Swydd Wag -- Rheolwr Gwefan

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
HEO - £32,460 - £39,690
£30,600
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Mae hwn yn gyfle cyfnod penodol, benthyciad neu secondiad am hyd at 12 mis i gwmpasu absenoldeb mamolaeth.
hyd at 12 mis
Cymru gyfan, Lleoliad arall
Merthyr Tudful, Caerfyrddin, Cyffordd Llandudno
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Rydym yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae pobl Cymru sy'n agored i niwed wrth wraidd popeth a wnawn, a hwn yw eich cyfle i ddefnyddio eich sgiliau cyfathrebu mewn ffordd sydd wir yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Yn atebol i'r Rheolwr Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu, prif ffocws y swydd hon fydd rheoli cynnwys AGC ar sianeli digidol ar-lein gan gynnwys rheoli llif cynnwys o bob rhan o AGC a chyhoeddi ar ein gwefan gyhoeddus a mewnrwyd AGC.

Bydd y swydd hon yn helpu i lunio a llywio ein gwefan a'n strategaeth cynnwys y fewnrwyd, gan arddel barn olygyddol a darparu adborth adeiladol i'r rhai sy'n creu cynnwys. Gan sicrhau bod y cynnwys yn ddiddorol, yn hygyrch ac yn ddefnyddiadwy i'n cynulleidfa, byddwch yn nodi ac yn helpu i greu cynnwys newydd (gan gynnwys mathau amrywiol o gyfryngau) ac yn sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn seiliedig ar anghenion ein defnyddwyr. Bydd hefyd yn ofynnol i chi fonitro ymddygiad ymwelwyr â'r wefan a'r fewnrwyd, gan adrodd ar hynny, ac ymdrechu i wella profiad defnyddwyr ein mewnrwyd a'n gwefan.

Byddwch yn awdur creadigol a all ddwyn perswâd, ac weithiau byddwch yn cefnogi'r swyddogaeth PR, gan ysgrifennu eitemau newyddion a chynnwys ymgyrchoedd a chyhoeddiadau.

Byddwch yn gyfathrebwr hyderus, a bydd angen i chi fod yn gyfforddus yn cysylltu â datblygwyr y we a thimau eraill i ddatblygu'r fewnrwyd a'r wefan yn unol â blaenoriaethau busnes.

Prif dasgau

Rheoli cynnwys, delwedd a naws gwefan AGC (Gwefan a Mewnrwyd). Cydweithio â'r Rheolwr Ymgysylltu, a sicrhau bod pob tîm yn cydweithio i gyfleu negeseuon clir a chyson ar sianeli digidol.

Rheoli llif cynnwys o bob rhan o AGC hyd at y cam cyhoeddi, gan gynnwys adolygu golygyddol i sicrhau cydymffurfiaeth â chanllaw arddull Llywodraeth Cymru ac AGC a safonau ansawdd a hygyrchedd.

Gwerthuso effeithiolrwydd y wefan, gan gynnwys gwe-lywio a hygyrchedd, pa mor hawdd y mae i'w defnyddio, a dadansoddi ac adrodd ar ystadegau'r we ac ystadegau digidol i lywio gwelliannau yn y dyfodol. Byddwch yn nodi ac yn helpu i greu cynnwys newydd (gan gynnwys mathau amrywiol o gyfryngau) ac yn sicrhau bod y penderfyniadau a wnawn yn seiliedig ar anghenion ein defnyddwyr.

Drafftio cynnwys diddorol ar bob ffurf gan gynnwys cefnogswyddogaeth PR achlysurol, gan gynnwys drafftio eitemau newyddion, a chydweithio i lunio cyhoeddiadau. Arddel barn olygyddol a darparu adborth adeiladol i'r rhai sy'n creu cynnwys.

Gweithio gyda'r Rheolwr Ymgysylltu i ddatblygu a gwella meysydd ar gyfer ymgysylltu â staff mewnol/cwsmeriaid yn barhaus. Bydd hefyd yn ofynnol i chi fonitro ymddygiad ymwelwyr â'r wefan a'r fewnrwyd, gan adrodd ar hynny, ac ymdrechu i wella profiad defnyddwyr ein mewnrwyd a'n gwefan yn barhaus.

Rhoi cyngor a chymorth proffesiynol ar gyfathrebu ar y we i AGC, gan gynnwys cyngor ac arweiniad i olygyddion cynnwys ar y defnydd technegol o System Rheoli Cynnwys y wefan a'r wybodaeth fformatio er mwyn sicrhau cysondeb, hygyrchedd a chyflwyniad gweledol.

Datblygu cydberthynas waith agos â thîm gwe canolog Llywodraeth Cymru a thîm digidol AGC er mwyn datblygu'r gwaith o integreiddio'r wefan a sicrhau arfer gorau ymhellach ym mhob rhan o wasanaethau digidol Llywodraeth Cymru.

Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun a cheisio cyfleoedd priodol mewn trafodaeth â'r Rheolwr Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd

Dyddiad Cau

12/05/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gweld y Darlun Cyflawn

Bod yn ymwybodol o faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eich gwaith eich hun a gwaith y tîm, neu a allai fod o fudd i'r gwaith hwnnw

Arwain a Chyfathrebu

Cyfathrebu â'r staff yn barhaus, gan helpu i gadarnhau nodau a gweithgareddau a'r cysylltiadau rhwng y rhain a'r strategaeth Adrannol

Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd

Datblygu, gweithredu, cynnal ac adolygu systemau a safonau gwasanaeth er mwyn sicrhau arbenigedd a rhagoriaeth broffesiynol a gwerth am arian

Cyflawni'n Gyflym

Monitro eich gwaith eich hun a gwaith y tîm yn rheolaidd yn erbyn cerrig milltir neu dargedau a gweithredu'n brydlon er mwyn parhau ar y trywydd cywir a chynnal perfformiad

Meini Prawf Penodol i’r swydd

1. Y gallu i ddangos sgiliau a gwybodaeth mewn perthynas â darparu cynnwys ar y we a'r fewnrwyd, gan gynnwys cyhoeddi cynnwys ar y we gan ddefnyddio meddalwedd e.e. Drupal

2. Profiad o gynllunio, rheoli a gwerthuso gweithgareddau cyfathrebu (ar amrywiaeth o sianeli) yn unol â blaenoriaethau busnes.

3. Y gallu i ddangos profiad o greu cynnwys mewn amrywiaeth o arddulliau a ffurfiau (e.e. cynnwys ar gyfer tudalennau gwe, deunyddiau ymgyrchu, a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.)

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Cynhelir pob cyfweliad yn rhithwir drwy Microsoft Teams

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â chanllawiau Llywodraeth Cymru i ymgeiswyr a sut i roi tystiolaeth ar gyfer cwestiynau sy'n seiliedig ar gymwyseddau.

Mae hon yn swydd cyfnod penodol am hyd at 12 mis i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth.

Natalie Hughes - Natalie.Hughes@gov.wales - 03000628240

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.