Swydd Wag -- Swyddog Gorfodi Morol (Gwyddoniaeth / Cadwraeth) x2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cangen Rheoli a Gorfodi
EO - £26,900 - £30,610
Hyd at bwynt 3 ar raddfa gyflog yn dibynnu ar brofiad
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gogledd Cymru, Y De-orllewin
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

  • Amcan Is-adran y Môr a Physgodfeydd Llywodraeth Cymru yw cynnal pysgodfeydd cynaliadwy fel rhan annatod o foroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol Cymru.

 

  • Y Tîm Rheoli a Gorfodi sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi deddfwriaeth Ewrop, y DU a Chymru sy'n ymwneud â'r môr a physgodfeydd.

 

  • Un o brif feysydd y polisi Pysgodfeydd yw Pysgota Môr. Mae’r maes hwn yn dod â staff i gysylltiad uniongyrchol â’r diwydiant pysgota, y mesurau technegol sy’n rheoli pysgota a chyda rhannau eraill o’r DU ac Ewrop.

 

  • Prif bwrpas y swydd yw rhoi arweiniad wrth roi’r system trwyddedu morol a deddfwriaeth cadwraeth natur ar waith, yn ogystal â chymryd awenau'r gwaith gwyddonol o fewn y Gangen Rheoli a Gorfodi.

 

  • Fel rhan o dîm cenedlaethol o MEOs, bydd angen i ddeiliad y swydd helpu Tîm Rheoli a Gorfodi'r Môr a Physgodfeydd â'i rôl ehangach o gynnal dyletswyddau gorfodi o gwmpas arfordir Cymru. Bydd gofyn iddynt helpu i orfodi deddfwriaeth pysgodfeydd sy'n berthnasol i Gymru - gan gynnwys monitro'r pysgod sy'n cael eu glanio mewn porthladdoedd lleol, cadarnhau cywirdeb llyfrau log a datganiadau glanio, a lle bo angen, casglu tystiolaeth a pharatoi ffeiliau ymchwiliadau a allai arwain at erlyniadau lle gallai fod gofyn ichi roi tystiolaeth. Efallai y bydd gofyn ichi hefyd gynllunio a gorfodi pysgodfeydd rhynglanwol masnachol (e.e. hela cocos a chregyn gleision â llaw).

 

  • Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd dreulio peth o'i amser ar y môr i gynnal arolygon a gwaith ymchwil gwyddonol ar un o gychod patrolio pysgodfeydd Llywodraeth Cymru.

 

  • Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio ambell waith fel rhan o Ganolfan Fonitro Pysgodfeydd Cymru yn Aberdaugleddau neu efallai cynnal gweithgareddau gorfodi ar un o gychod patrolio'r pysgodfeydd.

 

Prif dasgau

  • Datblygu cynlluniau ar gyfer gorfodi'r system trwyddedu morol yng Nghymru ac arwain y gwaith gorfodi hwnnw.
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer gorfodi deddfwriaeth cadwraeth natur y môr yng Nghymru ac arwain y gwaith gorfodi hwnnw.
  • Rhoi arweiniad ar gyfer rhoi cefnogaeth weithredol i dimau gwyddoniaeth y môr a physgodfeydd o fewn Is-adran y Môr a Physgodfeydd.
  • Cefnogi'r tîm o MEOs i orfodi rhag pysgotwyr masnachol o gwmpas arfordir Cymru.
  • Casglu tystiolaeth, cynnal ymchwiliadau yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, paratoi ffeiliau achos ac o bosibl, ymddangos fel tyst mewn llys.
  • Rhoi cyngor technegol a gwyddonol i gydweithwyr ym maes polisi ar weithgareddau pysgota, gwasgariad pysgod, prosesu a materion eraill sy'n ymwneud â'r môr.
  • Cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r diwydiant pysgota, rhannau eraill Llywodraeth Cymru, Adrannau eraill y Llywodraeth, yr Heddlu, Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff statudol ac anstatudol.
  • Meithrin perthynas dda â holl sectorau'r diwydiant pysgota a chyda chyrff amgylcheddol a gwyddonol.
  • Cynnal patrolau ar y môr fel y bo’r angen, gan weithredu fel swyddog gorfodi ar gwch.

Cyfleoedd datblygu

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fynd ar fwrdd cychod i archwilio'r pysgod sydd wedi'u dal neu'n cael eu glanio. Rhaid felly wrth rywfaint o ffitrwydd corfforol. 

