Swydd Wag -- Uwch Ddatblygwr SQL

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Tim Datrysiadau Digidol
SEO - £41,700 - £49,370
£40,100 - Gellir cynnig cyflog cychwynnol o hyd at £44,200 ar gyfer ymgeiswyr eithriadol yn seiliedig ar eu sgiliau a'u profiad Nid yw hyn wedi'i warantu o gwbl ac mae'n parhau i fod yn ôl disgresiwn Llywodraeth Cymru.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Cenedlaethol - gweithio o bell yn llawn ar gael
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Y Cefndir

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o oddeutu £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am agweddau allweddol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Mae gweithlu o dros 5,000 o weision sifil yn cefnogi Gweinidogion Cymru mewn swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, Brwsel, a gwledydd eraill dramor.

Caiff blaenoriaethau Llywodraeth Cymru eu hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen. Yr uchelgais cyffredinol yw creu Cymru hunanhyderus, ffyniannus ac iach, a chreu cymdeithas deg. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi pennu blaenoriaethau clir ar gyfer Cymru yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio denu pobl sy'n gallu darparu cymorth a chyngor rhagorol, sy'n gallu ffocysu adnoddau a chanddynt egni ac arbenigedd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi cyd-destun i'n gwaith. 

Mae trawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn hanfodol o ran cyflenwi'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu hangen ac yn eu disgwyl. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n cyflenwi nifer o wasanaethau digidol i bobl a busnesau ar draws Cymru. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth ar ein gwefannau. 

O dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi mwy a mwy o wasanaethau ar-lein. Mae'r Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth ymgynghori ar arbenigedd digidol ac arbenigedd data ar draws Llywodraeth Cymru.

Mae'r Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes yn gyfrifol am oruchwylio addysg uwch a'r sector addysg bellach, addysg ôl-16 ehangach, a’r sector hyfforddiant a sgiliau yng Nghymru, yn ogystal ag ariannu cymwysterau galwedigaethol cydnabyddedig a datblygu polisi cyflogadwyedd. Maent hefyd yn gyfrifol am arwain ar y cyfraniad sy'n cael ei wneud gan y system addysg a hyfforddiant ôl-16 o ran datblygu pobl hynod fedrus ac addysgedig sy’n gallu cael swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda a'u cadw, gan wneud cyfraniad at economi ehangach Cymru a'r gymuned.

 

Y Rôl

Fel Uwch Ddatblygwr SQL, byddwch yn aelod o dîm datblygu meddalwedd mewnol sy’n ddatblygu a chynnal cymwysiadau, cronfeydd data, pecynnau ac adroddiadau mewnol a gefnogir.

Bydd y prif ffocws ar ddatblygu SQL (pecynnau Transact-SQL a SSIS), dadansoddi data, adroddiadau (SSRS), datblygu cronfeydd data a phrofi.

Bydd disgwyl i chi drawsnewid gofynion technegol yn atebion i alluogi darparu cynnyrch. Rhaid i chi ddarparu cymorth i dimau cyflenwi a helpu i ddatrys problemau cymhleth.

Byddwch yn wybodus ar bob agwedd o’r cylch gweithio ystwyth er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n barhaus.

