Swydd Wag -- AGC - Uwch-reolwr Cofrestru a Gorfodi

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£48,650 (Cynnigir tal o hyd at pwynt 3 (£51,150) i ymgeisydd sydd yn cynnig sgiliau hanfodol, dealltwriaeth a phrofiad ar lefel uchel
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gogledd Cymru, Y De-ddwyrain, Y De-orllewin, Lleoliad arall
Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd deithio ledled Cymru a bydd yn gweithio yn un o Swyddfeydd AGC: Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno.
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. Mae rheoleiddio a gorfodi yn swyddogaethau allweddol o ran darparu gwasanaethau rheoleiddiedig diogel ac o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru. Mae rôl yr Uwch-reolwr – Cofrestru a Gorfodi yn hollbwysig o ran sicrhau mai dim ond gwasanaethau dibynadwy a diogel sy'n cael eu cofrestru a bod camau gweithredu cadarn yn cael eu cymryd pan fydd gwasanaethau yn methu â darparu gofal diogel. 

Bydd deiliad y swydd yn rheolwr llinell ar Reolwyr Tîm (MB1) a bydd yn helpu'r Pennaeth Cofrestru a Gorfodi i sicrhau y darperir gwasanaethau cyson, effeithiol ac effeithlon o ansawdd uchel. 

Mae AGC yn ymgymryd â rhaglen o newid sylweddol sy'n golygu newid mewn strwythurau a chyflwyno gwasanaethau digidol. Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at agweddau allweddol ar yr agenda newid ac yn eu cefnogi. 

Bydd deiliad y swydd yn atebol i'r Pennaeth Cofrestru a Gorfodi.

Prif dasgau

  • Darparu arweinyddiaeth a chymorth rheoli llinell i'r tîm cofrestru a gorfodi, gan gynnwys arolygwyr a staff cymorth arolygu.   Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb rheolwr llinell uniongyrchol dros Reolwyr Tîm (MB1).
  • Arwain a bod yn gyfrifol am berfformiad, ansawdd ac amseroldeb cyffredinol pob agwedd ar waith cofrestru a gorfodi yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau y rheolir adnoddau a staff yn y tîm Cofrestru a Gorfodi yn gadarn a datblygu camau unioni a'u rhoi ar waith os bydd angen.
  • Sicrhau y caiff gwaith y tîm Cofrestru a Gorfodi ei gyflawni i safon uchel, mewn ffordd amserol a bod penderfyniadau'n cael eu cyfleu yn effeithiol.
  • Arwain y gwaith o sicrhau y caiff trefniadau sicrhau ansawdd a pherfformiad cadarn eu rhoi ar waith yn effeithiol a chyfrannu at y broses o ddatblygu a gwella trefniadau o'r fath.
  • Gwneud penderfyniadau o ran rheoli achosion a gorfodi yn unol â'r cyfrifoldebau sydd wedi'u dirprwyo a bennir yng nghanllawiau sicrhau gwelliant a gorfodi AGC.
  • Gweithio'n agos gydag uwch-reolwyr yn y tîm Arolygu Awdurdodau Lleol er mwyn rhannu gwybodaeth.
  • Sicrhau trefniadau cadarn o ran atebolrwydd, cydymffurfiaeth a goruchwyliaeth rheolwyr o'r tîm.
  • Arwain y gwaith o ddarparu cyngor, cymorth, gwybodaeth ac adroddiadau i'r Pennaeth Cofrestru a Gorfodi yn ôl yr angen.
  • Paratoi dogfennau briffio ar gyfer Gweinidogion a'r Uwch-dîm Rheoli mewn perthynas ag achosion penodol.
  • Datblygu ac ymgorffori ymarfer cofrestru a gorfodi cadarn ac effeithiol ym mhob rhan o AGC, gan sicrhau bod canllawiau ac adnoddau gorfodi ar waith, yn addas at y diben, yn cael eu gwerthuso ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
  • Meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith effeithiol ag asiantaethau rheoleiddio a gorfodi cenedlaethol a rhanbarthol eraill a chomisiynwyr gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, NMC, yr Heddlu, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Estyn ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
  • Helpu staff gydag achosion cymhleth ac, yn ôl y gofyn, gadeirio unrhyw gyfarfodydd perthnasol ac ymgymryd ag unrhyw drafodaethau â darparwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill.
  • Sicrhau bod y staff o fewn y tîm yn ymwybodol o bob gwasanaeth sy'n peri pryder a bod cynlluniau gweithredu yn cael eu datblygu, yn aros yn gyfredol ac yn fanwl. Cydgysylltu a goruchwylio'r trefniadau llywodraethu a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â sicrhau gwelliant a gorfodi, gan gynnwys goruchwylio unrhyw achosion troseddol.
  • Cydgysylltu ymatebion i sylwadau yn unol â chanllawiau AGC, gan gynnwys ystyried sylwadau yn unol â'r rota y cytunwyd arno.
  • Goruchwylio'r gwaith o ddyrannu gweithgarwch cofrestru, sicrhau gwelliant a gorfodi ledled Cymru, gan sicrhau llwyth gwaith teg.
  • Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau'r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.
  • Sicrhau bod rhaglen ddatblygu ar gyfer y staff mewn perthynas â chofrestru a gorfodi fel bod arolygwyr a staff cymorth arolygu yn gymwys, yn hyderus ac yn ddibynadwy.
  • Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad eich hun a'ch datblygiad proffesiynol eich hun a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses rheoli perfformiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â'r Pennaeth Cofrestru a Gorfodi.
  • Cynrychioli'r sefydliad ar lefel uwch yn ôl yr angen.
  • Dirprwyo ar gyfer y Pennaeth Cofrestru a Gorfodi yn ôl yr angen.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

01/08/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Strategol – Pennu Cyfeiriad:

Newid a Gwella – Adnabod arwyddion bod pethau'n mynd o chwith a darparu ymatebion pendant i heriau sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau.

 

Strategol – Pennu Cyfeiriad:

Gwneud penderfyniadau effeithiol – Dod i gasgliadau rhesymol at sail amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth a chyflwyno'r casgliadau hynny – y gallu i weithredu neu benderfynu hyd yn oed pan na fydd manylion yn glir.

 

Clwstwr Pobl – Ymgysylltu â Phobl

Arwain a Chyfathrebu – Bod yn weladwy i staff a rhanddeiliaid a chynnal gweithgareddau yn gyson i ymgysylltu â phobl sy'n ymwneud â'r maes gwaith a meithrin eu hyder.

 

Clwstwr Perfformiad – Cyflawni Canlyniadau

Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd – Creu cyfleoedd rheolaidd i staff a chwsmeriaid helpu i wella ansawdd gwasanaeth a dangos cyfranogiad.


Meini Prawf Penodol:

  • Unigolyn â gradd berthnasol neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol cydnabyddedig, megis Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol), cymhwyster nyrsio neu ofal perthynol i iechyd neu gymhwyster addysgu ynghyd â phrofiad o arwain a rheoli newid a llywio gwelliant o fewn sefydliad gofal cymdeithasol neu iechyd.
  • Tystiolaeth amlwg o reoli staff, rheoli perfformiad ac adnoddau a phrosiectau er mwyn sicrhau y darperir gwasanaethau yn effeithiol.
  • Meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth berthnasol mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd deithio ledled Cymru a bydd yn gweithio yn un o Swyddfeydd AGC: Merthyr Tudful, Caerfyrddin neu Gyffordd Llandudno.
Sarah Cullen - Sarah.Cullen1@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.