Swydd Wag -- Cwch Patrolio Pysgodfeydd - Swyddog Pysgodfeydd a Chriw Llong x3

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y Môr a Physgodfeydd
EO - £26,900 - £30,610
23,625
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gwahanol leoliadau
Conwy & Milford Haven
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cangen Gweithrediadau Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am bob agwedd ar reoli pysgodfeydd, pysgota a chydymffurfiaeth yn ymwneud â physgodfeydd. Mae’r maes hwn yn dod â staff i gysylltiad uniongyrchol â’r diwydiant pysgota, cymunedau arfordirol a rhanddeiliaid.

Prif bwrpas y swydd hon fydd gorfodi ar y môr. Bydd hyn yn golygu dod yn Swyddog Pysgodfeydd Gwarantedig. Mynd ar longau i gynnal asesiad cydymffurfio yn erbyn y ddeddfwriaeth berthnasol.

Fel rhan o dîm bach, byddwch yn helpu i orfodi deddfwriaeth Ewrop, y DU a Chymru mewn perthynas â physgodfeydd - gan gynnwys monitro'r pysgod sy’n cael eu dal mewn porthladdoedd lleol, olrhain pysgod sy'n cael eu gwerthu, tracio llongau, cyflwyno ffurflenni statudol, casglu tystiolaeth ar gyfer erlyniadau a mynd i achosion llys. Bydd gofyn ichi hefyd gynllunio ar gyfer pysgodfeydd rhynglanwol masnachol (e.e. hela cocos a chregyn gleision â llaw) a'u gorfodi.

Prif dasgau

• Monitro, rheoli a chadw llygad ar reoliadau Pysgodfeydd y CE, y DU a Chymru yn unigol ac fel rhan o dîm bychan.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â phob agwedd ar Reoliadau Rheoli'r UE, gan gynnwys archwilio cychod yn y porthladd ac ar y môr, asesu'r ddalfa yn unol â chyfyngiadau'r cwota, archwilio offer a thechnoleg pysgota.
• Gweithredu fel Llywiwr Cychod Aer Caled (RIB) wrth gyflawni dyletswyddau gorfodi yn ôl yr angen.
• Helpu gyda dyletswyddau ‘gwylio' a gweithgareddau eraill ar y llong fel bo’r angen.
• Sicrhau bod modd olrhain pysgod i'r pwynt gwerthu cyntaf a chasglu data perthnasol.
• Dadansoddi data y diwydiant pysgota electronig sy'n cael ei greu gan longau pysgota, pysgod sy'n cael eu dal, prynwyr ac ati i sicrhau cydymffurfiaeth, effeithiolrwydd a chysondeb.
• Casglu a rhannu gweithgarwch a gwybodaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau pysgota ar yr arfordir.
• Cynnal archwiliadau, yn unol â Pace (Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984), o droseddau sy'n gysylltiedig â physgodfeydd gyda'r bwriad o baratoi tystiolaeth i'w chyflwyno i gyfreithwyr ac o bosibl darparu tystiolaeth yn y Llys.
• Cysylltu’n rheolaidd â’r diwydiant pysgota mewn perthynas â materion cydymffurfio ac â mentrau ar y cyd.
• Cysylltu gyda rhannau eraill o Lywodraeth Cymru, awdurdodau gorfodi ac ati i sicrhau bod cysondeb o ran cyflenwi a datblygu polisïau.
• Cynnal patrolau ar y môr fel y bo’r angen, gan weithredu fel swyddog gorfodi ar Longau Patrolio Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru.
• Cymryd camau gorfodi yn erbyn gweithgareddau pysgota masnachol ar y lan ac ym mhysgodfeydd cregyn rhynglanwol masnachol ar hyd arfordir Cymru.
• Cynorthwyo cydweithwyr gwyddonol gydag ymarferion samplo a chasglu data samplo biolegol.

Unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n cyd-fynd â gradd y swydd yr ydych yn cael cyfarwyddyd i’w cyflawni.