Prif dasgau

  • Defnyddio gwybodaeth dechnegol i gynllunio, creu, profi a dogfennu rhaglenni newydd a rhaglenni diwygiedig o'r fanyleb a ddarparwyd, a hynny yn unol â'r safonau y cytunwyd arnynt.
  • Rheoli'r gwaith o gynllunio, cyflawni a chefnogi swyddogaethau gwybodaeth reoli, gan gynnwys cynllunio, datblygu a theilwra adroddiadau cymhleth gan ddefnyddio sawl ffynhonnell ddata.
  • Dadansoddi'r gofynion busnes fel sail i asesiadau effaith, defnyddio achosion, profi senarios, a defnyddio methodolegau hyblyg i gynnal ffocws cryf ar flaenoriaethau cyflawni, ac ymateb yn gyflym i ofynion sy'n newid.
  • Cynnig cefnogaeth llinell gyntaf (lle na ellir cyflawni gofynion drwy'r ddesg wasanaeth) ac ail linell ar gyfer cymwysiadau, gwasanaethau a phlatfformau hanfodol wrth i broblemau godi o fewn y cytundebau lefel gwasanaeth a sefydlwyd neu drwy gydweithredu â phartneriaid masnachol.
  • Darparu mewnbwn technegol ar gyfer y gweithgareddau datblygu cymwysiadau mwy cymhleth megis gwella perfformiad cronfeydd data, mireinio ymholiadau SQL a strategaethau mynegeio; a chynnig protocolau a safonau datblygu technegol
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid i nodi arferion gorau wrth wneud newidiadau busnes a gweithredu mentrau gwella parhaus, a rheoli sut y caiff yr arferion hynny eu mabwysiadu, yn unol â safonau a pholisïau'r sefydliad.
  • Rheoli a chynnal gwaith i brofi cylch rhyddhau'r cymwysiadau. Rheoli’r cylch profi, drwy gydweithredu â sefydliadau partner a thimau polisi, i sicrhau bod datblygiadau yn bodloni'r anghenion busnes.
  • Sicrhau bod pob elfen nad yw'n ymwneud â gweithredu'r cymwysiadau, ee sicrhau gwybodaeth; safonau'r wefan, yn cydymffurfio â'r system.
  • Defnyddio gwybodaeth dechnegol arbenigol a chyfrannu at ddatblygu a gwella cymwysiadau, gwasanaethau, gweithdrefnau a phrosesau yn barhaus, gan gynnwys creu a chynnal dogfennau.
  • Cynghori uwch reolwyr a rhoi cymorth i'r Uwch Ddatblygwr o ran materion technegol, ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyflawni gwelliannau parhaus a phrosiectau.

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru.  Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gwaith o'i lywio a'i ehangu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a galluoedd ein staff a'u hannog i ddefnyddio pum diwrnod y flwyddyn i ddysgu.  I gefnogi hyn, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd a allai gynnwys:

  • Cysgodi
  • Mentora
  • Dysgu seiliedig ar waith
  • Cymwysterau
  • Coetsio
  • Y Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)

Bod yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o dimau Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraethau eraill yn y DU.

Dyddiad Cau

06/01/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Mae'r sgiliau technegol canlynol  yn HANFODOL i lwyddo yn y rôl hon.  Sicrhewch eich bod yn atodi CV sy'n dangos eich gallu yn y sgiliau hyn.

  • Microsoft SQL Server 2016 ymlaen (rheoli, ffurfweddu, amgryptio, gwneud copïau wrth gefn, swyddi ac ati.)
  • Datblygu Transact-SQL cymhleth gan gynnwys Gweithdrefnau wedi'u Storio, Safbwyntiau a Swyddogaethau
  • Dylunio a gweinyddu cronfa ddata
  • Gwasanaethau Adrodd SQL Server (SSRS) / Gwasanaethau Integredig SQL (SSIS)
  • Rheoli Ffynhonnell (ee. GIT)
  • Profiad datblygu IDE fel Visual Studio.NET (SQL Server Data Tools) a SQL Server Management Studio.
  • Profiad o weithio gyda fframwaith hyblyg fel SCRUM
  • Profiad o weithio a rhyddhau mewn amgylcheddau lluosog (Dev PreProd, Prod)

Proses Asesu

Drwy gydol y broses asesu gyfan, caiff ymgeiswyr eu hasesu yn erbyn yr Ymddygiadau o’r fframwaith Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) a Phroffil Llwyddiant  y Gwasanaeth Sifil.  Anwybyddwch unrhyw gyfeiriadau y gallech eu gweld yn ymwneud â chymwyseddau o fewn ein system ymgeisio. Dyma'r ymddygiadau a gaiff eu hasesu drwy'r broses hon:

  • Cyfathrebu a Dylanwadu
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
  • Newid a Gwella
  • Pontio'r bwlch rhwng technegol a'r annhechnegol
  • Gwneud ac arwain penderfyniadau
  • Troi problemau busnes yn gynlluniau technegol
  • Deall y cyd-destun cyfan

