gweithio gyda Thîm Prosiectau Eiddo dan Ofal a Thimau Datblygu Henebion (timau ledled Cadw), ac yn benodol i gomisiynu Uwchgynlluniau ar gyfer safleoedd hanesyddol Cadw lle rhagwelir prosiect datblygu.
  • Cydweithio â phartneriaid allanol a rhanddeiliaid sy’n hollbwysig i lwyddiant prosiectau Cadw, gan sicrhau bod y rhain yn sicrhau’r buddiannau a ddisgwylir gan Raglen Lywodraethu Cymru.
  • Defnyddio strwythur rheoli prosiect, arwain yn natblygiad cynnar prosiectau cymhleth mawr, ac adrodd yn rheolaidd i Dimau Datblygu Henebion ac Eiddo dan Ofal Cadw ar gynnydd prosiectau cadwraeth a buddsoddi mawr Cadw.
  • Gweithio’n agos gydag Arolygwyr Henebion ac Adeiladau Hanesyddol Cadw er mwyn sicrhau yr ymgynghorir â Changen yr Amgylchedd Hanesyddol ac y derbynnir cydsyniadau ganddi mewn modd amserol. Tasg gynnar fydd llunio a chytuno ar gytundebau lefel gwasanaeth (CLG) rhwng canghennau'r Amgylchedd Hanesyddol Eiddo dan Ofal Cadw, er mwyn sicrhau cydweithio amserol a bod cydsyniadau’n cael eu sicrhau ar gyfer rhaglen waith prosiectau a chadwraeth Eiddo dan Ofal Cadw.
  • Darparu cyngor proffesiynol arbenigol yn ôl yr angen i helpu i warchod, diogelu a gwella treftadaeth adeiledig Cymru, gan sicrhau bod yr arferion cadwraeth gorau yn cael eu mabwysiadau a bod ansawdd y dylunio, y gwaith crefft a’r deunyddiau a ddefnyddir sy’n effeithio ar henebion dan ofal LlC o ansawdd.
  • Darparu neu gynorthwyo gyda briffiau yn uniongyrchol ar gyfer Gweinidogion a/neu uwch swyddogion ar gyfrifoldebau pwnc, gan gynnwys briffio llafar neu fynychu cyfarfodydd neu ymweliadau gweinidogol, a chyfrannu cyngor ysgrifenedig ar gyfer comisiynau briffio ar draws Cadw.
  • Yn unol â chyfarwyddiadau, gweithio ar draws ardaloedd daearyddol gan gyflenwi dros absenoldebau a/neu amrywiadau mewn gwaith rhanbarthol.

Cyfleoedd datblygu

  • Byddwch yn datblygu gwybodaeth eang am Lywodraeth Cymru.
  • Cyfle i ddatblygu sgiliau Rheoli Prosiect.
  • Cyfle i gyfrannu at iechyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru a’i chymunedau.
  • Cyfle i gydweithio â Llywodraeth Cymru a sefydliadau treftadaeth eraill yn y DU.

Dyddiad Cau

14/07/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Gweld y Darlun Mawr

  • Deall yr ysgogwyr strategol ar gyfer eich maes gwaith. 

Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Sicrhau bod negeseuon pwysig yn cael eu cyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid yn barchus, gan ystyried eu buddiannau amrywiol.

Cydweithio

  • Sefydlu cysylltiadau proffesiynol gyda rhanddeiliaid amrywiol a chydweithio gyda’r rhain i rannu gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth.

Cyflawni’n Gyflym

  • Hyrwyddo diwylliant o ddilyn y gweithdrefnau priodol i sicrhau canlyniadau prydlon tra’n dal i alluogi arloesedd.

Meini Prawf penodol i’r swydd;

  1. Gwybodaeth arbenigol am ddeddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol, yn enwedig rheoli newid i fannau hanesyddol a henebion.
  2. Cymhwyster rheoli prosiect neu brofiad o reoli/cyflawni prosiectau o fewn yr amgylchedd hanesyddol.
  3. Profiad o gaffael, briffio a rheoli ymgynghorwyr a chontractwyr arbenigol.



Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn cynnwys cyflwyniad 10 munud.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Cymru gyfan – gydag ymweliadau rheolaidd â safleoedd ledled stad Cadw.
Stephanie Evans - 07464 522563 - Stephanie.Evans002@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.