Swydd Wag -- Dadansoddwr Diogelwch Seiber

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
HEO - £32,460 - £39,690
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'w thechnoleg gwybodaeth (TG) dros y blynyddoedd diwethaf ac ystyrir ei bod yn un o brif sefydliadau sector cyhoeddus y DU o ran galluogrwydd Digidol a TG.  Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau nifer o brosiectau TG megis symud i Exchange 365, symud i ffwrdd oddi wrth e-bost Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI), cyflwyno gliniaduron newydd i holl staff Llywodraeth Cymru (gan alluogi gweithio hyblyg) a chwblhau’r gwaith o fudo cymwysiadau mawr i Microsoft Azure.  Cofnodwyd hyn mewn astudiaeth achos GDS ar enghreifftiau o arferion gorau o fudo i’r Cwmwl (gweler https://www.gov.uk/government/case-studies/how-the-welsh-government-migrated-their-technology-to-the-cloud)

Mae Seiberddiogelwch yn broffesiwn cyffrous sy'n esblygu ym maes Technoleg Gwybodaeth ac mae'n tyfu bedair gwaith yn gyflymach nag unrhyw sector arall.  Mae gweithwyr proffesiynol Seiberddiogelwch yn hanfodol i helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o fynd i'r afael â bygythiadau seiber, a nhw yw'r brif linell amddiffyn yn erbyn spamio, gwe-rwydo, maleiswedd, feirysau a bygythiadau eraill i ddiogelwch gwybodaeth.  Wrth i seiberfwlio gynyddu, felly hefyd y galw am weithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi i atal ymosodiadau o'r fath.

Mae’r Is-adran Gwasanaethau TG yn falch iawn o allu datblygu’r presenoldeb Seiberddiogelwch o fewn Llywodraeth Cymru ac felly mae'n chwilio am Ddadansoddwr Seiberddiogelwch i ymuno â'r tîm sy'n ehangu. Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn hynod drefnus a brwdfrydig a fydd yn gyfrifol am ymgymryd â monitro technegol rhagweithiol, rheoli newid o ran diogelwch, sganio am wendidau a gweithredu strategaethau rheoli risg cymesur i asesu a chofnodi’r bygythiad i systemau a rhwydweithiau TG.

Prif dasgau

  • Mewn amser real, dadansoddi rhybuddion o systemau darganfod ymyrraeth a systemau diogelwch eraill (SIEM, IDS, NIDS, AV, EPS, Waliau Tân ac ati) ac ymateb neu uwchgyfeirio mewn modd amserol, priodol a chymesur.
  • Cynnal dadansoddiad o logiau o ystod eang o seilwaith a chymwysiadau i fonitro tueddiadau.
  • Cynnal asesiadau risg a datblygu argymhellion i wneud y gorau o dechnoleg bresennol i wella'r amddiffyniadau seiber.
  • Ymchwilio i ddigwyddiadau diogelwch a’u huwchgyfeirio fel y bo'n briodol, gan sicrhau bod y cyfathrebu’n glir ac yn cael ei gyhoeddi’n amserol i’r rhanddeiliaid allweddol a’r Tîm Ymateb i Ddigwyddiadau.
  • Sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r diweddaraf ac yn wybodus o ran bygythiadau a pheryglon sy’n ymwneud â TG, asesu'r bygythiad a datblygu camau priodol i fynd i’r afael â hwy neu argymhelliad priodol yn seiliedig ar ganfyddiadau.
  • Gweithio ar sail cylchdro, cymryd rhan mewn gwiriadau dyddiol sy'n cynnwys rhybuddion diogelwch a gwiriadau ar wefannau gweithgynhyrchwyr ar gyfer gwendidau mewn caledwedd, meddalwedd a chadarnwedd sy’n rhan o’r seilwaith craidd.
  • Defnyddio gwybodaeth ynglŷn a’r cyfryngau i i ganfod bygythiadau o ddiddordeb sy’n dod i’r amlwg, ac ymateb i negeseuon e-bost brys gan randdeiliaid diogelwch ac allweddol Llywodraeth Cymru.
  • Cyfrannu a chynorthwyo i ddatblygu prosesau gweithredol i gefnogi'r gallu i reoli gwendidau.
  • Cynorthwyo â’r gwaith o reoli digwyddiadau diogelwch fel y bo'n briodol.
  • Cynnal ymchwiliadau seiberddiogelwch.
  • Cynnal polisïau a dogfennau diogelwch eraill.
  • Cadeirio / mynychu cyfarfodydd a darparu arbenigedd seiberddiogelwch.
  • Ymgymryd ag unrhyw ofynion eraill yn ôl cyfarwyddyd yr Uwch-ddadansoddwr Seiberddiogelwch.