 

Caiff eich cais ei asesu mewn dau gam:

  1. Bydd proses sifftio gyntaf yn cael ei chynnal yn erbyn eich CV a'r sgiliau hanfodol sy'n benodol i'r swydd. Fel rhan o'ch cais, gofynnir i chi lanlwytho copi o’ch CV. Ni ddylai od yn hirach na 2 ochr papur A4. Bydd unrhyw beth dros 2 ochr A4 yn cael ei ddiystyru ac ni fydd yn cael ei ystyried fel rhan o'r sifft. Tynnwch eich enw a'ch cyfeiriad o'ch CV i'n galluogi i gynnal sifft ddienw.
  2. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi pasio'r sifft gychwynnol i gymryd rhan mewn Ymarfer Technegol a Chyfweliad.

Darperir rhagor o wybodaeth am y camau hyn ar ôl y cam sifftio.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amryw o fanteision i'w chyflogeion, gan gynnwys:

  • Cymorth i wella neu ennill sgiliau Cymraeg
  • Trafodaethau cyson ynghylch datblygiad a'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn y swydd ac i fagu hyder
  • Ychwanegiadau blynyddol at gyflog, sy'n caniatáu i chi gyrraedd brig eich graddfa gyflog o fewn 3-4 blynedd
  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol, (a 10 diwrnod gwyliau cyhoeddus neu fraint)
  • Absenoldeb rhiant hael, gan gynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i weithwyr cymwys
  • Cynllun Pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Talebau Gofal Plant, yn arbed hyd at £933 y flwyddyn
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith: dewiswch feic newydd sbon sy'n costio hyd at £2000, gan arbed o leiaf 32%
  • Blaenswm Cyflog: gwnewch gais am flaenswm cyflog Nadolig, ar gyfer cyfarpar cyfrifiadurol neu ar gyfer Blaendaliadau Tenantiaeth
  • Benthyciadau Tocyn Tymor
  • Polisi Oriau Hyblyg
  • Y pecyn TGCh diweddaraf
  • Yswiriant marwolaeth mewn swydd
  • Cynllun Car Gwyrdd

Y Rhestr Wrth Gefn

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus sydd wedi cyrraedd yr isafswm sgôr ar draws yr holl gymwyseddau  gofynnol yn cael cyfle i fod ar restr 'wrth gefn' Llywodraeth Cymru am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi'r canlyniadau. Os bydd swyddi ychwanegol yn cael eu creu neu os bydd swyddi presennol yn dod yn wag yn ystod yr adeg hon, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig y rôl i'r ymgeisydd hwnnw ar y rhestr wrth gefn sydd â'r sgôr uchaf. Os bydd yn gwrthod y swydd, gall Llywodraeth Cymru gynnig y swydd i'r ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf ac yn y blaen.


Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd ag amhariadau neu gyflyrau iechyd neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pob aelod o staff (neu aelodau staff newydd posibl) berfformio ar ei orau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd (“amhariad corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd”).

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw berson anabl os yw ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi roi tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y swydd a'ch bod yn meddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau a ddiffinnir yn rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogaeth a datblygiad gyrfa pobl anabl.

Os oes amhariad neu gyflwr iechyd yn effeithio arnoch, neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a bod angen ichi drafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu os hoffech drafod sut y byddwn yn eich cefnogi os bydd eich cais yn llwyddiannus, anfonwch e-bost at desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru cyn gynted â phosibl a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich 'ch anghenion ac ateb eich cwestiynau.


Gofynion o ran y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog ac mae sgiliau Cymraeg yn cael eu hystyried yn ased i'r sefydliad. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu Cymraeg, datblygu eu Cymraeg a defnyddio eu Cymraeg yn y gweithle. 

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol yn y rôl hon fel rhan o’r diwylliant o gynyddu dwyieithrwydd yn Llywodraeth Cymru – credwn hefyd fod technoleg yn bwysig wrth gyflawni ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Os hoffech wella eich sgiliau Cymraeg gallwn gynnig diwylliant cefnogol a chyfeillgar i'w datblygu, wedi'i gefnogi gan gyfleoedd i ddysgwyr ar bob lefel ddysgu naill ai ar eu pen eu hunain neu gyda chydweithwyr mewn grwpiau anffurfiol.