Bydd gofyn i unigolion hyfforddi ddod yn Swyddog Gorfodi Morol llawn. Bydd angen rhyw flwyddyn o hyfforddiant a goruchwyliaeth a bydd yn cynnwys cyrsiau dwys mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Dyddiad Cau

08/01/20 15:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau 

  • Gwneud Penderfyniadau EffeithiolPwyso a mesur gwybodaeth gymhleth a chael rhagor o wybodaeth er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir

  • Arwain a ChyfathrebuBod yn hyderus wrth gynnal trafodaethau neu gyfweliadau anodd

  • Gweithio ar y Cyd ac mewn PartneriaethAnnog gwaith tîm, gan newid dulliau gweithio er mwyn hwyluso cydweithredu er lles gwaith y tîm

  • Cyflawni'n BrydlonYmddiddori yn yr hyn y maen nhw a’r tîm yn ceisio ei gyflawni, a bod yn gadarnhaol amdano

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Sgiliau dadansoddi da i brosesu gwybodaeth o nifer o ffynonellau.
  2. Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol a'r gallu i gyfathrebu'n dda ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd.
  3. Y gallu i weithio ar ei liwt ei hun ac fel aelod o dîm gwasgaredig ehangach.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Gofynion Anghenreidiol

Angen gradd mewn gwyddor fôr neu bysgodfeydd.

Profiad o gynnal arolygon, ymchwil ac ysgrifennu adroddiadau gwyddonol


Gofynion dymunol

  • Gwybodaeth a phrofiad o'r diwydiant pysgota neu wyddor forol.
  • Yn deall Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol neu'n gweithio mewn rôl orfodi.
  • Profiad o dreulio amser ar y môr
  • Gwybodaeth am drwyddedau morol a/neu ddeddfwriaeth cadwraeth natur.
  • Tystysgrif feddygol morwyr ENG1 (rhaid i ymgeiswyr ei phasio yn y cyfnod prawf o 6 mis)
  • STCW - Technegau Goroesi Personol (rhaid i ymgeiswyr eu pasio yn y cyfnod prawf o 6 mis) .
  • Trwydded Yrru lawn y DU

Dyddiadau Agored/ Sesiynau Galw Heibio

Dewch draw i'n sesiynau galw heibio i:

  • Ddysgu mwy am y gwaith rydyn ni'n ei wneud;
  • Clywed gan Swyddogion Gorfodi Morol, staff Canolfan Monitro Pysgodfeydd Cymru a chriwiau cychod;
  • Cael gwybodaeth am y swyddi rydym yn eu hysbysebu;
  • Cael help gan reolwyr Adnoddau Dynol ar sut i lenwi'r cais ar-lein.

 

Cynhelir y sesiynau yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru:

  • Dydd Llun, 9 Rhagfyr - Penlle'r-gaer, Abertawe
  • Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr - Rhodfa Padarn, Aberystwyth
  • Dydd Gwener, 13 Rhagfyr - Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno

Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio trwy'r dydd ar yr amserau canlynol: 9am-11am, 12pm-1pm, 2pm-4pm, 5pm-6:30pm.

Does dim angen trefnu ymlaen llaw - dewch heibio pryd fynnoch.

 Os nad yw'r dyddiadau/amserau uchod yn gyfleus, mae croeso ichi gysylltu â'r enw cyswllt ar yr hysbyseb.


Patrwm Gweithio

These are full-time posts.

This post will be subject to the Welsh Government’s Annualised Hours contract which will require staff to work a fixed number of hours per year but hours will be more intensive in certain periods and less intensive in other periods. Post holders will be expected to work unsocial hours (during the evening, night and at weekends to align with fishing activity) and aboard Welsh Governments Fisheries Patrol Vessels for periods of up to 3 days.


Rhestr fer/sifftio

Bydd angen i chi sicrhau eich hun eich bod yn gallu darparu tystiolaeth ddigonol o'r sgiliau craidd, yr ymddygiadau a'r meini prawf penodol i'r swydd.   

Bydd tystiolaeth a ddarperir gan ymgeiswyr yn y cais a’r CV yn cael eu hasesu gan ddefnyddio matrics sgorio yn erbyn y meini prawf penodol i’r swydd. Bydd yr ymgeiswyr llwyddianus yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad.

Dylid cynnwys tystiolaeth yn erbyn y meysydd cymhwysedd yn eich cais, ond dim ond yn y cyfweliad y caiff y rhain eu hasesu.

Tim Croucher tim.croucher@gov.wales 03000258757

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.