Swydd Wag -- Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Uwch Wasanaeth Sifil 1
tua £73,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

12/12/22 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd yn rôl allweddol o ran cyflawni agenda uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i sicrhau tegwch i bawb a diddymu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas. Mae'r rôl yn canolbwyntio ar feysydd polisi pwysig sy'n gallu gwneud gwahaniaeth i bobl a chymunedau yng Nghymru.
Mae hon yn rôl arweinyddiaeth sylweddol, gyda thîm o tua 50 o bobl, a chan weithio gyda rhanddeiliaid ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru, ac â swyddogion cyfatebol yn llywodraethau eraill y DU. Byddai deiliad y swydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o gyrff cyhoeddus datganoledig ac annatganoledig.
Mae'r rôl yn ymdrin â'r meysydd canlynol:• Trechu tlodi – gan gynnwys arwain a gweithredu polisi trawslywodraethol i leihau effeithiau tlodi ar unwaith; ac yn y tymor canolig a’r tymor hirach, lleihau nifer y bobl yng Nghymru sy’n wynebu tlodi a meithrin y gallu i wrthsefyll tlodi i’r dyfodol
• Costau byw – arwain yr ymateb polisi, nodi a datblygu camau lliniaru gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner
• Hawliau plant – gan gynnwys gweithredu’r Mesur Hawliau Plant a noddi’r Comisiynydd Plant
• Y Cynllun Plant – gweithredu’r Cynllun Plant ar draws y Llywodraeth
• Y peilot Incwm Sylfaenol – dylanwadu ar y peilot Incwm Sylfaenol i bobl ifanc sy’n gadael gofal, ei lywio, darparu arweiniad strategol o ran ei weithredu a’i oruchwylio
• Cynhwysiant ariannol – gan gynnwys cydweithio’n agos â’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu a chyflwyno mesurau a fydd yn meithrin lles ariannol pobl yng Nghymru
• Cynhwysiant digidol – arwain polisi cynhwysiant digidol a’i weithredu ar draws Llywodraeth Cymru, fel un o brif elfennau Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru
• Cyngor ar les cymdeithasol – arwain ar roi Cynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru ar waith mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol
• Teuluoedd yn Gyntaf – gweithredu’r rhaglen ymyrraeth gynnar ac atal hon, rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd, a datblygu’r polisi, gan gefnogi rhwydwaith cydlynwyr Teuluoedd yn Gyntaf
• Deddf Plant Cymru – monitro’r Ddeddf ar ôl ei chychwyn (gyda’r bwriad o lunio dau adroddiad ôl-weithredol ar ôl tair a phum mlynedd); cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys yr heddlu, comisiynwyr heddlu a throseddu, Gwasanaeth Erlyn y Goron ac awdurdodau lleol; cefnogi rhieni ac arwain ymgyrch gyfathrebu proffil uchel
• Magu plant – adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma, datblygu cynllun hirdymor ar gyfer cymorth magu plant cyffredinol sy’n ymgorffori egwyddorion gwrth-hiliol; ystyried dulliau o gefnogi rhieni sydd mewn gwrthdaro â’i gilydd(cyn mynd i’r llys); datblygu gwybodaeth, cefnogaeth a chyngor mewn perthynas â rhaglen Magu plant: rhowch amser iddo
• Polisi Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU – darparu arweiniad strategol o ran rheoli’r berthynas a’r ymwneud ag Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU, ac arwain y gwaith o godi ymwybyddiaeth o fudd-daliadau lles datganoledig ac annatganoledig, ac annog pobl i fanteisio arnynt. Mae’r rôl yn cynnwys ystyried y ddadl dros ddatganoli’r gwaith o weinyddu’r system fudddaliadau hefyd
• Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod – datblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru a gweithredu’r cynllun; parhau i gefnogi Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a dulliau gwaith sy’n ystyried effeithiau trawma
• Bwndeli babanod – cyflwyno darpariaeth bwndeli babanod i deuluoedd yng Nghymru.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Bydd y gweithgareddau isod yn rhan o'r asesiad cyffredinol sydd ei angen ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn.
• Profion Seicometrig Ar-lein – bydd y rhain yn cynnwys profion rhesymu rhifyddol a llafar, a thrafodaeth gyda seicolegydd. Cewch ddolen i’r profion ar-lein hyn o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl inni lunio’r rhestr fer.
Os ydych wedi cwblhau’r prawf seicometrig ar-lein yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ar gyfer swydd ar yr un radd, ni fydd angen ichi wneud y profion eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio penodol hwn.
• Ymarfer ymgysylltu â staff – cynhelir hwn ar 9 Ionawr 2023. Rhagor o fanylion i ddilyn.
• Cyfweliadau gan banel, a chyflwyniad – mae'r rhain wedi'u trefnu ar gyfer 17 a 19 Ionawr 2023. Bydd y rhain hefyd yn cael eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams. Bydd y cyfweliadau’n para tua 45 munud. Bydd y Panel yn cael adborth ar ôl ichi wneud y profion seicometrig a chymryd rhan yn yr ymarfer ymgysylltu â staff, cyn ichi gael cyfweliad. Bydd eich cyfweliad yn ystyried sut y mae eich sgiliau a'ch profiad fel y maent wedi’u hamlinellu yn eich CV a'ch datganiad personol yn bodloni gofynion y rôl. Bydd ymgeiswyr yn cael o leiaf wythnos o rybudd am bwnc y cyflwyniad. Nodwch y dylid gwneud y cyflwyniadau heb rannu taflenni neu ddefnyddio dyfeisiau electronig oni bai bod hynny’n rhan o addasiad rhesymol. Fodd bynnag, mae croeso ichi ddefnyddio cardiau i brocio’r cof.

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

17ain a 19eg o Ionawr, 2023
SCSRecruitment@gov.wales

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.