Sylwch nad yw hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer y rôl hon ac ni fydd disgwyl i chi ddangos hyn yn ystod yr asesiad.


Secondiadau

Os ydych eisoes yn gyflogedig yn y sector cyhoeddus, gellir ystyried secondiad gan eich cyflogwr presennol.

Bydd ymgeiswyr sy'n dymuno sicrhau secondiad drwy'r cyfle hwn yn symud ar draws, felly byddent yn gallu aros ar yr un cyflog ag a gânt gan eu cyflogwr. Dim ond mewn achosion eithriadol, e.e. lle byddai cyfle secondiad yn cyfateb i ddyrchafiad dros dro o ran cyflog, y gallai fod hyblygrwydd.

Yn y sefyllfa hon, efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn barod i'r Secondai gael ei dalu ar isafswm y Band Cyflog ar gyfer Gradd y penodiad, ond byddai angen i gyflogwr yr Secondai gytuno â thelerau'r penodiad a'r cynnydd dros dro yng nghyflog y gweithiwr am gyfnod y secondiad.

 

Ein Hymrwymiad at Gydraddoldeb

Gan nad oes cynrychiolaeth ddigonol yn y sefydliad, caiff ymgeiswyr sy'n datgan eu bod yn anabl neu o gefndir du neu ethnig leiafrifol symud ymlaen yn awtomatig i'r Porth Asesu os yw eu cais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol. Dim ond os bydd ymgeiswyr yn nodi'r wybodaeth hon yn eu ffurflen gais y bydd yn bosibl i ni wneud hyn. Bydd gwybodaeth am ymgeiswyr o gymunedau ethnig lleiafrifol yn cael ei chymryd o'r ffurflen monitro cydraddoldeb ac mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflen hon fel rhan o'ch cais.

 

Addasiadau recriwtio

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'r model cymdeithasol o anabledd ac i wneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar unrhyw rwystrau yn y broses recriwtio i staff sydd â nam, cyflwr iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Gallwn wneud addasiadau i unrhyw ran o'r broses recriwtio (y cais yn ogystal â'r ganolfan asesu) a byddwn yn sicrhau bod ymgeiswyr anabl yn cael eu paru â rolau lle gellir gwneud addasiadau i'r gweithle. Gallwn ddarparu cyngor i staff sy'n meddwl y gallai fod angen addasiadau rhesymol arnynt, ond sydd angen gwybod mwy am y broses asesu a pha fath o addasiadau y gallem eu gwneud i sicrhau proses asesu deg.

Os gwyddoch (neu os credwch) fod angen unrhyw fath o addasiad rhesymol arnoch er mwyn gwneud eich cais, cysylltwch â'r tîm recriwtio drwy shellservicedesk@gov.walesmailto:mark.hodson@llyw.cymru cyn gynted â phosibl i drafod unrhyw addasiad gofynnol.

Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, byddwn yn cysylltu â'r holl ymgeiswyr i roi manylion am sut y gall ymgeiswyr anabl ofyn am a dod i gytundeb ar unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnynt ar gyfer y digwyddiad asesu. Bydd hyn yn cynnwys y cyfle am sesiynau cyngor 1-1 i ymgeiswyr sy'n ansicr a oes angen addasiadau rhesymol neu pa fath o addasiadau y gallent neu y dylent ofyn amdanynt er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwneud eu gorau.

Yn y cyfamser, mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr anabl am roi sylw i Atodiad A i'r Canllawiau i Ymgeiswyr (dolen), lle mae ein Ffurflen Addasiadau yr ydym yn ei threialu.

Pwynt cyswllt ar gyfer rhagor o wybodaeth  shellservicedesk@gov.walesmailto:mark.hodson@llyw.cymru

Mark Hodson - shellservicedesk@gov.wales - 07971 765932

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.