Rhoddir hyfforddiant llawn ym mhob agwedd ar y rôl ac mae hwn yn gyfle unigryw i unigolion ddatblygu sgiliau technegol ar lefel uwch a sgiliau rhyngbersonol cadarn sy'n drosglwyddadwy.

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn cael cyfle i ddatblygu ei sgiliau arwain ac i ddatblygu rhwydweithiau y tu mewn a'r tu allan i’r sefydliad.  Mae cyfnod heriol o’n blaenau a bydd y rôl yn rhoi digon o gyfle i reoli a gweithredu newid.

Dyddiad Cau

25/05/18 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Y Clwstwr Strategol - Gosod y Trywyd
Canolbwyntio ar nod a bwriad cyffredinol yr hyn y maen nhw’n ceisio ei gyflawni, ac nid ar y dasg yn unig.

Y Clwstwr Pobl – Ymwneud â Phobl
Bod yn hyderus wrth gynnal trafodaethau neu gyfweliadau anodd.

Sicrhau canlyniadau - Grymuso Pobl
Dal ati i fod yn bositif a chanolbwyntio ar wireddu canlyniadau hyd yn oed os bydd pethau’n mynd o chwith.

Sicrhau canlyniadau - Grymuso Pobl
Bod yn atebol am fynd i’r afael â phroblemau yn y maes y maen nhw’n gyfrifol amdano.


Meini Prawf Penodol

1. Byddai hefyd yn fanteisiol i ddeiliad y swydd fod wedi dangos y canlynol neu'n gallu dangos y canlynol;

• Profiad yn y diwydiant pysgota; neu
• Cymwysterau neu brofiad morol a physgodfeydd perthnasol eraill; neu
• Profiad o waith cydymffurfio a gorfodi.

Nodwch y cymwysterau a'r profiadau sydd gennych sy'n berthnasol i'r meini prawf uchod.

2. Mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd feddu ar drwydded yrru lawn.

3. Byddai cymhwyster gyrru Cwch Pŵer Uwch neu gyfatebol yn ddymunol.
    Nodwch os oes gennych unrhyw gymhwyster ym maes trin cychod.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd y swydd hon yn dod o dan gontract Oriau Blynyddol Llywodraeth Cymru a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i staff weithio nifer penodol o oriau’r flwyddyn (1924 awr) ond bydd angen gweithio mwy o oriau ar adegau penodol a llai ar adegau eraill.

Disgwylir i staff fynd ar batrôl am 3-4 niwrnod ar y môr yn rheolaidd a hefyd i weithio oriau anghymdeithasol.


Mae’r rôl yn gofyn am arweinyddiaeth gadarn, gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu yn ogystal â barn gadarn, hunan-gymhelliant a meddwl chwim.

• Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio oriau anghymdeithasol yn rheolaidd, gan gynnwys gyda’r nos ac ar y penwythnos.
• Lle y bo’n bosibl, mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru gadw rhestr wrth gefn o ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swyddi gwag yn y dyfodol. Bydd y rhestr yn agored am 12 mis yn dilyn y penodiad cyntaf.
• Oherwydd prosesau recriwtio penodol y swyddi hyn, bydd gofyn i'r ymgeiswyr aros yn eu rôl benodol. Er mwyn cael symud y tu allan i'r rôl, byddai'n rhaid i'r ymgeiswyr lwyddo ym mhroses asesu Llywodraeth Cymru ar gyfer y radd dan sylw.
• Mae'n rhaid i ddeiliad y swydd hon fod yn ffit yn gorfforol. Bydd angen i ddeiliad y swydd basio prawf meddygol bob dwy flynedd.
• Maen prawf penodi yw y bydd ymgeisydd wedi pasio ENG1 neu brawf meddygol ML5 yn llwyddiannus.
Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £23,625 a £27,400 i ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar eu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a perfformiad yn y cyfweliad.

Mark Pole - mark.pole@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.