Cyfleoedd datblygu

Mae rôl y Dadansoddwr Seiberddiogelwch yn rhan o'r Proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) yn Llywodraeth Cymru.  Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu yn Llywodraeth Cymru ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gymuned ac i ddatblygu rôl y gymuned yn Llywodraeth Cymru. 

Mae'r swydd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i weithio gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr diogelwch o fewn Llywodraeth Cymru a thu allan iddi.  Mae'r bygythiad seiber byd-eang yn parhau i esblygu'n gyflym felly bydd dysgu a datblygu parhaus yn allweddol i sicrhau bod y tîm seiber yn parhau i ddiogelu ac amddiffyn systemau TG Llywodraeth Cymru yn effeithiol.

Dyddiad Cau

01/10/21 23:55

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Mae'r sgiliau canlynol sy’n benodol i'r swydd hefyd yn HANFODOL ar gyfer y rôl hon.  Sicrhewch eich bod yn atodi CV sy'n dangos eich gallu mewn perthynas â'r sgiliau hyn.

  • I gael eu hystyried ar gyfer y rôl hon, rhaid i ymgeiswyr feddu ar neu fod yn gweithio tuag at ardystiad sy’n benodol i’r maes Seiber ac a gydnabyddir gan y diwydiant, ee SSCP (Ymarferydd Ardystiedig Diogelwch Systemau). Os ydych yn gweithio tuag at ardystiad, sicrhewch fod tystiolaeth yn eich CV am ba ardystiad rydych yn gweithio tuag at, ynhyd â manylion hyfforddwyr unrhyw cyrsiau ffurfiol rydych wedi cwblhau neu archebu.
  • Profiad o fecanweithiau diogelwch a/neu gefndir mewn gweinyddu systemau.
  • dealltwriaeth o gysyniadau a rheolaethau diogelwch, safonau ac arferion gorau.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o systemau gweithredu Microsoft a dulliau cryfhau, a gwybodaeth ymarferol dda am offer a chymwysiadau swyddfa Microsoft.

Proses Asesu

Drwy gydol y broses asesu gyfan, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn yr Ymddygiadau o Broffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil a'r fframwaith galluogrwydd Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT). Anwybyddwch unrhyw cyfeiriad at cymhwyseddau o fewn ein system cais.  Gallwch ffeindio fwy o wybodaeth am Broffil Llwyddiant a Fframwaith Galluogrwydd DDaT yma: Proffil Llwyddiant/Success Profiles, Fframwaith Galluogrwydd DDaT Capability Framework. Nodwch, gan mai fframwaith y Gwasanaeth Sifil yw rhain, mae’r gwybodaeth i gael yn Saesneg yn unig, trwy wefan gov.uk

Arweinyddiaeth, Gweld y Darlun Cyflawn, Cyfathrebu a Dylanwadu, Datblygu eich Hun ac Eraill, Dadansoddi, a Thechnoleg a Dealltwriaeth Diogelwch Penodol

Caiff eich cais ei asesu mewn tri cham:

Sifft

Fel rhan o’ch cais, fydd gofyn i chi lwytho copi o’ch CV.  Ddylai hwn ddim bod mwy na 2 ochr A4.  Fydd unrhywbeth dros 2 ochr A4 yn cael ei ddiystyru, a ddim yn cael ei ystyried fel rhan o’r sifft.  I cefnogi ni i ymgymryd â sift “ddi-enw”, tynnwch eich enw a chyfeiriad oddi ar eich CV.

  • Bydd sifft gychwynnol yn cael ei chynnal ar sail eich CV a’r sgil hanfodol cyntaf – tystiolaeth o feddu neu gweithio tuag at ardystiad yn y maes Seibr.
  • Caiff y tri sgil hanfodol sy’n weddill ei assessu ar sail eich CV os ydych wedi pasio’r sift gychwynnol.

Ymarfer Technegol

 Gwahoddir ymgeiswyr sy’n pasio'r sifft i gymryd rhan mewn Ymarfer Technegol (sesiwn fideo o bell gyda’r Panel Technegol).

 Cyfweliad

Gwahoddir ymgeiswyr sy’n pasio'r Ymarfer Technegol i gymryd rhan mewn Cyfweliad (sesiwn fideo o bell gyda'r Panel Cyf-weld).

Darperir rhagor o wybodaeth am camau 2 a 3 yn dilyn y cam sifftio.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Philip Anderton - 03000 625643

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.