Swydd Wag -- Pennaeth y Polisi Cyflawnwyr Trais

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Benthyciad
Dim ond i’r rheini sydd eisoes yn weision sifil y mae’r swydd hon yn agored, a byddant yn dod i Lywodraeth Cymru ar fenthyciad 2 flynedd, ac yn dychwelyd i’w Hadran ar ddiwedd y cyfnod benthyg.
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.

I’w gadarnhau


Pwrpas y swydd

Rydym yn awyddus i ddefnyddio arbenigedd staff ar draws y Gwasanaeth Sifil er mwyn cael effaith ymarferol a phositif yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Y gwerthoedd sydd wedi’u nodi yng Nghod y Gwasanaeth Sifil sy’n ein cymell bob un: hygrededd, gwrthrychedd, gonestrwydd a didueddrwydd. Yn ogystal â’r cod, mae gennym ein gwerthoedd a’n disgwyliadau ein hunain, sy’n cwmpasu ein ‘ffordd Gymreig’ o weithio, gan adlewyrchu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ei wybodaeth a'i brofiad arbenigol yn y maes (ar lefel strategol a gweithredol) ynghyd â sgiliau arwain i ddatblygu dull cydgysylltiedig ac integredig, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, o fynd i'r afael â throseddu yng Nghymru. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, a rhanddeiliaid allanol allweddol fel Pennaeth y Polisi Cyflawnwyr Trais yn y meysydd blaenoriaeth perthnasol:

  • Ffrwd waith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol fframwaith Bwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru i gefnogi newid positif ar gyfer y rheini sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru, 2018-23.
  • Y glasbrintiau ar gyfer y system cyfiawnder ieuenctid a throseddu ymhlith menywod (2019-2023), sy'n nodi dull uchelgeisiol ar draws systemau cyfan o gefnogi plant, pobl ifanc a menywod i fyw bywydau di-drosedd, cadarnhaol ac iach, gan wella lefelau lles a gwneud cymunedau yn fwy diogel.

Prif dasgau

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 

Bod yn Brif Swyddog Cyfrifol ar ffrwd waith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol fframwaith Bwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru i gefnogi newid positif ar gyfer y rheini sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru, 2018-23. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Cadeirio grŵp amlasiantaethol ar lefel Cymru gyfan, gan sicrhau bod yna gynrychiolaeth briodol o Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, heddluoedd, Swyddfeydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, y trydydd sector a rhanddeiliaid allweddol eraill, a chyfraniadau ystyrlon.
  • Goruchwylio’n strategol ar weithgarwch gorchwyl a gorffen amlasiantaethol i gyflawni amcanion y ffrwd waith drwy weithio mewn partneriaeth. 
  • Bod yn gyfrifol am oruchwylio rhwydwaith rhannu arferion effeithiol ar gyfer gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru, i wella sgiliau darparwyr, gan gynnal digwyddiadau rheolaidd i rannu datblygiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol o ran gwaith ymchwil ac arferion.
  • Cyflwyno adroddiadau i Fwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru a Byrddau Rheoli Rhaglenni er mwyn cyfleu prif bwyntiau yn ôl y gofyn, ynghyd â diweddariadau i Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan, tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a rhwydweithiau eraill.
  • Darparu arbenigedd ymchwil ymarferol mewn perthynas â chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar banel IRAP (y Panel Ymchwil a Dadansoddi Integredig).

Arwain y gwaith parhaus o weithredu Safonau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan sicrhau dull cyson o ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol o ansawdd uchel i'r rhai sydd mewn perygl o gyflawni’r troseddau hyn.

Darparu ymgynghoriaeth ad hoc i ranbarthau ar gyflawni amcan 3 strategaeth genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, gan gynghori ar ddefnydd priodol o adnoddau, datblygu gwasanaethau, dulliau effeithiol o ddadansoddi anghenion a mapio gwasanaethau, ac ati. 

Gweithio gyda chomisiynwyr a chyrff ariannu i ddylanwadu ar y cyllid a neilltuir ar gyfer gwasanaethau diogel ac effeithiol, seiliedig ar dystiolaeth, sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Gall hyn gynnwys Swyddfa Gartref y DU, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, y Comisiynydd Cam-drin Domestig, y Loteri Fawr, ac ati.

Defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd i weithredu fel 'cyfaill beirniadol' i gydweithwyr yn y gwasanaeth sifil a phartneriaid allanol, gan nodi arferion aneffeithiol a chynghori ar welliannau i wasanaethau (e.e. mewn perthynas â Drive), arwain gweithgarwch archwilio/sicrhau ansawdd a digwyddiadau cysylltiedig am wersi a ddysgwyd ar lefel ranbarthol, genedlaethol (gan gynnwys yn Lloegr) a rhyngwladol. 

Cynnal, goruchwylio a chomisiynu gwaith ymchwil (i safon Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth y gellir ei gyhoeddi) i gefnogi dull o weithio gyda chyflawnwyr trais sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Gall hyn gynnwys datblygu manylebau ymchwil wedi'u costio a goruchwylio'r gwaith tendro a rheoli contractau cysylltiedig.

