Swydd Wag -- Pennaeth Economeg Iechyd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Trysorlys Cymru
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
£61,090 - £71,475
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Arall
Secondiad neu parhaol
3 Blwyddyn os yw'n secondiad / Parhaol os nad yw'n secondiad
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yn gwario tua hanner ei chyllideb ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae nifer o ffactorau'n gyrru'r cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cynnydd yn y boblogaeth, a'r ffaith bod canran gynyddol ohoni’n hŷn. Hefyd, mae triniaethau newydd a drud ar gael, ac mae cleifion yn disgwyl cael mynediad atynt. Ar y llaw arall, yn ystod y degawd diwethaf, mae cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru wedi lleihau'n sylweddol mewn termau real. Bydd y pwysau ar y gyllideb yn parhau'n ddifrifol o drwm am flynyddoedd i ddod. Yn erbyn y cefndir hwn, mae'n hanfodol recriwtio economegydd sy'n arbenigo mewn iechyd i roi cyngor economaidd arbenigol ar ymyraethau polisi i gydweithwyr ym maes polisi iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae nifer o ddibenion i rôl y Pennaeth Economeg Iechyd. Y diben mwyaf uniongyrchol yw rhoi cyngor ar economeg iechyd i Weinidogion Llywodraeth Cymru ac i'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, er mwyn cyflawni amcanion y rhaglen Cymru Iachach: ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (Cliciwch ar y ddolen hon: https://www.basw.co.uk/systeym/files/resources/180608healthier-wales-mainen.pdf). Wrth wneud hyn, bydd y Pennaeth Economeg Iechyd yn helpu i lywio'r gwaith o ddyrannu adnoddau mewn ffordd sy'n sicrhau canlyniadau effeithiol a theg i ddinasyddion Cymru, yn ogystal â gwerth am arian i raglenni iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’i hymyraethau polisi.

Prif dasgau

Mae'r prif dasgau canlynol yn berthnasol i swydd y Pennaeth Economeg, sydd newydd ei chreu, a'u nod yw darparu arweinyddiaeth ym meysydd dadansoddi economeg iechyd.

 

-Y Rhaglen Drawsnewid a'r Gronfa Trawsnewid 

Darparu cyngor proffesiynol ar economeg i'r Rhaglen Drawsnewid, gan gynnwys datblygu pecynnau a methodolegau economaidd i werthuso'r defnydd arfaethedig o'r Gronfa Trawsnewid, sef cronfa sy'n cael ei thargedu at helpu i weithredu'r cynllun "Cymru Iachach", yn enwedig modelau newydd o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor.

 

-Gwariant iechyd a gofal cymdeithasol 

Datblygu dull gwerthuso economaidd ar gyfer ystyried perthynas, gwerth a chydbwysedd rhwng gwariant iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwerthuso modelau gofal newydd a threfniadau newydd ar gyfer cyllido gofal cymdeithasol (talwyr).

 

-Symud gwasanaethau 

Datblygu'r achos economaidd dros symud gwasanaethau o ysbytai i’w darparu yn hytrach drwy ddull gweithredu'n seiliedig ar y gymuned, a datblygu methodolegau gwerthuso i asesu a monitro'r manteision. 

 

-Atal 

Datblygu'r achos economaidd o blaid symud y pwyslais o drin i atal, gan greu llinell sylfaen ar gyfer asesu'r ddarpariaeth atal, a'r achos dros fuddsoddi ynddi.

 

-Adolygiad o sut y dyrennir adnoddau 

Datblygu fformiwla newydd ar gyfer dyrannu adnoddau'n seiliedig ar anghenion poblogaeth, gan gynnwys y pwysoliadau anghenion sy'n gysylltiedig ag oedran a rhyw, ac anghenion cymharol (gan gynnwys amddifadedd ac anghydraddoldebau iechyd); ac arwain y gwaith o gynnal gwerthusiadau ac asesiadau economaidd o gostau-dros-ben gwasanaethau gwledig.

 

-Gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth 

Gweithio gyda'r Arweinydd Clinigol a'i gefnogi er mwyn darparu gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ddulliau o fesur canlyniadau a gwerthusiadau economaidd, gan weithio gyda'r byd diwydiant er mwyn caffael yn seiliedig ar werth. Bydd hynny'n cynnwys gwerthuso tendrau'n seiliedig ar gymhareb yr ansawdd/pris gorau, er mwyn datblygu a hyrwyddo'r defnydd o ddulliau dyrannu effeithlon sy'n sicrhau gwerth o fewn GIG Cymru.