Gweithio ar draws portffolios polisi Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y polisi cyflawnwyr trais yn gydnaws â’r agenda ehangach o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, er enghraifft mewn perthynas â'r strategaeth genedlaethol newydd, dangosyddion cenedlaethol ac ati.

Goruchwylio'r broses o ddyrannu a rheoli grantiau Llywodraeth Cymru (refeniw neu gyfalaf) sy'n gysylltiedig â’r polisi cyflawnwyr trais. 


Glasbrintiau

Arwain y gwaith o ddatblygu a threialu model a arweinir gan seicoleg ar gyfer system cyfiawnder menywod yng Nghymru, gan ddarparu arbenigedd ac arweiniad i sicrhau bod holl weithgarwch ffrydiau gwaith y glasbrint ar gyfer troseddu ymhlith menywod yn cael ei arwain gan seicoleg, ac yn rhoi sylw i faterion yn ymwneud â rhywedd a thrawma.

Arwain ffrwd waith dedfrydau cymunedol amlasiantaethol Cymru gyfan y glasbrint ar gyfer troseddu ymhlith menywod, gan osod cyfeiriad y ffrwd waith, symbylu aelodau i gyfrannu at gerrig milltir a sicrhau bod momentwm yn cael ei gynnal. Bydd hyn yn cynnwys (er enghraifft) arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu'r fframwaith hyfforddi ar gyfer y glasbrint cyffredinol.

Darparu arbenigedd (sy'n adlewyrchu gwybodaeth am bynciau yn ogystal â dealltwriaeth ymarferol o’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru) i lywio datblygiad Canolfan Breswyl i Fenywod Cymru, gan sicrhau bod hyn yn gydnaws â ffrwd waith ehangach dedfrydau cymunedol a manylion gweithredu’r glasbrint. 

Arwain y ffrwd waith ymchwil a gwerthuso ar gyfer glasbrintiau troseddu ymhlith menywod a’r system cyfiawnder ieuenctid, gan ddarparu arbenigedd i sicrhau bod gweithgarwch y ddau lasbrint yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth, a bod yna werthuso cadarn ar effeithiolrwydd prosiectau unigol a systemau cyfan.

Gweithio fel rhan o dîm prosiect glasbrint troseddu ymhlith menywod i sicrhau dull integredig o weithredu.

Eistedd ar grŵp glasbrintiau’r Dirprwy Gyfarwyddwyr, gan weithio gydag arweinwyr polisi ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau aliniad a chefnogaeth berthnasol.

Arwain trafodaethau gydag arweinwyr polisi Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a Swyddfa Gartref y DU i sicrhau aliniad perthnasol y llywodraethau a chefnogaeth i amcanion y ffrwd waith ymchwil a gwerthuso, yn ogystal ag ar gyfer y model cyffredinol a arweinir gan seicoleg ar gyfer y glasbrint troseddu ymhlith menywod. 

Rhoi adroddiadau cynnydd i Fwrdd Prosiect Glasbrintiau Troseddu ymhlith Menywod a’r System Cyfiawnder Ieuenctid fel aelod a chefnogi gweithgarwch ffrydiau gwaith eraill, gan gymryd rôl arweiniol o ran sicrhau dull egwyddorol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, o fynd i'r afael â materion ar draws y ddau lasbrint.

Darparu adroddiadau cynnydd rheolaidd ar y ffrydiau gwaith ymchwil a gwerthuso, yn ogystal ag ar weithredu'r model cyffredinol a arweinir gan seicoleg, i Fwrdd y Rhaglen Glasbrintiau, gan gyfeirio materion i lefel uwch lle bo angen, tynnu sylw yn glir at risgiau a chynnig atebion i’w cymeradwyo. Datblygu a chyflwyno Achosion Busnes i Fwrdd y Rhaglen mewn ymateb i alw cyfnewidiol/cynyddol ar adnoddau. 

Cynrychioli Llywodraeth Cymru ar grŵp comisiynu gwasanaeth Cynllun Braenaru Dulliau System Gyfan ac Ymyriadau Cynnar i Fenywod 18-25. Bydd hyn yn cynnwys arwain ar ofynion gwerthuso'r prosiect hwn.

Cysylltu â thîm glasbrint system cyfiawnder ieuenctid Llywodraeth Cymru i sicrhau dull cyson ar draws y glasbrintiau, gan ddarparu arbenigedd ar feysydd blaenoriaeth, gan gynnwys datblygu model newydd ar gyfer cadw pobl ifanc yn y ddalfa yng Nghymru.

Arall 

Defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd i ddarparu ymgynghoriaeth ad hoc a chyngor arbenigol (yn fewnol ac yn allanol) ar feysydd polisi blaenoriaeth sy'n berthnasol i gyfiawnder troseddol, megis cam-drin/camfanteisio'n rhywiol ar blant, llysoedd plant a theulu, carchardai a phrawf, diwylliannau ac amgylcheddau adsefydlu, caethwasiaeth fodern, eithafiaeth, diogelu, iechyd troseddwyr (gan gynnwys iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau), tai i droseddwyr, anhwylder personoliaeth, trawma (gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma (PTSD)), dulliau iechyd y cyhoedd o atal trais, goruchwylio'r gweithlu a lles, hunan-niweidio a hunanladdiad, ac ati. Gallai hyn gynnwys:

Arwain ffrwd waith poblogaeth droseddu Straen Trawma Cymru, o'i dechrau i'w gweithredu, gan sicrhau bod uwch arweinwyr yn cael eu cynnwys o bob asiantaeth allweddol.

Bod yn aelod cyswllt o Uned Atal Trais Cymru, gan ddarparu ymgynghoriaeth arbenigol ar ddatblygu gwaith ymchwil ac arferion mewn perthynas â chyflawnwyr trais.

Darparu arbenigedd ym maes cyflawnwyr trais ar gyfer ffrwd waith hyfforddi a dysgu'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl, gan gynghori ar welliannau systemig i’r ffordd rydym yn dysgu o adolygiadau o Ddynladdiad Domestig, Ymarfer Plant, Iechyd Meddwl ac adolygiadau ffurfiol perthnasol eraill.

Darparu cyngor arbenigol ar weithredu Gofynion Triniaeth ar gyfer Dedfrydau Cymunedol yng Nghymru. 

Bod yn rheolwr llinell ar staff sy'n cyfrannu at unrhyw un o'r gweithgareddau uchod, a’u goruchwylio. Gallai hyn gynnwys staff ar secondiad o sefydliadau allanol, graddedigion llwybr carlam, interniaid ymchwil, ac ati. 

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i: 

•    arwain ar weithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisi
•    gweithio ar draws meysydd polisi'r llywodraeth, gan gydweithio â phartneriaid mewnol ac allanol
•    cael cipolwg ar fecanweithiau Llywodraeth Cymru.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu’r hyfforddiant perthnasol i ddeiliad y swydd i’w alluogi i gyflawni ei rôl yn effeithiol.

Os yw’n aelod o gorff proffesiynol perthnasol (ee Cymdeithas Seicolegol Prydain), yn amodol ar y costau a’r dystiolaeth o’r budd i Lywodraeth Cymru, caiff ei gefnogi i fanteisio ar gyfleoedd DPP arbenigol yn unol â’r gofynion.

Dyddiad Cau

29/06/21 16:00

Hyderus o ran Anabledd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

CYMWYSEDDAU:

GWELD Y DARLUN CYFLAWN: Sicrhau bod materion perthnasol sy’n gysylltiedig â’u gweithgareddau/meysydd polisi yn cael eu bwydo’n effeithiol i drafodaethau ynghylch strategaethau a’r darlun cyflawn. 

ARWAIN A CHYFATHREBU: Bod yn agored a chroesawgar i safbwyntiau pobl eraill ac ymateb iddynt (er gwaethaf pwysau i’w hanwybyddu).

GWEITHIO AR Y CYD AC MEWN PARTNERIAETH: Sicrhau bod partneriaid yn cael eu cynnwys yn y broses o wireddu canlyniadau busnes, drwy gydweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.

GWNEUD PENDERFYNIADAU EFFEITHIOL: Dadansoddi a gwerthuso data o wahanol ffynonellau er mwyn pennu manteision ac anfanteision a phennu risgiau, gan wneud penderfyniadau priodol. 

MEINI PRAWF PENODOL I’R SWYDD:

1. Byddai disgwyl i ddeiliad y swydd ddangos cryn wybodaeth a sgil yn y maes, a thystiolaeth o gofrestriad proffesiynol perthnasol (e.e. fel Seicolegydd Siartredig gyda’r BPS, Seicolegydd Cofrestredig gyda’r HCPC, Gwyddonydd Siartredig) a chymwysterau academaidd (ar lefel ddoethuriaeth).

2. Byddai angen i ddeiliad y swydd fod â phrofiad clinigol sylweddol, gan gynnwys asesu a thrin cyflawnwyr trais gwrywaidd a benywaidd yn uniongyrchol (amrywiaeth o droseddau, gan gynnwys trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol) ar draws gwahanol leoliadau yn y system cyfiawnder troseddol (gwahanol gategorïau o garchardai, lleoliadau diogel, cymunedau), gan gynnwys y defnyddwyr gwasanaethau hynny sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth.

3. Dylai hefyd fod â phrofiad o arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu gwasanaethau o ansawdd uchel ar gyfer cyflawnwyr trais.

Proses Asesu

Caiff y cyfweliad ei gynnal yn rhithiol, a chaiff yr ymgeiswyr eu profi yn erbyn yr holl gymwyseddau a’r manylion sy’n benodol i’r swydd, a hynny ar ffurf cyfuniad o gwestiynau, cyflwyniad a chwestiwn senario – rhoddir mwy o fanylion ichi os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio.

Gwybodaeth arall

Alyson Francis - alyson.francis@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.