 

-Y Rhaglen Diwygio Contractau Gofal Sylfaenol 

Arwain y gwaith o gynnal dadansoddiadau a gwerthusiadau economaidd o'r gwahanol gyfleoedd a pheryglon a allai ddeillio o'r rhaglen diwygio contractau ar draws y pedwar proffesiwn lle y rhoddir contractau (meddygon teulu, deintyddion, offthalmolegwyr, a fferyllwyr). Mae hyn yn ymwneud â'r llifoedd ariannol i bractisau meddygon teulu, practisau deintyddol, a chlystyrau (gan gynnwys dyrannu cyllid; gan ystyried a rhoi sylw yn benodol i faterion gwledig, anghydraddoldebau iechyd, practisau un meddyg, pwysoliadau'n seiliedig ar boblogaeth, amddifadedd, a modelau busnes cynaliadwy).

 

-Y GIG yn buddsoddi yn economi Cymru 

Cynnal gwerthusiad economaidd o sut mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn darparu gwerth allanol yng Nghymru, gan gynnwys cyfranogiad economaidd, datganiad o werth ar gyfer prifysgolion a phartneriaid ym maes diwydiant, caffael o fusnesau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, manteision cynhyrchiant i gyflogwyr o ganlyniad i roi sylw i salwch meddyliol a chorfforol, manteision i rwydweithiau cymorth teulu a ffrindiau a gofalwyr nad ydynt yn cael eu talu.

 

-Cyngor Economaidd 

Darparu mewnbwn economaidd rheolaidd ar draws y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i gynnwys cyngor ar y canlynol:

  • gwerthuso'r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig blynyddol a gyflwynir gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG. 
  • gwerthuso achosion busnes cyfalaf (ceisiadau sy'n defnyddio'r model pum achos) 
  • gwerthuso strategaethau clinigol a strategaethau ar gyfer yr ystâd, yn ogystal â strategaethau eraill 
  • datblygu polisi iechyd a gofal cymdeithasol 
  • prosesau cyrff sy'n adolygu tâl – darparu tystiolaeth economaidd i gyrff sy'n adolygu tâl, a hefyd dystiolaeth am effaith economaidd eu hargymhellion

Cyfleoedd datblygu

Swydd newydd yw swydd y Pennaeth Economeg Iechyd yn Llywodraeth Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddangos sut y gall economeg iechyd gyfrannu at yr ystod lawn o ymyraethau polisi iechyd. Bydd yn cydweithio â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, a bydd yn aelod arbenigol o amryw o fyrddau polisi dylanwadol y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gallai cwmpas maes gwaith economeg iechyd ehangu rywbryd yn y dyfodol, a bryd hynny bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus weithredu fel swyddog arweiniol.

 Byddem yn croesawu ceisiadau gan academyddion ac ymgeiswyr sy'n gweithio yn ymddiriedolaethau'r GIG neu gyrff cyfatebol mewn swydd sy'n ymwneud ag economeg iechyd, ac sydd â diddordeb mewn gweithio ar secondiad am dair blynedd.    

Dyddiad Cau

26/07/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

1.Gwneud Penderfyniadau Effeithiol -

Dod i gasgliadau rhesymol ar sail amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth, a chyflwyno’r casgliadau hynny – gan allu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan nad yw’r manylion yn glir. 

2. Arwain a Chyfathrebu - Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau. 

3. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt. 

4. Sicrhau Gwerth am Arian - Pwyso a mesur blaenoriaethau a manteision gwahanol gamau a gweithgareddau er mwyn ystyried sut i wireddu canlyniadau cost-effeithiol.


Meini Prawf Penodol i'r Swydd:

  1. Rhaid bod gennych hanes blaenorol, y gellir darparu tystiolaeth yn ei gylch, o gyflawni swydd economegydd proffesiynol, yn ogystal â gradd 2:1 a/neu MSc mewn economeg, a chymhwyster ôl-radd mewn economeg iechyd. Byddai 5 mlynedd neu fwy o brofiad o weithio ym maes economeg iechyd neu mewn cefndir tebyg yn ddymunol. 
  2. Rhaid ichi ddangos dealltwriaeth o berthynas, gwerth a chydbwysedd rhwng gwariant iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys sut mae gwerthuso modelau gofal newydd a threfniadau cyllido newydd ar gyfer gofal cymdeithasol (talwyr). 
  3. Rhaid ichi ddangos dealltwriaeth o'r achos economaidd dros symud gwasanaethau o ysbytai i’w darparu yn hytrach drwy ddull gweithredu'n seiliedig ar y gymuned, a hefyd ddealltwriaeth o'r methodolegau gwerthuso y dylid eu defnyddio i asesu a monitro'r manteision a ddaw o hynny.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Alun Lloyd, 03000 256509 / Jarlath Costello, 03000 251459

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.